Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cuddio fel Lembit

Vaughan Roderick | 09:32, Dydd Gwener, 23 Tachwedd 2007

Mae 'na stori ryfedd iawn ar dudalen flaen y Western Mail heddiw. O dan y pennawd "" mae'r papur yn dweud hyn;

"AN OBSCURE paragraph buried in a new Act of Parliament could result in the wholesale scrapping of councils across Wales. A clause in the virtually undiscussed Local Government and Public Involvement in Health Act gives the National Assembly the right to abolish and amalgamate the 22 unitary councils in Wales."

Wel, mae'n rhaid bod ystyr y geiriau "hidden" ac "obscure" wedi newid. Roedd y cymal hwn yn gudd yn yr un ffordd ac mae Jordan a Peter Andre neu Lembit Opik, dyweder, yn gudd.

Yn wir cafwyd tipyn o storm pan gynhwyswyd y pwerau yn y papur gwyn ar lywodraeth leol ym Mis Hydref 2006. Gwadodd llywodraeth y cynulliad ei bod wedi gofyn am y pwerau nes i Swyddfa Cymru gyhoeddi llythyr o Fae Caerdydd yn gwneud yr union gais.

Achoswyd gryn embaras i'r gweinidog Sue Essex ac roedd y stori yn flaenllaw ar raglenni radio a theledu ac, am wn i, tudalennau'r Western Mail.

Gair i gall. Dyw'r ffaith bod ymchwilydd plaid wleidyddol newydd ddarganfod rhywbeth ddim yn golygu nad oedd pawb arall yn gwybod!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:12 ar 23 Tachwedd 2007, ysgrifennodd Dafydd "dan y lach" Iwanynyglaw:

    O gysidro fod rhai cynghorau yn cynnig gwasanaethau i chwarter miliwn o bobl yn Lloegr, y mae hi braidd yn hurt fod yna 22 cyngor rhwng 3m o bobl yng Nghymru. Ar y lleiaf, nid oes angen mwy na dau (1 i Forgannwg-Mynwy, a'r llall i weddill y wlad) gyngor i ddelio gydag addysg, trafnidiaeth a gwasanaetha cymdeithasol Yn wir, byddai un cyngor addysg o fudd gyda darpariaeth well o addysg Gymraeg drwy'r wlad.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.