Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Iesgob

Vaughan Roderick | 17:00, Dydd Iau, 20 Tachwedd 2008

Y prynhawn bu aelodau o grŵp "Cymru Yfory" yn cynnal cyfarfod yn y cynulliad i drafod eu tystiolaeth i Gonfensiwn Syr Emyr Jones Parry. Yn ddigon addas, fe fydd yn rhaid i chi aros tan yfory i wybod mwy gan fod 'na embargo ar y cynnwys.

Archesgob Cymru oedd yn cadeirio'r gynhadledd ac mae hynny'n codi, unwaith yn rhagor, gwestiynnau ynghylch rôl arweinwyr crefyddol yn y broses wleidyddol. Y duedd yw wrth gwrs i fudiadau a phobol groesawi cefnogaeth crefyddol i'w safbwyntiau eu hun a chwyno am ymyrraeth os ydyn nhw'n anghytuno a'r achos. Mae 'na hen ddigon o bobol oedd yn falch o gefnogaeth eglwysig i'r ymgyrch yn erbyn rhyfel Iraq tra'n diawlio safiad rhai o'r eglwysi ynghylch erthylu.

Dyw e ddim yn bosib wrth gwrs i wahanu crefydd a gwleidyddiaeth yn llwyr. Fe fyddai'n afresymol i ddisgwyl i grefyddau mawr y byd gadw'n dawel am bynciau moesol mawr y dydd. Serch hynny mae angen i'r eglwysi bod yn ofalus. Yn California, er enghraifft mae pethau wedi troi'n chwerw iawn ar ôl i'r Eglwys Formonaidd arllwys arian ac egni i mewn i ymgyrchu dros newid cyfansoddiadol i wahardd priodasau hoyw. Canlyniad posib hynny yw y bydd crefydd oedd yn raddol cael ei dderbyn yn cael ei wthio yn ôl i gyrion y gymdeithas y tu allan i'w chadarnleoedd.

Dyw achos Archesgob Cymru a "Chymru Yfory" ddim yn cymharu â hynny wrth gwrs. Go brin y bydd gwrthwynebwyr datganoli yn tarfu ar wasanaethau'r Eglwys yng Nghymru i brotestio yn erbyn Barry Morgan. Ond mewn un ystyr mae ei safiad yn anoddach i gyfiawnhau. Er da neu er drwg mae gan grefyddau eu safbwyntiau moesol a diwinyddol ynghylch rhywioldeb a phriodas. Hyd y gwn i does na ddim sail foesol na diwinyddol i gefnogi pwerau deddfu llawn i'r cynulliad yn hytrach 'na cheisiadau cymhwysedd deddfwriaethol. Map pob hawl gan yr Archesgob i'w farn bersonnol ei hun wrth gwrs ond ydy hi'n briodol iddo ddefnyddio ei swydd i ymyrryd mewn dadl sydd, yn ei hanfod, yn un cyfan gwbwl gwleidyddol?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:10 ar 21 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Postiad difyr tu hwnt Vaughan. Hoffwn ymateb i'r frawddeg: "Hyd y gwn i does na ddim sail foesol na diwinyddol i gefnogi pwerau deddfu llawn i'r cynulliad yn hytrach 'na cheisiadau cymhwysedd deddfwriaethol."

    Wrth gwrs, does dim sail ddiwinyddol uniongyrchol i'r ddau fanylyn yna ond mae, wrth gwrs, sail ddiwinyddol i genedlgarwch. Cwestiwn creiddiol sydd yn rhaid i genedlaetholwyr ddelio ag ef yw; pam y genedl? Beth sydd mor arbennig am y genedl fel bod rhaid cymryd mesurau i'w gwarchod a'i chynnal? Byddai R. Tudur Jones wastad yn dechrau gyda Genesis 111, lle ceir hanes adeiladu Tŵr Babel a chymysgu'r ieithoedd ac yn dweud bod Duw yn chwalu imperialaeth a gosod amrywiaeth fel trefn ar y ddaear. Dywedodd RTJ am y bennod yma; 'Lle'r oedd dyn yn adeiladu unffurfiaeth, mynnodd Duw greu amrywiaeth'. Dywedodd fod di-wreiddio'r genedl Gymreig '...yn enw rhyw gyd-wladoldeb bas' yn ail adrodd trosedd y rhai a adeiladodd Dŵr Babel. Mae'n bendant ei argyhoeddiad fod cenhedloedd yn rhan o drefn Duw ac yn gweld bod ganddo ef, fel Cristion, rôl i warchod a diogelu trefn Duw i'r graddau nes iddo ddatgan yn 1972, yn ei gyfraniad i gyfrol Dewi Eurig Davies 'Gwinllan a Roddwyd,' fod hybu cenedligrwydd yn '...un o'r amryfal gyfryngau i fynegi gogoniant yr hwn a'n symudodd o dywyllwch'.

    Ond er mwyn ymarfer eich gwlatgaredd yn ymarferol rhaid iddi gael rhaglen wleidyddol yn toes ac mae'r rhaglen wleidyddol honno yn siwr o newid o genhedlaeth i genhedlaeth.Dywedodd Cynog Dafisunwaith mai 'Cenedlaetholdeb yw Gwladgarwch â rhaglen wleidyddol iddi'. Felly yr hyn mae Barry Morgan, gobeithio yn gwneud, ydy derbyn arweiniad yr Ysbryd Glan i lunio rhaglen wleidyddol i'w wlatgarwch sydd yn ein dydd ni yn golygu trafod LCO's!

    Gallw ni fynd i drafod llawer mwy o fanylion am y rationale diwinyddol tu ôl i genedlaetholdeb ond gwell peidio am nawr...

  • 2. Am 13:45 ar 21 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Y peth gorau gallai'r Archesgob wneud yw esbonio i'r pobl yma i hwpo'r broses yn y 'frij' nes bod y 'credit crunch' wedi pasio..

    Mae gweld y broses twp yma yn cario 'mlaen fel bod dim byd wedi newyd ar y'r economi a swyddi pobl yn gwneud i fi moin sgrechen..

    Dihunwch lan bois bach !! A Archesgob 'render unto Caesar...' a phaid a cael dy dynnu mwyn i'r cymysgwch gwleidyddol yma. Neu joina'r 'House of Lords' os taw hwnna yw dy ddelfryd...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.