Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wps!

Vaughan Roderick | 13:44, Dydd Iau, 22 Tachwedd 2007

Mae pawb yn gwneud camgymeriadau weithiau. Roedd hi'n ddiddorol darllen blog Adam Price ynghylch llwyddiannau llywodraeth yn y cynulliad. Dyma flas o'r hyn oedd ganddo i ddweud.

"Poring over the details of the One Wales budget you'll find there's twenty four specific commitments in line with Plaid's election manifesto. As someone closely involved in the manifesto process there's a real sense of achievement that these ideas have made that journey from pledge to policy."

Ymhlith y pedwar ar hugain o bethau sy'n cael eu rhestri gan Adam mae;

"2. £1.75 million over 3 years to pilot a free lap-top scheme for pupils"

Da iawn, ond pa gyllideb mae Adam yn ei darllen tybed? Does 'na ddim swm wedi ei benodi ar gyfer y cynllun hwn yn y gyllideb sydd o'm mlaen i ond yn ôl swyddogion a gweinidogion rhyw saith can mil o bunnau fydd yn cael ei gwario dros y tair blynedd gyda''r arian yn dod o'r gyllideb addysg. O wel, beth yw miliwn o bunnau rhwng ffrindiau?

Fe fyswn i'n cynnwys linc i sylwadau Adam ond am ryw reswm maen nhw wedi diflannu o'i flog!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:38 ar 22 Tachwedd 2007, ysgrifennodd Huw Chambers:

    Fel athro, ac aelod o Blaid Cymru, teimlaf fod y polisi cliniaduron ynn ffwlbri llwyr. Mae camddefnydd o T.G. yn rhemp ymysg disgyblion ysgol, ac mewn cyfnod pryd mae pob awdurdod addysg yn gorfod crebachu gwasanaethau a swyddi, mae'i weld yn ddi-angen. Pwy sy'n mynd i drwsio'r rhain ? Beth os yw disgybl yn malu ei 3ydd neu 4ydd mewn blwyddyn ? (mae'n digwydd gyda popeth arall) . Nid yw pobl fel Adam Price byth yn dod ar draws disgyblion ysgol, mae'n siwr, felly gall barhau i freuddwydio yn ei dwr ifori yn Llundain.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.