Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Barn y Bwci

Vaughan Roderick | 17:55, Dydd Mawrth, 29 Gorffennaf 2008


Mae'n beth amser ers i ni glywed gan Karl y bwci. I'r rheiny ohonoch sydd wedi anghofio Karl oedd gosodwr prisiau betiau gwleidyddol cwmni Jack Brown cyn i'r bwci Cymreig gael ei lyncu gan Ladbrookes. Ta beth, mae Karl wedi bod wrthi yn ceisio proffwydo beth fyddai canlyniadau etholiad cyffredinol yng Nghymru pe bai un yn cael ei gynnal nawr.

Dydw i ddim yn ddeall y pethau 'ma ond mae Karl yn awgrymu mai'r broffwydoliaeth hon fyddai'n cael ei defnyddio fel sylfaen i fetio "spread". Dydw i ddim chwaith yn cytuno'n llwyr a'r darogan. Dw i'n meddwl, er enghraifft, bod Karl yn or-garedig i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Serch hynny mae'r ffaith bod y fath broffwydoliaeth yn gredadwy yn arwydd o ba mor dywyll yw pethau i Lafur. Dyma hi felly.

Llafur; 15 (Aberafan, Dwyrain Abertawe, Alun a Glannau Dyfrdwy, Caerffili, Cwm Cynon, Castell Nedd, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, Delyn, Islwyn, Merthyr a Rhymni, Ogwr, Pontypridd, Rhondda, Torfaen)

Ceidwadwyr; 14 (Aberconwy, Bro Morgannwg, Brycheiniog a Maesyfed, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Gogledd Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, Dyffryn Clwyd, De Clwyd, Gorllewin Clwyd, Gwyr, Mynwy, Pen-y-bont, Preseli Penfro, Wrecsam)

Plaid Cymru; 5 (Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Dwyfor Meirionnydd, Llanelli, Ynys Mon)

Democratiaid Rhyddfrydol; 5 (Gorllewin Abertawe, Ceredigion, Canol Caerdydd, Maldwyn, Dwyrain Casnewydd)

Eraill; 1 (Blaenau Gwent)

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:41 ar 30 Gorffennaf 2008, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Ew, diddorol iawn! Er, rhaid i mi ddweud dwi ddim yn gweld y Dems Rhydd gyda phum sedd - byddwn i'n disgwyl i Lafur cadw Abertawe a Chasnewydd, a Phlaid i'w ymylu hi yng Ngheredigion, a chan ddweud hynny gallai dwy etholaeth Powys droi'n las y tro nesaf - fydd Maldwyn yn ddiddorol.

    Dwi'm yn siwr chwaith a gaiff y Torïaid cymaint â 14 sedd, ond dwi'n meddwl bod 10-12 yn ddigon posibl.

    Fydd Ynys Môn hefyd yn ddiddorol iawn dwi'n meddwl - ras tair ffordd rhwng Plaid, Llafur a'r Torïaid, bydd uwnaith eto yn dibynnu a fydd Peter Rogers yn sefyll, dwi'n siwr.

    Beth bynnag yr union ganlyniadau, mi fetia i rywbeth y bydd hi'n noson hir iawn i Lafur.

  • 2. Am 10:55 ar 30 Gorffennaf 2008, ysgrifennodd Dewi:

    Cytuno ynglyn a'r Dem. Rhydds.
    Colli Ceredigion a Maldwyn. Dddim yn eu gweld yn cipio Dwyrain Casnewydd na Gollewin Abertawe. Un peth dyw Karl heb ystyried efallai yw cymesterau yr ymgeiswyr / aelodau semeddol - o bwys yn llawer o seddi Cymru.

  • 3. Am 14:18 ar 30 Gorffennaf 2008, ysgrifennodd Helen:

    Byddai hynny'n drychineb - fel pe bai'r holl lanast wnaeth y torîaid dan Maggie Thatcher wedi mynd i ebargofiant! A yw'r etholwyr, mewn gwirionedd, wedi anghofio'r holl ddiweithdra ac anobaith wrth i'r gleision ladd diwydiannau cynhyrchu a rhoi miloedd ar filoedd ar y clwt yng Nghymru, a miliynau yn Lloegr, a hefyd ystumio ffigurau diweithdra fel y byddai'r niferoedd i'w gweld yn llai? A yw'r pleidleiswyr, mewn difri calon, wedi anghofio'r modd y bu'r torïaid yn ceisio tanseilio llywodraeth leol gyda'r bwriad o danseilio democratiaeth leol? Ac ati ac ati. Af i ddim i fanylu yn awr, y cwbl a ddywedaf yw y byddai'n dda o beth dysgu hanes cymharol ddiweddar i blant ysgol fel eu bod yn gwybod beth i'w osgoi yn y dyfodol.

  • 4. Am 15:49 ar 30 Gorffennaf 2008, ysgrifennodd Poj:

    Yn ogystal â chymwysterau ymgeiswyr ac aelodau seneddol, rhaid hefyd ystyried gallu'r pleidiau i alw ar fyddin o wirfoddolwyr i ddosbarthu taflenni a chnocio drysau.

    Dyw hyn ddim yn broblem enfawr i Blaid Cymru na'r Democratiaid Rhyddfrydol yn eu cadarnleoedd, ond mae hyn wedi dod yn anos i Llafur a'r Ceidwadwyr yn ystod Etholiadau diweddar.

    A oes gan y Ceidwadwyr digon o wirfoddolwyr i ennill 14 sedd?

  • 5. Am 07:59 ar 1 Awst 2008, ysgrifennodd Negrin:

    Anghytuno hefo Karl ar rhain - Aberconwy a Ceredigion yn mynd i Blaid Cymru. Maldwyn yn mynd i'r Ceidwadwyr. Cytuno'n llwyr yr aith Wrecsam i'r Ceidwadwyr ond mae hyny yn dibynnu ar ymgeisydd y Blaid i ddwyn pleidleisiau Llafur. Dwi'n eith hapus fod Martyn Jones yn Ne Clwyd wedi mynd...a gwynt teg ar ol y dyn diog!!

  • 6. Am 11:14 ar 1 Awst 2008, ysgrifennodd dewi:

    Llanelli yn ddiddorol. Er bod etholiadau lleoll ddim yn golygu popeth mae'n werth cymharu'r canlyniadau:

    2004

    Plaid 5
    Ann 9
    Llaf 16
    Tori 1

    2008

    Plaid 15
    Ann 10
    Llaf 5
    Rhydd Dem 1

    Newid syfrdanol. Gobaith i'r Blaid yma.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.