Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tristwch

Vaughan Roderick | 01:02, Dydd Sadwrn, 13 Rhagfyr 2008

Heno roedd bois HTV Cymru yn cynnal parti yn y bae. Nid parti Nadolig oedd hwn ond parti i nodi/dathlu/galaru diwedd uned wleidyddol Teledu Harlech. Rwy'n osgoi defnyddio'r llythrennau I,T, a V yn fwriadol.

Mae'r unigolion dw i'n siarad amdanyn nhw yn iawn o safbwynt eu dyfodol...ond heno mae'n prif gystadleuwyr yn nodi diwedd cyfnod.

Dydw i ddim yn beirniadu'r bois am eiliad ond roedd 'na stori fawr heddiw ac fe wnaethon nhw ddewis mynd i'r pyb. Byswn i wedi gwneud union yr un peth yn yr un amgylchiadau!

Fe fydd yr un neu ddau sydd ar ôl yn gwneud eu gorau ond mae'r golled yn enfawr.

Mae'n golygu bod newyddiaduriaeth yn y Bae bellach yn golygu y Ö÷²¥´óÐã a chasgliad o unigolion a freelancers yn gweithio i *TV, y "Western Mail", y "Daily Post", Golwg a'r PA.

Ffarwel felly i Matt Dix, Nick Speed, Nick Powell a phawb arall fu'n newyddiadura'n ddiwyd ar yr "ochr arall". Pob lwc iddyn nhw a diolch i chi TWW, Teledu Cymru, Harlech a HTV am eich gwasnaeth i Gymru.

O leiaf fe fydd Gareth Hughes yma o hyd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:06 ar 13 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Hmm.. Mae hwn yn galed i ddygymod, ond mae'r stori yn wir am bapurau lleol.

    Mae'r ysgrifen ar y wal. Mae teledu digidol, a'r 'we' wedi newyd pobeth o'r 'cable' bach 'na..

    Gallwch saethu Michael Grade - ond nid fe newidodd y ffaeth fod 'teledu i blant', a oedd arfer bod yn rhan o'r 'public service remit', nawr yn gorfod cystadlu a'r 'Disney Channel', 'Nick Jr' ac ati.

    A nid fe oedd wedi gadael i 'Channel 5' gymeryd trwydded darlledu.

    Dyma pam fi'n becso amdano 'WLA2'. Mae yna eisiau helpu darlledu yng Nghymru. Ond mae gormod o gwyno am biti beth oedd, nes cyn i ti bostio hwn, yn sefyllfa weddol, yn riscio gorffen lan gyda sefyllfa llawer iawn waeth.

    'Divide and Rule' fydd diwedd y gan os oes gormod o gwyno am y sefyllfa nawr - achos mi fydd llawer o bobol yn rhoi'r gorau i dalu am 'Trwydded Teledu' os ydyw pobl ti allan i'r Ö÷²¥´óÐã yn cael ei gorfodu i llanw y gap.

    "Why should I pay a TV Licence if the commercial sector have their public service remit to a 'minority' language re-instated?" fydd ateb llawer o Saeson. Heb son am 'top slicing'..

  • 2. Am 17:47 ar 17 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Dan Din:

    Wrth wrando/gwylio'r newyddion o dro i dro mi ddaw disgrifiad o wledydd comiwnyddol (y rhai hynny sy'n weddill) a gwledydd unbenaethol gyda'r sylwad "the state media".

    Mi gredaf mai Ö÷²¥´óÐã yw un o'r ychydig bethau sydd yn gwneud i Brydain sefyll ar wahan i weddill y Gorllewin. Mae'n wych ar bob lefel ac ymhob ystyr ac ni feiddiwn am funud ystyried gwneud hebddo nac heb y drwydded.

    Ond... yma yng Nghymru os ydyn ni eisiau gwybod beth sy'n mynd ymlaen yn ein democratiaeth ni mae'n anodd gweld na chlywed dim yn yr unlle ar wahan i wylio'n "state media" (Ö÷²¥´óÐã), gwrando ar ein "state media" (Ö÷²¥´óÐã), a darllen gwefan ein "state media" (Ö÷²¥´óÐã).

    Ac wrth gwrs cyfrwng y gorthrymwr yw'r Ö÷²¥´óÐã i ni fel Cymry. Lle gawn ni farn annibynnol ar ein sefyllfa? Cofiwch mai drwy arian y wladwriaeth y cynhelir Golwg hefyd - bydd eu gwefan hwythau yn ran o'r un "state media". A'r Daily Post i'r gogs o Lerpwl? A'r Western Mail?

    Mae colli newyddion HTV yn golled enfawr.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.