Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nid aur yw popeth melyn

Vaughan Roderick | 15:09, Dydd Gwener, 14 Tachwedd 2008

Dydw i ddim yn gwybod pam bod dynion yn obsesio ynglŷn â phethau. Ar y cyfan dyw merched ddim yn trafferthu i gasglu ystadegau chwaraeon neu etholiad neu dynnu lluniau o drenau ager neu adar.

Rwy'n ofni weithiau bod gen i obsesiwn am Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Efallai mai fi yw'r unig berson yn y bydysawd sy ddim yn Ddemocrat Rhyddfrydol sydd a'r obsesiwn hynny. Am wn i mae'n deillio o'r ffaith fy mod fel y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn dod o deulu oedd am genedlaethau yn anghydffurfiol ei grefydd ac yn Ryddfrydol ei wleidyddiaeth. Mae ceisio deall sut yn union y trodd plaid Mabon a Lloyd George i fod yn blaid Opik a German a cheisio dyfalu a oes dyfodol iddi yn bwnc sydd bob tro yn hela fi i feddwl.

Y cwestiwn y mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn casáu ei glywed yw "beth yw pwrpas y blaid?". Y gwir amdani, wrth gwrs, yw na fyddai'r cwestiwn yn parhau i gael ei ofyn pe bai na ateb da wedi ei gynnig.

Y broblem yw bod yr etholwyr yn deall, yn reddfol bron, beth sydd wrth hanfod y pleidiau eraill- beth sy'n symbyli ac ysbrydoli eu cefnogwyr. Amddiffyn Prydeindod traddodiadol yw sylfaen y weledigaeth Geidwadol, cyfartaledd cymdeithasol sy'n symbylu Llafur a diogelu arwahanrwydd Cymru yn prif bwrpas Plaid Cymru. Dyw'r pleidiau wrth gwrs ddim bob tro yn cyflawni eu hamcanion. Mae Prydain, er enghraifft, ar rai mesurau, yn llai cyfartal nawr nac oedd hi pan etholwyd Tony Blair ond mae "cyfartaledd cymdeithasol" o hyd yn angor athronyddol i'r Blaid Lafur.

Fedrai ddim meddwl am ddisgrifiad bachog tebyg ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol. Dyw dweud eu bod yn credu mewn "Rhyddfrydiaeth" ddim yn ddigon. Pa fath o Ryddfrydiaeth? Rhyddfrydiaeth economaidd Gladstone ac ysgol Manceinion neu egin sosialaeth Lloyd George a Beveridge? Mae hawliau sifil ac unigol yn sicr yn rhan o'u gweledigaeth ond dim ond rhai hawliau. Peidiwch â disgwyl i'r Democratiaid Rhyddfrydol amddiffyn eich hawl i smocio na gyrru SUV a thra eu bod yn fodlon amddiffyn eich hawl i wneud beth fynnoch chi yn yr ystafell wely maen nhw'n ddigon parod i i orchymyn i ba liw bag y'ch chi'n rhoi'ch sbwriel yn y gegin.

Eto i gyd mae'r gair "Rhyddfrydol" yna yn golygu llawer i aelodau'r Blaid. Rwy'n cofio Leighton Andrews (o bawb) yn ei ddagrau, bron, yn pledio i'r gair gael ei gynnwys yn enw'r blaid newydd a ffurfiwyd gan ddwy blaid y cynghrair. Ond yn rhyfedd ddigon efallai mai'r gair "Democratiaid" sy'n cyfleu gwir natur y blaid. Meddyliwch am y pethau y mae ei haelodau yn eu hystyried yn bwysig. System bleidleisio "teg", atebolrwydd mewn llywodraeth leol, system ffederal, sefydliadau rhyngwladol i ddiogelu hawliau sifil, rhyddid barn a mynegiant- mae'r rhain i gyd yn bethau y gellid ei ystyried yn hanfodol ddemocrataidd.

O edrych ar y blaid yng nghyd-destun Democratiaeth yn hytrach na Rhyddfrydiaeth mae'r gwahaniaeth rhyngddi a'r pleidiau eraill yn fwy eglur a'i sylfaen athronyddol yn fwy amlwg.

Beth sydd a wnelo hynny a strategaeth y Blaid? Dim ond hyn. Dydw i ddim yn meddwl bod y gair "Rhyddfrydol" yn golygu rhyw lawer i'r cenedlaethau iau o bleidleiswyr. Ydyn, maen nhw'n ryddfrydol yn eu moesoldeb personol - ond fel 'na y cawson nhw eu magu ar ôl i'w rhieni ennill rhyfeloedd diwylliannol y chwedegau. Mater o ffaith nid safbwynt gwleidyddol beiddgar yw eu hagweddau agored tuag at leiafrifoedd ethnig, crefyddol a rhywiol.

Ond mae'r cenedlaethau iau yn ddemocratiaid i'r carn. Beth sy'n fwy democrataidd na Facebook, My Space a Bebo, cymunedau o bobol yn cyfathrebu a'r gilydd ar delerau cwbwl cyfartal? Gallai cenhedlaeth sydd yn cymryd y gallu i ryngweithio yn ganiataol fod yn agored i blaid wleidyddol sydd a'i chryfder yn ei threfniadaeth leol a'i haelodau cyffredin ac sydd ddim yn dilyn y patrwm o wleidyddiaeth "top i lawr" sy'n nodweddi'r pleidiau eraill.

Os ydy'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gallu cysylltu â'r "zeitgeist" yna fel y gwnaeth Democratiaid America efallai y byddai 'na ddyfodol disglair i'r blaid wedi'r cyfan.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:41 ar 15 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Negrin:

    Oes mae gen ti obsesiwn hefo'r Rhyddfrydwyr Democrataidd ond mae'n deg gofyn be mae nhw'n sefyll dros. Os ydy nhw'n sefyll dros Ryddfrydiaeth mae nhw'n cystadlu hefo y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ac felly yn cael ei gwasgu gan ddwy blaid sydd yn gwybod be mae nhw'n sefyll dros. Mae yna ormod o bleidiau yng Nghymru yn ymladd dros y chwith ganolig ac mae'n debyg mae'r Rhyddfrydwyr Democrataidd neith golli allan yn y pendraw...pwy bynag fydd yn arwain!!

  • 2. Am 22:56 ar 15 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Adam :

    Dwi wedi mwynhau darllen eich blog, a llongyfarchiadau gyda'i lwyddiant. Ond, dwi yn sylwi eich bod chi yn ffocysu ar faterion sydd yn ymwneud â Chymru.

    Baswn i'n ddiolchgar os buasech chi'n tynnu sylw aelodau a chyfranwyr at ein prosiect newydd. Mae'n gais di-elw i geisio creu fforwm ar gyfer Cymru gyfan lle mae barn pawb ynglÅ·n ag unrhyw beth Cymraeg neu sydd yn digwydd yng Nghymru yn gyfartal, lle gallent trafod heb sylwadau sarhaus a bygythiol. Nid ydym yn ffafrio unrhyw safbwynt gwleidyddol na'n rhoi lan gyda unrhyw anghwrteisi ( hyn yn beth cyffredin yn anffodus y dyddiau yma)

    Rydym yn croesawu pobl o bedwar ban byd, does dim gwahaniaeth ar eu ethnigrwydd, safbwyntiau crefyddol, crefydd neu rhyw. Os mae rhywbeth dechau ganddynt i ddweud, a'i fynegi wrth ystyried a pharchu eraill bydd wastad croeso ar Walesfforwm iddynt.

    Mae ein staff i gyd yn gwirfoddolwyr, a bydd y cymedrolwyr yn cadw safonau uchel wrth gymedroli'r safle heb unrhyw beias gwleidyddol sail eu penderfyniadau.

    Os rydych yn credu bydd hyn o unrhyw ddiddordeb i eich aelodau, a wnewch chi gyfeirio nhw at

    WalesFforwm.com . Bydd Croeso Cynnes iddynt.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.