Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pen ar y bloc

Vaughan Roderick | 15:13, Dydd Mercher, 30 Ebrill 2008

Y diwrnod cyn etholiad y cynulliad fe wnes i roi fy mhen ar y bloc a gwneud ambell i broffwydoliaeth. Roedd y canlyniadau'n gymysg a dweud y lleiaf! Serch hynny dw i am fentro eto gan lwyr ddisgwyl bod yn gyfan gwbwl anghywir mewn sawl ardal. Dyma nhw felly, fy mhroffwydoliaethau ynghylch yr hyn fydd yn digwydd yfory.

O safbwynt nifer y seddi dw i'n rhagweld mai'r Ceidwadwyr fydd y buddugwyr mawr yfory. Mae hynny'n weddol sicrl oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer ymgeiswyr y blaid yn arbennig mewn ardaloedd fel Sir Benfro a Phowys. Does dim amheuaeth yn fy meddwl i chwaeth y bydd y Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif ym Mro Morgannwg.

Yn 2004 enillodd y Torïaid lai o seddi (107) na Llafur (478), Plaid Cymru (174) a'r Democratiaid Rhyddfrydol (146), heb son am aelodau annibynnol (322). Dwi'n disgwyl i'r Ceidwadwyr guro'r Democratiaid Rhyddfrydol y tro hwn a bod yn agos at gyfanswm Plaid Cymru.

Mae 'na wobr, sy'n fwy na wobr gysur, i'r Democratiaid Rhyddfrydol sef cyngor mwyaf Cymru, Caerdydd. Yn fy marn i, fe fydd y blaid o fewn llond dwrn o seddi i sicrhâi mwyafrif dros bawb yn y brifddinas gyda Llafur, o bosib, yn drydydd i'r Ceidwadwyr.

Gallai pethau bod yn anoddach i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe, Pen-y-bont a Wrecsam. Mae'n debyg y bydd ffawd y cynghorau hynny yn dibynnu ar drafodaethau ar ôl yr etholiad. Byswn i ddim yn synnu, er enghraifft, i weld cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru i ddiorseddi'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe pe bai'r fathemateg yn caniatáu hynny.

Ar hyn o bryd mae gan Lafur dros hanner y seddi mewn saith ardal. Dw i'n disgwyl i'r blaid gadw ei mwyafrifoedd yn Rhondda Cynon Taf, Castell Nedd-Port Talbot a Thorfaen a'u colli yn Sir Fflint, Caerffili a Blaenau Gwent. Gallai'r sefyllfa yng Nghasnewydd fod yn aneglur oherwydd gohirio'r etholiad mewn dwy ward lle mae ymgeiswyr wedi marw.

Yn y Gorllewin dw i'n amau y gallai Plaid Cymru ddod yn agos at gipio mwyafrif yng Ngheredigion ac ennill tir yng Nghaerfyrddin. Gallai hynny ddigolledi'r blaid am unrhyw golledion yng Ngwynedd.

Fe wnâi orffen trwy son am y cyngor hwnnw. Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn ei chael hi'n anodd deall yr obsesiwn Gwynedd-aidd sy'n haint ymhlith rhai o'r cyfryngau Cymraeg. Yr unig gwestiwn yng Ngwynedd yw a fydd gan Blaid Cymru fwyafrif dros bawb? Does dim amheuaeth mai hi fydd y blaid fwyaf a gan fod y cyngor yn cael ei rhedeg gan fwrdd amlbleidiol mae'n annhebyg y bydd y canlyniad yn gwneud fawr o wahaniaeth i reolaeth neu bolisïau'r cyngor yn y tymor hir.

Nid wfftio pwysigrwydd posib Llais Gwynedd yw dweud hynny. Fe fyddai llwyddiant i'r grŵp hwnnw (ac mae hynny'n golygu ennill o leiaf deg i ddwsin o seddi) yn sicr o effeithio ar y cynllun i adrefnu'r ysgolion yn y sir ac yn arwydd o anniddigrwydd arwyddocaol yn rhengoedd cefnogwyr traddodiadol Plaid Cymru.

Efallai fy mod yn ormod o sing ond dw i'n cofio sawl unigolyn a grŵp sydd wedi addo llawer yn y Gymru Gymraeg ac wedi cyflawni fawr ddim ar ddiwrnod y pleidleisio. A fydd Llais Gwynedd yn fwy arwyddocaol nac ynmdrechion Peter Rogers neu Llais y Bobol ar Ynys Môn neu'r ymgyrch dros faer etholedig yng Ngheredigion? Gwlith y bore neu wrthryfel go iawn? Fe gawn weld.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:59 ar 30 Ebrill 2008, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Difyr iawn, Vaughan. Fe gawn weld beth sy'n digwydd yng Ngwynedd. Fy ngreddf - yn seiliedig ar fy mhrofiadau gyda Llais Ceredigion 4 blynedd yn ol - ydy mai noson siomedig gaiff Llais Gwynedd. Ond pe baent yn gwneud yn dda (ennill 6 neu fwy o seddi, dyweder) byddai'n fwy arwyddocaol nag a awgrymwch. Byddai'n golygu fod gan genedlaetholwyr sy'n wrthwynebus i Blaid Cymru droedle yng Nghymru.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.