Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llyfr Mawr y Plant

Vaughan Roderick | 18:22, Dydd Mercher, 8 Hydref 2008

Dydw i ddim yn meddwl bod "", papur bro Caerdydd, yn bapur sy'n cael sgŵps yn aml. Am wn i mae'r Dinesydd wedi bod ar y blaen ynghylch rhyw ffrwgwd addysg Gymraeg neu helyntion parcio Capel y Tabernacl o bryd i gilydd ond mae'n debyg bod yr achosion hynny'n ddigon prin.

Ond mae hyd yn oed y gwas bach yn haeddu ei geiniog weithiau a'r Dinesydd oedd y i dynnu sylw at gynlluniau Cyngor Caerdydd i werthu cyfrolau a dogfennau gwerthfawr o gasgliad llyfrgell y ddinas. Nododd y papur fod Cylch Llyfryddol Caerdydd (corff chwyldroadol a pheryglus os buodd un erioed) wedi mynegi pryder.

Prynwyd y llyfrau yn oes aur Fictoraidd ac Edwardaidd y ddinas pan oedd Caerdydd ac Aberystwyth yn cystadlu a'i gilydd i fod yn gartref i Amgueddfa a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn y diwedd rhannwyd y wobr wrth gwrs. I Aber aeth y Llyfrgell a phwdodd bwrdeiswyr Caerdydd. Cadwodd y cyngor ei afael ar ei drysorau printiedig gan adael i egin lyfrgell Aberystwyth gychwyn ei chasgliad o'r cychwyn.

Mae'n ymddangos erbyn hyn y gallai nifer o'r cyfrolau diweddu yn y Llyfrgell Gen. wedi'r cyfan. Dycnwch y criw bach o ymgyrchwyr sydd i ddiolch am hynny. Cytunwyd heddiw y bydd pwyllgor o fawrion y byd llyfryddol yn penderfynu pa gyfrolau sy'n rhaid eu "hachub i'r genedl" a pha rai y gall Caerdydd eu gwerthu.

Mae gen i dipyn o gydymdeimlad a Nigel Howells, y Democrat Rhyddfrydol hawddgar a dymunol sy'n gyfrifol am lyfrgelloedd y Brifddinas. Wedi'r cyfan doedd y cyngor ddim yn bwriadu gwerthu cyfrolau oedd yn berthnasol i Gymru nac ychwaith cyfrolau yr oedd galw mawr amdanynt gan ddefnyddwyr y Llyfrgell Ganolog. Doedd na erioed unrhyw beryg y byddai Canu Aneirin nac unrhyw un o drysorau Cymreig eraill Cyngor Caerdydd yn diweddu ar silff lyfrau rhyw brifysgol yn Texas neu California!

Yn y cyfamser peidied neb a meddwl bod plwyfoldeb mewnblyg y frwydr wreiddiol rhwng Caerdydd ac Aber wedi diflannu o'n tir. Ddydd Llun fe gyflwynodd Leslie Griffiths AC Wrecsam ddatganiad barn wedi ei arwyddo gan hanner dwsin o aelodau cynulliad Llafur a Cheidwadol.

Dyma mae'r datganiad yn ei ddweud;

Mae'r Cynulliad hwn yn mynegi ei bryder difrifol a pharhaus ynghylch cynlluniau gan Gyngor Dinas Caerdydd i werthu mewn arwerthiant rai o destunau hanesyddol gorau Cymru, er mwyn lliniaru effeithiau anallu ariannol yr awdurdod; yn cydnabod y gwrthwynebiad ar hyd a lled y wlad i agwedd ansensitif a diddiwylliant y Cyngor at ofalu am arteffactau pwysig o hanes ein gwlad; ac yn galw ar y Cyngor i roi'r gorau ar unwaith i unrhyw gynlluniau i arwerthu'r llyfrau, nes bod menter Llywodraeth y Cynulliad i ddiogelu eu dyfodol wedi cael ei harchwilio'n llawn.

O fewn dim daeth gwelliant gan Jenny Randerson;

Dileu popeth ar ôl "Mae'r Cynulliad hwn" a rhoi yn ei le:

"Yn credu y dylai gwleidyddion Wrecsam roi'r gorau i geisio atal Cyngor Caerdydd rhag buddsoddi mewn cyfleusterau llyfrgell yn rhai o ardaloedd tlotaf y ddinas, ac yn credu bod ymdrechion o'r fath yn profi'r safbwynt cywilyddus mai dim ond rhai pobl ddylai allu mwynhau treftadaeth Cymru yn hytrach na thrwch y boblogaeth"

Neu mewn geiriau eraill "cadwa dy drwyn mas o'n busnes ni y gog yffarn!". Mae Jenny wrth gwrs yn cynrychioli Canol Caerdydd. Yr unig broblem yw bod Lorraine Barrett yn un o'r aelodau wnaeth arwyddo'r cynnig gwreiddiol- a lle mae ei hetholaeth hi, dywedwch?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.