Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O geiniog i geiniog

Vaughan Roderick | 15:42, Dydd Mercher, 21 Ionawr 2009

Mae'r llywodraeth yn San Steffan wedi ildio i bwysau'r gwrthbleidiau ynghylch cyhoeddi manylion treuliau aelodau seneddol. Fe fydd ein cydweithwyr yn Westminster felly yn cael rhannu'r pleser o ganfod iPods a pheiriannau smwddio trowsus ac o ymosod yn hunangyfiawn ar drachwant honedig ein gwleidyddion!

Mae'n hawdd deall pam yr oedd y llywodraeth yn dymuno celu'r manylion ac mae'n ddigon posib y bydd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn difaru peidio cytuno pan ddaw'r cyfan i'r wyneb!

Fe wnâi broffwydo hyn. Fe fydd 'na ddwy fath o stori'n cael ei 'sgwennu gyda rhai'n ymosod yn ffyrnig ar aelodau sydd wedi hawlio symiau anferthol ac eraill yn bychanu'r rheiny sydd wedi hawlio swllt a chwech am frechdan neu stamp. Dyma broffwydoliaeth arall. Yn sgil cyhoeddi'r holl straeon yma fe fydd rhai aelodau seneddol yn troi ar y newyddiadurwyr a'u cyhuddo o ragrith. Gan boeri gwaed fe fydd ambell i aelod yn mynnu y dylai treuliau gohebwyr gael eu cyhoeddi hefyd.

Digon teg. Heb osod cynsail i neb arall dyma fy nhreuliau i.

Yn y flwyddyn ariannol gyfredol rwyf wedi hawlio £75 am glustffon i glywed cyfarwyddiadau o'r galeri teledu.

Yn 2007-2008 Fe wnes i hawlio £73.88 am deithio i Lundain ar gyfer "Pawb a'i Farn" a £530 am ddillad i wisgo ar CF99. Nid fi wnaeth ddewis y dillad a dydw i ddim yn cael gwisgo nhw unrhyw bryd arall- a dweud y gwir byswn i ddim yn dymuno gwneud ta beth!

Yn 2006-07 Fe wnes i hawlio cyfanswm o £54.10. Roedd hynny i dalu am ginio gyda Jane Hutt a rhai o'i swyddogion.

Y pwynt yw, wrth gwrs, bod aelodau seneddol ac aelodau cynulliad yn debycach i bobol hunangyflogedig neu fusnesau bach nac i weision cyflog. Yn fy achos i a fy nghydweithwyr mae'r Ö÷²¥´óÐã yn talu'n uniongyrchol am bethau fel ystafelloedd gwesty mewn cynhadledd. Os am deithio mwy na hanner can milltir mewn car mae'n rhaid defnyddio car cwmni nid un personol. Rwyf yn talu ambell i beth o'm mhoced fy hun- parcio, peint neu baned i wleidydd, pethau felly. Mae bywyd yn rhy fyr i foddran hawlio'r arian yn ôl.

Yn achos y gwleidyddion talu a hawlio yn ôl yw'r drefn. Eu dewis nhw yw hynny. Does 'na ddim rheswm pam na ddylai'r senedd neu'r cynulliad ddarparu fflatiau, ceir neu swyddfeydd etholaeth ar eu cyfer. Fe fyddai hynny'n llai o waith i'r aelodau byswn i'n tybio. Pam peidio gwneud felly- os nad oes a wnelo hynny rhywbeth a gallu aelodau i bluo eu nythod eu hun neu nythod eu pleidiau?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:19 ar 22 Ionawr 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Pwynt teg iawn ynglyn a phluo nythod, meddyliwn i, Vaughan! Ond hyd y gwelaf i, mae'r Cynlulliad wedi dilyn system San Steffan yn weddol slafaidd (dwi ddim yn arbenigwr, chwaith, a hwyrach fy mod i'n anghywir yn hyn o beth), a mae system San steffan hithau wedi tyfu fesul dipyn, er mwyn i aelodau seneddol allu dibynnu ar eu tal (a'u treuliau) yn hytrach na'u cefndiroedd cefnog.

    Yr hyn ddylai wedi digwydd yw i rywun sydd yn deall y byd go iawn (yn hytrach na gweision sifil a gwleidyddion) drefnu system treuliau fyddai'n gweddu cwmni preifat - hy cadw costau ar y lefel isaf posib, tra'n cnaiatau i'r gwleidyddion wneud eu gwaith yn effeithiol.

    Gyda'r system bresennol, a'r rhain sy'n manteisio arni yn ei threfnu, does rhyfedd bod pobl yn drwdybio pob gwariant!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.