Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ble mae'r comisiynydd?

Vaughan Roderick | 11:46, Dydd Mawrth, 20 Tachwedd 2007

Bu farw Comisiynydd Plant Cymru Peter Clarke ym Mis Ionawr eleni. Roedd sefydlu ei swydd yn un o gyflawniadau mawr y cynulliad cyntaf, rhywbeth yr oedd gwleidyddion o bob plaid yn brolio amdani. Ond dyma i chi beth rhyfedd. Os ydy'r swydd mor bwysig pam ar y ddaear y mae'n cymryd cymaint o amser i'w llenwi?

Ymddangosodd yr hysbyseb am y swydd ym Mis Awst wyth mis ar ôl marwolaeth Mr Clarke ac mae'n annhebyg y bydd ei olynydd wrth ei waith tan Mis Chwefror neu Fis Mawrth flwyddyn nesaf.

Yn y cyfamser mae'r dirprwy comisiynydd yn ymgymryd â'r gwaith ond ydy hynny'n ddelfrydol? Ydy dirprwy a'r un awdurdod neu'n debyg o fod mor ddi-flewyn ar dafod a chomisynydd go iawn? Go brin.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:58 ar 20 Tachwedd 2007, ysgrifennodd Bethan Jenkins:

    Dwy ddim yn credu fod hwn yn deg i'r Dirprwy.Mae hi'n gwneud gwaith gwych yn y maes ar hyn o bryd, ac mae adroddiad diweddara swyddfa'r Comisinydd yn testament o hynny. Mae disgwyl bydd y cyhoeddiad am y Comisiynydd newydd yr wythnos nesaf. Mae pobl ifanc eto wedi cael mewbwn yn y trafodaethau ar y penodiad sydd yn agwedd cadarnhaol iawn o'r system.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.