Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Etholiadau

Vaughan Roderick | 23:07, Dydd Iau, 1 Mai 2008


Fe fydd rhaglen ganlyniadau Radio Cymru yn cychwyn am 12.30. Mae croeso i chi adael sibrydion neu sylwadau yn fan hyn.

12.13. Sioc fach i ddechrau. Mae John Arthur Jones wedi colli ei sedd.
314 - John Arthur Jones
514 - Rhian Medi (Plaid)

12.50 Clecs; Dyw Dafydd Iwan ddim yn edrych yn ddyn hapus heno... Llais Gwynedd wedi cipio brithdir o Blaid Cymru.... Llafur yn amau eu bod wedi colli rheolaeth ym Mlaenau Gwent. Sibrydion hefyd bod Llafur wedi colli ward Parc Tredegar (maes Eisteddfod Casnewydd) i Blaid Cymru.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:48 ar 2 Mai 2008, ysgrifennodd J. Thomas:

    Ga i ofyn pam nad oes son fyth am bleidleisiau sydd wedi'u sboelio? Rwy wedi bod mewn nifer o 'cownts' ac mae'n amlwg bod nifer sylweddol o bobl yn sboelio'u papurau fel protest. Eto, does neb o'r Wasg yn ystyried hyn. Newyddiaduriaeth wael.

  • 2. Am 19:30 ar 2 Mai 2008, ysgrifennodd Negrin:

    Vaughan - Beth am ddadansoddiad o ganlyniadau Llafur yn Sir Wrecsam, chydig iawn o son sydd wedi bod gan feddwl fod Llafur wedi colli bron i hanner ei seddi a mai y Rh Dem yw'r Blaid hefo mwyaf o seddau (12) ar wahan wrth gwrs i'r Cynghorwyr Annibynnol. Beth am Blaid Cymru yn ennill 4 o seddau mewn ardaloedd traddodiadol Llafur.

  • 3. Am 22:14 ar 2 Mai 2008, ysgrifennodd Dewi:

    Mor anlwcus i'r Blaid yng Nhaerffili - Noel Turner o fewn 10 pleidlais ym Mhengam - Malcolm Pritchard yn colli o 16 ym Mhontllanfraith a Liz Holland 60 tu ol yn ynysddu.
    Dyma'r Annibynwyr:
    Ron Davies
    Colin Hobbs
    Graham Simmonds
    Kevin Etheridge
    Keith Smallmany
    Kay Presley
    Anne Blackman
    Marlene Derrett
    Peter Bailllie

    Mae Graham a Kevin ymysg y bobl mwyaf diwyd rwyf erioed wedi nabod - ac wrth gwrs mae Ron yn ysbrydeidiol....ond ydy rhain yn gallu gweithio gyda'i gilydd? Wm bod - Clymblaid Plaid - Llafur ????

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.