Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Aber Aber Aber

Vaughan Roderick | 11:29, Dydd Iau, 11 Medi 2008

Nid fy mod i'n un am gredu stereoteip y Cardis -ond ydy unrhyw un yn gallu esbonio pam fod safle yn cynnwys dolen i wefan o'r enw "moneysavingexpert.com"?

Yn Aberystwyth, wrth gwrs, y mae Plaid Cymru yn cyrraedd ei chynhadledd eleni. Dw i'n cadw draw o hon, nid fel protest yn erbyn pa bynnag ynfytyn wnaeth ganiatáu dymchwel Neuadd y Brenin, y neuadd gynadleddau orau yng Nghymru, ond oherwydd fy mod yn synhwyro na fydd hon yn gynhadledd ddiddorol iawn. Mae newyddiadurwyr yn hoffi ffeits a does 'na ddim arwydd o unrhyw gwrthdaro difrifol yn Aber y penwythnos hwn.

Yn y cyd-destun hwn mae sylwadau Dafydd Wigley yn y Daily Post y bore 'ma yn ddiddorol (fersiwn brint yn unig). Apelio am amynedd mae Dafydd yn y bôn. Mae'n dadlau bod hi'n gynnar i fesur perfformaid gweinidogion Plaid Cymru gan fod y peirianwaith llywodraethol o reidrwydd yn symud yn araf. Does dim dwywaith yn fy meddwl y bydd y selogion yn Aber yn derbyn y cyngor hwnnw. Dydw i ddim yn siŵr bod yr un peth yn wir am rai o gefnogwyr traddodiadol y Blaid sy'n llai cibddall yn eu teyrngarwch.

Mae 'na un sylw arall gan Dafydd Wigley y dylai'r Blaid ystyried yn ofalus sef hwn;

"Mae Ieuan Wyn Jones yn wynebu dilema. Fel gweinidog economaidd o'r radd flaenaf mae'n adeiladu hygrededd laid Cymru. Fel arweinydd Plaid mae'n rhaid iddo gymryd golwg fwy eang o'r sefyllfa wleidyddol gan gadw hyd braich o'r manylion dydd i ddydd. Mae angen amser arno i weld y darlun cyfan".

Nawr, mae'n bosib bod Dafydd ond yn gwneud pwynt cyffredinol yn fanna ond mae'n anodd credu nad yw e hefyd yn cyfeirio at gymeriad a phersonoliaeth arweinydd ei blaid.
Dyn manylion yw Ieuan Wyn Jones ac yn ôl gweision sifil mae'n feistr ar ofyn y cwestiynau cywir a mynnu'r holl wybodaeth angenrheidiol cyn cyrraedd penderfyniad.

Ond ydy hynny'n ddigon? Roedd Mike German yn weinidog da ac roedd Jenny Randerson yn weinidog diwylliant penigamp ond doedd hynny o ddim lles etholiadol i'r Democrataid Rhyddfrydol. Roedd gan y blaid strategaeth i geisio elwa o fod mewn llywodraeth. Roedd hi'n strategaeth dda hefyd, wedi ei hanelu at berswadio cefnogwyr Llafur i fwrw eu hail bleidlais ranbarthol dros y Democratiaid Rhyddfrydol. Ond rhywsut roedd y blaid yn rhu prysur yn mwynhau llywodraethu i wireddu'r strategaeth honno.

Ydy'r un peth yn debyg o ddigwydd i Blaid Cymru? Dyna, mae'n ymddangos, yw ofn Dafydd Wigley.

Mae strategaeth Plaid Cymru yn wahanol i un y Democratiaid Rhyddfrydol. I gamddyfynnu Tony Blaid mae'n dibynnu ar dri pheth "etholaethau, etholaethau, etholaethau". Oherwydd natur ddiffygiol system etholiadol y cynulliad lle nad yw'r nifer o seddi rhanbarthol yn ddigon i sicrhâi cynrychiolaeth sy'n wir gyfrannol yr unig fordd i unrhyw un o'r pleidiau eraill dorri crib y Blaid Lafur yw trwy ei churo ar lawr gwlad yn y frwydr etholaethol.

O edrych ymlaen at etholiad nesaf y cynulliad mae'n ddigon hawdd llunio senario lle byddai Llafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr i gyd yn ennill rhwng pymtheg ac ugain o seddi. Ond i hynny ddigwydd mae'n rhaid i'r Cenedlaetholwyr a'r Torïaid gipio seddi etholaethol Llafur yn enwedig yn y tri rhanbarth trefol.

Dyna yw'r "darlun cyfan" y mae Dafydd Wigley yn cyfeirio ato. Ydy Ieuan yn ei weld? Efallai cawn ni ateb yn araith yr arweinydd yfory.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:10 ar 11 Medi 2008, ysgrifennodd Richard Williams:

    Sut mae Vaughan. Dyma linc at erthygl Dafydd Wigley oddi ar wefan Gymraeg y Daily Post


  • 2. Am 22:57 ar 11 Medi 2008, ysgrifennodd Pleidiwr:

    Gobeithio na wnaiff y cynhadleddwyr gael eu tarfu gormod gan feddwyns swnllyd. Mae cynghorydd lib-dem gweithgar a didwyll yn ceisio cael gwared o'r pla yfed sy'n niwsans glan yn Aberystwyth. Beth yw barn un cynghorydd PC ? Peidiwch a amharu ar
    hawliau'r myfyrwyr.
    Mae dogfen gan cyngor Ceredigion yn adangos mor fach yw nifer o'r ysgolion cynradd yn y sir.
    Mae'n arswydus. Gobeithio y gwnaiff y blaid anghofio'r hen obsesiwn 60'au ' Bach yn brydferth' am unwaith. Ond, gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel ........

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.