Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwasgfa ar Rhodri Glyn

Vaughan Roderick | 13:24, Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2008

Dw i ddim eisiau dychwelyd at y pwnc yma'n rhu aml ond mae 'na ambell i ddatblygiad yn y ffrwgwd ynghylch y wasg Gymraeg. Tra bod Cymdeithas yr Iaith yn trefnu yn galw ar y llywodraeth i neilltuo swm digonol yn benodol ar gyfer sefydlu papur dyddiol mae'r Torïaid hefyd wedi bod yn ychwanegu at y pwysau. Mewn cynhadledd newyddion heddiw dychwelodd Nick Bourne at y pwnc gan ddweud bod angen rhywle rhwng chwe chan mil a miliwn o bunnau i sefydlu papur ac y byddai'r Torïaid yn pwyso am hynny.

Yn y cyfamser mae 'na sibrydion ymhlith newyddiadurwyr y cynulliad bod cwmni Trinity Mirror yn paratoi cais am arian. Mae'n bosib y bydd y cais hwnnw yn seiliedig ar ffurf estynedig o atodiad "Herald Cymraeg" y Daily Post gyda'r Western Mail hefyd yn ei ddosbarthu. Fe gawn weld.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:38 ar 21 Chwefror 2008, ysgrifennodd twm:

    Annwyl Vaughan,

    Ydy S4C yn fynd i cario ymlaen yn newid amser darlledu CF99 o wythnos i wythnos ac os ydynt os modd wneud yn siwr fod y rhaglennu diweddaraf ar gael ar y we?

    Diolch

  • 2. Am 13:15 ar 21 Chwefror 2008, ysgrifennodd Vaughan:

    Twm,

    9.30 fydd yr amser am rai wythnosau o leiaf. Mae'r newidiadau amser yn boen i ni hefyd!
    Mae'n bosib gwylio rhan o'r rhaglen o'r ddolen uchod ond oherwydd cymhlethdodau'r cytundebau rhwng y Ö÷²¥´óÐã ac S4C dim ond gwefan S4C sydd a'r hawl i'w ddangos yn ei hyfanrwydd. Am yr un rheswm dyw rhaglenni Cymraeg y Ö÷²¥´óÐã (yn wahanol i raglenni Gaeleg) ddim ar gael ar i-player.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.