Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwis

Vaughan Roderick | 19:23, Dydd Mawrth, 23 Rhagfyr 2008

Mae Dewi wedi gofyn am gwis. Pwy yw fi i wrthod? Fe fyddaf yn defnyddio synnwyr cyffredin wrth gyhoeddi sylwadau ac atebion er mwyn rhoi cyfle i bawb. Yr atebion llawn ar Ragfyr 26.

Mi ydych yn chwilio am ddeg o bobol neu bethau ac yna rhywbeth neu rhywun sy'n eu cysylltu.


1.Perchennog yr unig gyfri banc masnachol y mae Banc Lloegr yn darparu.
2.Yr un honnodd nad yw cariadon yn ymddiheuro.
3.Un arall oedd yn caru curry.
4.Y rheswm wnaeth y Frenhines Victoria boicotio Manceinion.
5.Ysgol yn Rhiwbeina
6.Twll d*n o senedd.
7.Y Cymro o Rhiw-Saeson.
8.Tân yn Sir Gar.
9.Cyflafan yn yr Iwerddon.
10."Dic" o frenhines

Does neb wedi cael 2 yn gywir eto. Enw'r ffilm a'r cymeriad plis.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:32 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Fflipin hec Mr Roderick, ble mae'r 'hint button' am y 'thing' hyn.. ?

    'Thinking caps on' fel roedd yr athro yn gweud yn yr ysgol ers talwm..

    p.s. Os ydy'r 'spin' fod arholiadau ddim yn rhwyddach nawr na blynyddau yn ol, a mae safonau yn cael eu cadw yn uchel - Pam nad oes unrhyw bobl yn eu arddegau ar 'Brain of Britain' efo Robert Robinson ?

  • 2. Am 21:35 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Oce un hint ... mae'r ateb i rif un yn un yn ymwneud a stori newyddion heddiw...rhywbeth ynghylch anifeilaid a labordai!

  • 3. Am 21:38 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Asgob, mae hwn yn 'google-proof' hefyd.

    1/ Rhywbeth i wneud a Northern Rock fyddai'n ni'n meddwl, am fod y 'rest' wedi cael eu gwerthu bant i rhywun dylai fod yn gwybod gwell [hbos, Bradford a Bingley ac ati]

    2/ Ges fi fyddai Edwina Currie, am fod y gair hynny yn cwestiwn 3 ?

    3/ John Prescott rwy'n meddwl ond dwi ddim yn siwr pam..

  • 4. Am 21:40 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Aha - wnaf ddim dweud mwy, i adael i rhai arall gael siawns - ond rwy'n deall nawr pam fyddai eisiau hwn.

  • 5. Am 21:51 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    9/ Hmm.. Ddim yn siwr - 'naeth y bleidais yn erbyn 'Lisbon' achosi helbul, ond nid wyf yn siwr mae hwn ydy ystur 'cyflafan', ond nid wyf ar bwys geiriadur ar y funud.

  • 6. Am 21:57 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    7/ Dim cliw. ond 'ges' fyddai Ray Gravell, gan fod ei stryd wedi cael ei ail-enwi..

    8/ Rwy'n dowto fod y tan yn nhoiledau Llansteffan yn cownto, ond mae cloch yn canu rhywle.. Rhyw 'insurance job' efallai ?

  • 7. Am 22:01 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    10/ Gan fod Louis Mountbatten wedi ei golli os rhai blynyddoedd gallwn gymeryd nad unrhywbeth i wneud ag ef yw hyn ?

    Os nad all di weud, mae'n siwr gallwn 'ass-u-me'o taw pethau ddigwyddodd yn y flwyddyn diwethaf ydyw'r atebion ?

  • 8. Am 22:15 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    O dy holl atebion mae un yn gywir. Cofiwch nid cwis ynghylch y flwyddyn ddiwethaf yw hwn!

  • 9. Am 22:47 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Asgob ! A mae'n amser gwely hefyd !

    Beth am rhoi 'extension on the extension' fel roedd yr ad cwrw na yn arfer gweud - gallai y job hyn gymeryd nes y flwyddyn newydd - yn 2010...

    Efallai bod eisiau y 'wisdom of crowds' fan hyn, fyddai ni'n dweud...

  • 10. Am 08:37 ar 24 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd dewi:

    Wnes i ddim gofyn am gwis anodd....

  • 11. Am 10:17 ar 24 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd dewi:

    1. Huntingdon Life Sciences
    4. Bodolaeth cofeb i Oliver Cromwell yno.
    5. Ysgol babyddol "Christ the King" - ar fedd Cromwell "Christ, not man, is King"

  • 12. Am 10:43 ar 24 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd dewi:

    10. Llys-enw ar Richard Cromwell "Queen Dick"

  • 13. Am 10:53 ar 24 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd dewi:

    6. Y "Rump Parliament" wrth gwrs - Cromwell eto
    7. Cromwell yn talu am gychwyn mwyngloddion yn Rhiw-Saeson?

  • 14. Am 10:53 ar 24 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mi wyt ti ar y trywydd iawn,Dewi ond yn anghywir ynghylch yr ysgol. Enwau'r ddwy ysgol yn Rhiwbeina yw "Ysgol Rhiwbeina" ac "Ysgol Llanisien Fach". Google yw eich ffrind!

  • 15. Am 11:02 ar 24 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd dewi:

    9. Concwest gwaedlyd Cromwell o Iwerddon.

  • 16. Am 11:11 ar 24 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd dewi:

    8. Cromwell yn Sir Gar....

    "Efallai mai'r cofnod ryfedda yn hanes Cromwell a'r ardal oedd ei ymweliad â Llan Newydd uwchben tref Caerfyrddin. Trodd tuag yno i ymweld â'i deulu yn ffermdy Cwmcastell fach. Dywed traddodiad yma mai Oliver Williams oedd ei enw cywir er i lyfrau hanes nodi mai gŵr o Huntington ydoedd. Cydnabyddid yn ardal y ffermdy mai mab ydoedd i Syr Richard Williams a gymerodd yr enw Cromwell wedi i'w ewythr Thomas ap Morgan gael ei ddyrchafu yn Arglwydd Cromwell gan Harri VIII."

  • 17. Am 11:20 ar 24 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd dewi:

    Ok - roedd gan Cromwell gysyllltiadau a Llanisien. Fferm Cromwell...ateb fi yn well

  • 18. Am 15:44 ar 24 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Idris:

    3. John Major

    Os mai 'Hungtington Life Sciences' ydi'r ateb cywir i rif un yne roedd Major, fel Cromwell, yn Aelod Seneddol dros Huntington.

  • 19. Am 15:45 ar 25 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Dewi:

    2, "Love Story"? Oliver Barrett IV ?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.