主播大秀

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Maddeuwch i mi...

Vaughan Roderick | 18:55, Dydd Sadwrn, 29 Mawrth 2008

Draw i Gasnewydd heddiw ar gyfer cynhadledd Plaid Cymru a sawl (wel, ambell) un yn gofyn pam nad ydwyf wedi blogio am ychydig. Y rheswm syml yw bod gen i dair wythnos o wyliau. Maddeuwch i mi, fe fydd yn rhaid i mi gofio gadael nodyn y tro nesaf!

Ta beth roeddwn i yn 么l yn gweithio am y dydd heddiw ac yn cael cyfle i weld y ffordd y mae grym yn newid Plaid. Cymerwch un enghraifft, tan yn ddiweddar fe fyddai adloniant yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn golygu dal bws i rhyw sgubor yn rhywle ar gyfer Twmpath. Nid felly yng Nghasnewydd. Mae Plaid Cymru yn cynnal cinio mawreddog hen yng ngwesty y 鈥淐eltic Manor鈥. Y pris? 拢75 (heb gynnwys gwin). Credwch neu beidio mae cant chwedeg o bobol yn mynd.

A phwy yw hwnna yn nghyntedd y gynhadledd? Wel pwy fyddai'n meddwl? Steve Morgan, neb llai. Y lob茂wr a fu'n rhedeg ymgyrch Peter Hain am y dirprwy arweinyddiaeth Llafur. Cofiwch, efallai bod na fwy o groeso iddo fe fan hyn na fyddai 'na yng Nghastell Nedd y dyddiau yma.

Yr hyn sy'n rhyfeddol yma yw bod pawb yma mewn hwyliau rhyfeddol o dda. Anghofiwch am yr helyntion ynghylch 鈥淵 Byd鈥 ac ysgolion Gwynedd mae hon yn blaid sy'n rhyfeddol o hyderus. Fe ddaw diwedd ar y mis mel, heb os, ond does dim arwydd o hynny eto. Tri chant yn y gynhadledd (y nifer fwyaf erioed mewn cynhadledd wanwyn) a dim un ohonyn nhw'n grwgnach.

Llais Gwynedd? Dim problem. Fe fydd na fwy na digon o seddi annibynnol yn 鈥渄od drosodd鈥 i'r Blaid i wneud yn iawn am unrhyw golledion. 鈥淵 Byd鈥? Penderfyniad call er mwyn osgoi methiant anorfod (nid bod modd dweud hynny ar goedd wrth gwrs).

Fe gawn weld ymhen y mis faint o sail sy na i'r holl optimistiaeth yma.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:59 ar 1 Ebrill 2008, ysgrifennodd Helen:

    B没m innau yng Nghynhadledd Wanwyn y Blaid ac, yn wir, roedd y naws yn hynod o optimistaidd, yn enwedig o gofio'r helyntion presennol yng Ngwynedd. Efallai, yn wir, y bydd y Blaid yn gwneud yn dda yn y De - os yw'r awdurdodau addysg lleol yn y dinasoedd a'r cymoedd yn llusgo eu traed o ran ateb y galw lleol cynyddol am addysg Gymraeg, ac o ran ad-drefnu dalgylchoedd ysgolion cynradd er mwyn creu lle ar gyfer unrhyw ddarpariaeth newydd a fo'n angenrheidiol, efallai y gall y Blaid elwa ar hynny. Byddai'n eironig iawn pe bai hynny'n digwydd, o gofio mai addysg yw'r pwnc mwyaf cynhennus yng Ngwynedd ar y funud, a'r mater sydd fwyaf tebygol o effeithio ar fwyafrif y Blaid ar y Cyngor ar 么l 1 Mai.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.