Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wes Wes

Vaughan Roderick | 12:17, Dydd Gwener, 19 Medi 2008

Mae'n hynod o beryglus i ddarllen gormod o ganlyniadau isetholiadau lleol- yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae'r ymgeisydd yn aml iawn yn bwysicach na'r blaid. Serch hynny yn wythnos eu cynhadledd dyw'r canlyniad o Landudoch yn Sir Benfro ddim yn newyddion da i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ann.; 496
Dem. Rhydd.177,
Dim Disgrifiad 160
Ceid.;57

Mae hynny o gymharu â'r canlyniad ym Mis Mai;

Dem Rhydd.; 677
Ann; 421

O diar! Yn ôl gwefan y cyngor sir mae hynny'n golygu mai dau aelod yn unig sydd ar ôl yn y grŵp "D Rh Plws". Y cwestiwn yw p'un yw'r "D Rh" a p'un yw'r "plws"?

Diweddariad (er mwyn tegwch!); Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cysylltu i frolio eu bod wedi ennill isetholiad cyngor tref yn Aberystwyth neithiwr. Y canlyniad yn ward Rheidol oedd Dem. Rhydd.; 243, PC;167. Yn y cyfamser ar gyngor plwy Cwmsgwt...

Diweddariad i'r diweddariad... Fe gipiodd Plaid Cymru sedd mewn isetholiad arall yn Aberystwyth. Mae'r manylion yn y sylwadau!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:10 ar 19 Medi 2008, ysgrifennodd seren:

    Dwi'm yn credu fod y Lib Dems di bod yn hollol onest am Aber - yn ogystal a chadw sedd yn Rheidol mae nhw hefyd wedi colli un sedd ym Mhenparcau, sy'n golygu fod y Blaid bellach efo 10 o'r 19 sedd ar gyngor y dre.

    Ann O'Rac

  • 2. Am 14:07 ar 19 Medi 2008, ysgrifennodd meurig:

    Mae'n siwr na wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn Aberystwyth ychwanegu mai nhw oedd biau'r sedd yn ward Rheidol i ddechrau? Nac ychwaith y bu is-etholiad cyngor tref arall yn Aber yr un diwrnod yn Ward Penparcau, lle'r canlyniad oedd Plaid Cymru 141, Llafur 117, Dem Rhydd 46, felly Plaid Cymru yn cipio oddi wrth Annibynwr.

    Er mwyn tegwch, ynte!

    Gyda llaw, mae goleuni ar flog cynghorydd yn sir Benfro, Mike Stoddart, ynglyn a tharddiad y grwp 'Lib Dem Plws'. Rhywbeth ynglyn ag e (sy'n Annibynwr Annibynol yn hytrach nag aelod o'r grwp rheoli) yn ymuno a'r grwp Lib Dem dros dro i rwystro'r grwp rheoli rhag cael mwyafrif i feddiannu cadeiryddiaethau ac ati. Ond pwy a wyr beth sy'n wir a gau yng ngwleidyddiaeth Sir Benfro.

  • 3. Am 20:13 ar 20 Medi 2008, ysgrifennodd pleidiwr:

    Bum yn gwylio'r clip 'You tube' enwog. Bobl bach, mae'n ddoniol. Beth am gael mwy ohonynt, a gwneud sbort am ben yr elfen ' gwleidyddol gywir' sy'n lladd diddordeb mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru.
    Beth fydd o dan y lach nesaf, tybed ? Rhestri merched , gobeithio.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.