Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hwre Henley

Vaughan Roderick | 13:45, Dydd Gwener, 27 Mehefin 2008

Dyw heddiw ddim yn ddiwrnod da i Lafur. Pumed yn Henley! Pumed? Diawl mae pethau'n edrych yn ddrwg i Gordon ac yntau'n dathlu (?) pen blwydd ei brif weinidogaeth.

Trwy gyd-ddigwyddiad heddiw mae Cymdeithas Cledwyn wedi cyhoeddi canlyniadau ei hymchwiliad i wendid y Blaid Lafur yn yr ardaloedd Cymraeg. Fe ddylai'r adroddiad ymddangos ar wefan y prynhawn yma. Yn y cyfamser cewch glywed Eluned yn trafod yr adroddiad " Dau o'r Bae" ar y podlediad. Gwasgwch y botwm ar y dde i glywed y rhaglen a sylwadau'r cyn AS Gareth Thomas am ddyfodol Gordon Brown.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:58 ar 27 Mehefin 2008, ysgrifennodd monwynsyn:

    Meddwl byddai yn well anfon gair gan fod sylwadau wedi bod yn eithaf hesb yn ddiweddar. Mae Bestan i weld yn dipyn mwy o dynfa !!!

    Roeddwn yn meddwl fod y ddadl ar ddau o'r bae yn ddiddorol yn enwedig y ddadl ar addysg gymraeg. Roedd Angharad Mair tipyn mwy angherddol nag arfer.

    Mae cynghorau llafur wedi llusgo ei traed ar hyn ers blynyddoedd. Tydi cynghorwyr llafur unigol ddim yn meddwl fod hyn o gymorth iddynt ennill pleidleisiau ond mae'r agwedd blwyfol yn niwedio delwedd y blaid yn genedlaethol ac mae'r agwedd yn elyniaethu yn lleol.

    Mae'n atgoffa fi o'r rhai sy'n dweud ei bod yn hoffi teithio ar fws ond yn casau ei cyd-deithwyr.
    Mae Llafur wedi tueddu i gymryd pobl yn ganiataol mewn rhai ardaoledd ac yn fy marn mae'r ymdrechion i gau allan pleidiau eraill (caerfyrddin) yn chwalu'r rhethreg ar lefel genedlaethol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.