Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dros y ffyrdd a dros y caeau...

Vaughan Roderick | 13:51, Dydd Mawrth, 2 Rhagfyr 2008

Heddiw cyhoeddodd llywodraeth Cymru gyfres o gynlluniau gwariant cyfalaf- rhai ohonynt yn gynlluniau sy'n cael eu hariannu o'r Gronfa Cyfalaf Strategol newydd ac eraill yn gynlluniau gan yr adran drafnidiaeth. Does 'na ddim arian ar gyfer peiriant chips newydd yn NhÅ· Hywel yn anffodus.

Fe fydd manylion y cynlluniau yn ymddangos mewn sawl man arall. Gwnâi ddim eu rhestri nhw yn fan hyn. Serch hynny mae'n werth nodi un peth am y cynlluniau trafnidiaeth sef y pwyslais ar wella cysylltiadau rhwng y De a'r Gogledd. Mae 'na gyfres o gynlluniau i wella'r A470 yng Ngwynedd a Phowys a buddsoddiant sylweddol i alluogi i'r gwasaneth tren cyflym rhwng Caergybi a Chaerdydd deithio trwy Wrecsam yn hytrach 'na Chaer. Y "Gerallt Gymro" yw enw'r gwasanaeth hwnnw, gyda llaw. Dyna i chi enw blaengar a modern!

Yn wleidyddol mae'r cynlluniau yma'n hynod o bwysig i Blaid Cymru. Rwy'n meddwl bod hi'n deg i ddweud bod llywodraeth Cymru'n Un wedi ei chael hi'n haws i gyflawni blaenoriaethau'r Blaid Lafur na rhai Plaid Cymru hyd yma. Mae dirfawr angen llwyddiannau concrit ar Ieuan Wyn Jones i gyfiawnhau ei benderfyniad i ddewis Llafur fel partner llywodraethol.

Mae dwy o brif flaenoriaethau'r Cenedlaetholwyr sef Mesur Iaith a refferendwm yn gorwedd mewn cors yn rhyw le.

Parthed y refferendwm rwy'n ei chael hi'n haws i gredu mewn Siôn Corn na chredu'r sbin bod Confensiwn Syr Emyr yn llwyddo i osod sylfaen cadarn ar gyfer pleidlais lwyddiannus yn 2010 neu 2011.

Mae'r LCO iaith, mae'n amlwg, mewn trafferthion difrifol. Yr addewid oedd y byddai'r cais yn cael ei gyhoeddi yn ôl yn y Gwanwyn. Fe drodd y Gwanwyn yn Haf a'r Haf yn Hydref. Yr addewid diweddaraf yw "cyn y Nadolig". Wel mae'r plantos wedi dechrau agor y ffenestri ar y calendr Adfent- ac asyn a seren sydd wedi ymddangos hyd yma. Dim sôn am LCO!

Cofiwch hefyd mai sôn am gyhoeddi'r LC0 ydyn ni yn fan hyn - dechrau'r broses. Mae'r daith araf a phoenus trwy ddrysfa Tŷ'r Cyffredin, y Pwyllgor Dethol, Tŷ'r Arglwyddi, Pwyllgor Cyfansoddiadol yr Arglwyddi, y Cynulliad a phwyllgorau Bae Caerdydd o hyd i ddod. Mae hynny i gyd er mwyn sicrhâi'r hawl i lunio mesur. Gallwch ychwanegu blwyddyn arall ar gyfer ystyried y mesur ei hun. Roedd Gerallt Gymro a Baldwin yn teithio'n gynt na hynny! Diawch, fe fyddai'r trydydd crwsâd wedi cyrraedd yn ôl o Gaersalem yn gynt na hynny!

Fe fyddai methu cyflawni trydedd flaenoriaeth Plaid Cymru sef gwelliannau trafnidiaeth De/Gogledd yn drychineb gwleidyddol i Ieuan Wyn Jones felly. Mae rhai o fewn Plaid Cymru yn dechrau colli amynedd a'r Glymblaid. Does 'na ddim llawer ohonyn nhw hyd yma ond dyw amynedd hyd yn oed cefnogwyr mwyaf pybyr y dirpwy brif weinidog ddim yn ddiddiwedd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.