Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Breuddwyd Gwrach

Vaughan Roderick | 11:16, Dydd Iau, 2 Hydref 2008

Sut mae gwireddu breuddwyd? "Build it and they will come" oedd neges y ffilm "Field of Dreams". Mae'n ymddangos mai "Build it and WAG will pay" yw arwyddair rhai o gynllunwyr prosiectau loteri Cymru.

Dydw i ddim am ymhelaethu yn fan hyn am fanylion yr ymchwiliad diweddaraf i broblemau ariannol Canolfan y Mileniwm. Mae'r manylion i gyd ar y . Ond mae 'na batrwm yn fan hyn.

Mae 'na gyfres o brosiectau loteri ar draws Prydain sydd wedi mynd i drafferthion ariannol ar ôl agor ac wedi gorfod gofyn am arian ychwanegol neu, mewn llond dwrn o achosion, gau eu drysau.

Mewn unrhyw faes, wrth gwrs mae cyfran o fentrau newydd yn methu. Y cwestiwn yn fan hyn yw i ba raddau yr oedd hi'n bosib rhagweld y problemau? A oedd cynlluniau busnes gwreiddiol prosiectau fel Canolfan y Mileniwm a'r Gerddi Botaneg yn gynlluniau realistig neu'n gynlluniau oedd wedi eu llunio er mwyn sicrhâi'r grantiau cyfalaf i'w hagor? I fod yn ddi-flewyn ar dafod oedd hyrwyddwyr y mentrau hyn naill ai'n twyllo eu hun neu'n camarwain y cronfeydd loteri yn y gobaith y byddai'r "arian yn dod o rywle" i redeg y prosiectau?

Wrth reswm, mae pob prosiect yn wahanol ond mae ystyried un achos arbennig yn ddadlennol. Ydych chi'n cofio Canolfan y Celfyddydau Gweledol - prosiect oedd mor drychinebus nes iddi orfod cau'i drysau ar ôl ychydig dros flwyddyn? Derbyniodd y ganolfan naw miliwn o bunnau o arian cyhoeddus a loteri ar sail addewid gan y cyfarwyddwyr y byddai na chwarter miliwn o bobol bob blwyddyn yn fodlon talu £3.50 yr un i ymweld ag oriel gelf fodern yng Nghaerdydd. Yn ystod ei hoes fer denodd y ganolfan lai na hanner can mil o ymwelwyr.

Nawr, dw i'n digwydd credu bod angen oriel o'r fath yng Nghymru ond roedd hi'n amlwg i unrhyw un call na fedrai'r fenter ddibynnu ar daliadau mynediad. Ond wrth gwrs does dim angen bod yn gall os ydych chi'n credu y bydd "yr arian yn dod o rywle" ac mae 'na hen ddigon o "ymgynghorwyr" wnaiff gymeradwyo'ch cynllun busnes- am bris.

oedd gan Swyddfa Archwilydd Cymru i ddweud am y llanast yn 2001 (pdf).

The first lottery application assumed 250,000 visitors a year, which was significantly more than all but one cultural and artistic tourist attraction in Wales (St Fagans). This inflated visitor projection... led to an over ambitious revenue target at all stages... The first application for £2 million of lottery funding was not supported by robust or reliable information... many of the key decisions about the viability of the project were based on a feasibility report undertaken in 1992, nearly three years before the first lottery application.

Nid diffyg ymwelwyr yw problem Canolfan y Mileniwm. Mae hi wedi cyrraedd ei thargedi i gyd. Y nam yn y cynllun busnes y two hwn oedd na fyddai'r targedi hynny'n ddigon i gynhyrchu'r incwm oedd ei angen. Mae'r adroddiad cyfan yn. Y gwahaniaeth rhwng y ddwy ganolfan yw bod Canolfan y Mileniwm yn rhy bwysig, yn rhy eiconig, yn rhy fawr i Lywodraeth y Cynulliad ganiatáu iddi gau. Yn yr achos hwn roedd yn rhaid i'r arian ddod o rywle. Built it and WAG will pay.

Cyhoeddwyd canlyniad ymchwiliad Swyddfa Archwilydd Cymru i Ganolfan y Celfyddydau Gweledol ar Dachwedd 15fed, 2001. Ym Mis Ionawr 2002 rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad sêl ei bendith ar gynllun busnes Canolfan y Mileniwm.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:46 ar 4 Hydref 2008, ysgrifennodd arty smarty:

    Mae'n wir ni all y Ganolfan methu oherwydd mae'n rhy bwysig/eiconig ag ati.

    Ond faint mwy o brosiectau celfyddydol llai sy' gorfod methu cyn i'r broses o noddi nhw gael mwy o sgriwtini a rheolaeth cadarn?

    Mae polisiau'r cyngor celfyddydau yng nghymru yn eitha sboradig ar eu gorau, gyda'r limbo diweddar a gorfodir nifer o sefydliadau i boeni am eu dyfodol (megis St Donat's yn y Fro) yn tanseilio unrhyw hyder a fodolodd yn penderfyniadau'r sefydliadau noddiant cyn hynny.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.