Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tra môr

Vaughan Roderick | 14:12, Dydd Gwener, 17 Hydref 2008

Dw i wedi sgwennu o'r blaen am y rôl ryfedd y mae'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol o Gymru yn chwarae yng ngwleidyddiaeth waedlyd Somalia. Yn y bôn mae gwleidyddion Cymreig yn gweithredu fel rhyw fath o ddolen gyswllt answyddogol rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraeth de-facto Somaliland y cyn-drefedigaeth Brydeinig wnaeth gyhoeddi ei hannibyniaeth o weddill Somalia yn 1991. Does 'na'r un wlad yn y byd yn cydnabod yr annibyniaeth honno'n swyddogol ond mae 'na gydnabyddiaeth bod yr awdurdodau yn Hargeisia wedi llwyddo i sicrhâi nad yw eu tiriogaeth yn dioddef yr un anarchiaeth waedlyd a gweddill y wlad. Dyna'r rheswm y mae'r Swyddfa Dramor wedi rhoi rhwydd hynt i'r Cynulliad ddatblygu cysylltiadau agos a gwleidyddion Somaliland.

Dyw e ddim yn gyd-ddigwyddiad felly bod yr Ysgrifennydd Tramor David Milliband yn cwrdd â "chynrychiolwyr o'r gymuned Somali" yn ystod ei ymweliad a Chaerdydd heddiw. Mae'r rhain yn bobol sy'n agos iawn at awdurdodau Somaliland a heb os anghenion y dalaith honno fydd yn cael eu lleisio yn y cyfarfod.

Mae hanes y gymuned Somali yng Nghaerdydd yn ddiddorol. Mae'n un o'r cymunedau lleiafrifol hynaf yn y ddinas ond hi hefyd, o bell ffordd, yw'r mwyaf difreintiedig. Mae tlodi, wrth gwrs, yn gymharol ac mae rhoddion o Gaerdydd yn cynrychioli cyfran sylweddol o incwm Somaliland.

Trwy gyd-ddigwyddiad nid hwn yw'r tro cyntaf i un o gymunedau Mwslimaidd Caerdydd chwarae rhan bwysig mewn brwydr wleidyddol yn un o wledydd y Môr Coch. Yn 1948 fe ddechreuodd Sheikh Abdullah Ali al-Hakimi, arweinydd Mosg Peel Street, gyhoeddi Al-salam, y papur newydd Arabeg gyntaf ym Mhrydain. Roedd Sheikh Abdullah hefyd un o arweinwyr Mudiad Rhyddid Yemen, grŵp oedd yn brwydro dros sefydlu llywodraeth ddemocrataidd yn y wlad honno. Ar ôl cael ei arestio, ac yna ei ryddhâi, gan yr awdurdodau Prydeinig yn Aden fe fu farw mewn amgylchiadau sy'n ddirgelwch hyd heddiw.

Fel mae'n digwydd Yemen yw'r peth agosaf sy 'na at wlad ddemocrataidd ar benrhyn Arabia er ei bod wedi cymryd degawdau lawer i gyrraedd y sefyllfa honno. A fydd breuddwydion Somaliaid Caerdydd yn cael eu gwireddu? Fe gawn weld.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.