Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhonech ac Echni

Vaughan Roderick | 13:40, Dydd Iau, 27 Tachwedd 2008

Os ydy'r pennawd yna yn eich drysu gadewch i mi esbonio. Rhonech ac Echni yw'r ddwy ynys fach ym Mor Hafren sydd i'w gweld o Fae Caerdydd. Mae'n rhaid i mi gyfaddef mae'r ynys Seisnig, Rhonech, yw fy ffefryn personol- efallai oherwydd bod 'na dafarn arni! Ond fel pob ynys arall (ac eithrio Ynys y Barri, efallai) mae 'na ryw ramant arbennig yn perthyn i'r ddwy.

Cymerwch yr Ynys Las. Dydw i erioed wedi bod yna. Yn ôl Betsan Powys (sydd wedi bod i bob man bron) yr Ynys Las yw'r lle rhyfedda iddi weld erioed- mae'r dirwedd a'r golau yn unigryw a'r cymysgedd rhyfedd o Ddaniaid ac Inuit wedi creu diwylliant arbennig iawn. Mae 'na lai na thrigain mil o bobol yn byw ar ynys sydd yn fwy na deugain gwaith maint Cymru (diawl, mae yn wefan ddefnyddiol!). Mae'r boblogaeth honno o fwyafrif sylweddol i gymryd cam sylweddol tuag at annibyniaeth. Mewn refferendwm cytunodd yr ynyswyr i drosglwyddo'r grym dros gyfraith a threfn, yr heddlu a gwylwyr y glannau o Copenhagen i Nuuk ynghyd a chyfran yr incwm olew o'r moroedd o'i chwmpas.

Mae aelodau'r SNP wedi cyflwyno cynnig yn llongyfarch yr ynyswyr yn Senedd yr Alban. Wel, mae'n rhaid chwilio am ysbrydoliaeth mewn llefydd newydd ar ôl y digwyddiadau diweddar yng Ngwlad yr Ia!

Prin yw'r ymwelwyr a'r Ynys Las (mae Betsan yn eithriad) ond mae'r Maldives wedi deny miloedd o orllewinwyr cefnog i'w traethau paradwysaidd. Stori drist sy'n dod o'r rhan hynno o'r byd. Tra bod trigolion yr Ynys Las yn chwennych annibyniaeth mae trigolion ynysoedd y Maldives yn debyg o golli'r statws hwnnw. Mae arlywydd newydd y wlad honno yni brynu tir mewn gwledydd eraill yn barod am y dydd pan fydd newid hinsawdd yn gorfodi i'r trigolion adael yr ynysoedd. Mae 'na ryw anghyfiawnder difrifol yn hynny. Wedi'r cyfan, nid ffatrïoedd a llygredd pobol y Maldives sy'n peri i lefel y moroedd godi.

Dyw anghyfiawnder ddim yn beth newydd yn y rhan yna o'r byd. Mae cyn-drigolion yn dal i frwydo er mwyn cael dychwelyd i'r cartrefi y gorfododd Prydain iddyn nhw adael degawdau yn ôl. Mae'n anodd peidio cydymdeimlo a phobol ynysoedd Chagos ond mae'r anghyfiawnder hynny yn pylu o gymharu â'r hyn sy'n debyg o ddigwydd yn y Maldives i dri chan mil o bobol sy'n byw mewn cornel bach nefolaidd o'n byd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:28 ar 27 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Crikey, Mr Roderick, wyddau ni ddim fod ynysoedd yn Mor Hafren, hyd yn oed fy mod wedi bod am drip ar y 'Waverley'.. Diddorol iawn..

    Gobeithio fyddi di yn 'strictly impartial' am annibyniaeth i Gymru fach - nid wyf wedi penderfynnu os fyddai 'Arlywydd Kirsty' yn beth da neu ddrwg eto...

    'Never underestimate the power of a woman..' neu, fel bydda'n nhw'n gweud yn Tseina 'Be careful what you wish for..'

    Pob hwyl,
    BG

  • 2. Am 15:31 ar 27 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Efallai fyddai pobol y Maldives yn hoffi mynd i fyw ar yr 'Ynys Las' ?

    O'r 'blue lagoon' i'r 'blue island' ?

    Fel petai..

  • 3. Am 16:15 ar 27 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Doeddwn i, fel y rhan fwyaf a fydd yn darllen mae'n siwr, ddim yn ymwybodol o'r straeon am y Maldives ac Ynysoedd Chagos - trist iawn ond hefyd yn agoriad llygad, diolch am dynnu sylw atynt

  • 4. Am 18:38 ar 28 Tachwedd 2008, ysgrifennodd david williams:

    Tafarn ar Ynys Ronech? Mae un ar Ynys Weir (Lundy). Shurely shome mishtake?

  • 5. Am 21:54 ar 30 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Vaughan:

    Dim o gwbwl David, Y Marisco yw'r tafarn ar Ynys Weir- ac mae ffantastic. Mae'r dafarn wreiddiol ar Ynys Rhonceh (ger y lanfa) yn cael ei ail godi. Yn y cyfamser mae 'na dafarn ffwrdd a hi yn barycs.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.