Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bletchley Park

Vaughan Roderick | 15:41, Dydd Mawrth, 21 Hydref 2008

Oce, dyw'r ras i arwain Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ddim cweit mor afaelgar ac etholiad arlywyddol America. Serch hynny mae'r blaid yn wynebu dewisiadau pwysig, dewisiadau efallai sy'n cael eu celu gan y ffordd gwrtais y mae'r blaid yn cynnal ei hetholiadau mewnol.

Yn ffodus mae gen i sbeis ym mhob man... a pheiriant enigma sy'n gallu torri hyd yn oed y cod mwyaf cymhleth! Mae un asiant cudd wedi peryglu ei fywyd er mwyn sicrhâi fy mod yn derbyn copi o erthygl gan Kirsty Williams fydd yn ymddangos yn y "Liberal Democrat News" ddydd Gwener. Ar yr olwg gyntaf mae'n ymddangos yn ddigon diniwed ond ar ôl cyfieithu'r cod mae'n amlwg bod pethau mawr yn cael eu dweud!

Politics isn't about backroom deals and the same old meetings with the same old people. That's not change. That's not how we're going to make Government, the Assembly and the party more relevant to ordinary people.

Cyfieithiad; Dw i wedi cael llond bol ar bobol yn fy meio i am ddryllio'r "enfys". Dêl wedi ei llunio gan yr arweinyddiaeth, heb unrhyw fath o ymgynghori a'r blaid neu hyd yn oed ei haelodau cynulliad, oedd yr "enfys". Roedd Mike German wedi addo bod gan aelodau'r blaid "glo driphlyg" dros unrhyw benderfyniad. Beth oedd yn bod ar ddefnyddio'r clo hwnnw- clo yr oedd Mike yn brolio amdano'n gyson?

I want to grasp the opportunity of a new generation of Lib Dem leaders across Britain.

Cyfieithiad; Byswn i byth bythoedd yn disgrifio Jenny fel "Mike German mewn sgert" ond...

I make no apologies for saying that the future for the party is winning constituency seats in the Assembly and at Westminster... we mustn't be timid and attempt to only win seats through narrow margins of complicated maths.

Cyfieithiad; Mae 'na ormod o bobol yn ein plaid sy'n chwilio am driciau anarocaidd i ennill seddi rhestr yn y cynulliad. Mae'r system etholiadol yn golygu bod nifer o seddi rhestr yn cael eu didoli ar hap a damwain. Canolbwyntiwch ar ennill seddi etholaethol ac fe ddaw'r seddi rhestr yn eu sgil.

A sut mae gwneud hynny?

We can do this by communicating with them in a language they understand and can relate to; by listening to their views and reflecting their concerns in the issues we as a party are focusing on. We can do this with politics, policies and personalities that are relevant to them. We can do this by offering real solutions to their concerns and problems.

Cyfieithiad; Mae aelodau'n plaid ni yn feistri ar dechnegau ymgyrchu lleol ond mae angen mwy na hynny. Mae angen neges eglur a pholisïau hawdd eu deall. Does dim byd yn bod ar ddefnyddio technegau etholiadol i gynyddu'r bleidlais ond dyw techneg ynddi hi ei hun ddim yn ddigon mae angen sylfaen a sylwedd hefyd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:13 ar 21 Hydref 2008, ysgrifennodd Arwel:

    Dwi ddim yn un i rhoi cyngor i'r Libs ond pam ethol Randerson pan mae arweinydd newydd fod dod a rhyw fath o newid?
    Dddim yn gwybod lot am Kirsty Williams on yn sicr bydd hi medru apelio at rhai pobl Plaid a Llafur. Mae'n swnio fel Cymraes ac yn un o'r nifer fach o AMs sy'n dod ar draws yn dda ar y teledu. Ond mae'n gem i'r ffwl ceisio darogan beth sy'n mynd 'mlaen yn pennau'r Libs yng Nghymru!

  • 2. Am 13:24 ar 22 Hydref 2008, ysgrifennodd Hogygog:

    O son am y ras am y Ty Gwyn, cafodd Joe Biden ei fagu nes ei fod yn 10 oed yn Scranton, y dref fwyaf Cymreig ei threftadaeth yn yr Unol Daleithiau, o be ddeallaf fi. O gofio i Biden wneud ffwl o'i hun yn llenladra araith o
    eiddo Neil Kinnock beth amser yn ol, oes cysylltiad Cymreig ganddo ? , neu ai gweriniaethwyr pybyr yw pawb sydd a'i gwaed yn goch yn yr U.D.?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.