Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Plesio Peter (eto)

Vaughan Roderick | 10:57, Dydd Gwener, 2 Ionawr 2009


Rwyf wedi penderfynu cynnig ymateb difrifol i . Dydw i ddim yn credu fy mod yn llaw drwm wrth drafod y Democratiaid Rhyddfrydol ond gan fod Peter o'r farn fy mod i dyma ddeg o bethau da am Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.

1.Gweithgarwch eu cynghorwyr. Ar y cyfan mae cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn hynod weithgar a chydwybodol.
2.Effeithlonrwydd eu cynghorau. Mae'r cynghorau y mae'r blaid yn eu harwain at eu gilydd yn rhai effeithiol a di-sgandal.
3.Richard Livsey. Y gwleidydd mwyaf hoffus yng Nghymru.
4.Haelioni. Mae parodrwydd aelodau'r blaid i ymestyn i'w pocedi eu hun i ariannu'r blaid yn rhyfeddol.
5.Dewrder. Dyw'r aelodau'r blaid ddim yn ofni safiadau amhoblogaidd- yn enwedig ynghylch Ewrop.
6.Eleanor Burnham a Mick Bates. Fe fyddai'r cynulliad yn hynod o ddi-liw hebddynt!
7.Teis Peter Black. Ditto.
8.Bod yn wrthblaid. Dyw hi ddim yn beth iach i unrhyw blaid allu cymryd sedd yn ganiataol. Mae 'na lwyth o seddi lle mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cadw plaid arall ar ei thraed.
9.Lembit. Beth fyddai "Wales on Sunday" yn gwneud hebddo?
10.Anoraciaeth. Sylweddoli nad pethau amherthnasol a dibwys yw pynciau cyfansoddiadol megis systemau pleidleisio a datganoli. Y cyfansoddiad yw fframwaith ein cymdeithas ac mae cael y fframwaith cywir yn angenrheidiol i bopeth arall.

Dyna ddigon am eleni.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:18 ar 2 Ionawr 2009, ysgrifennodd cadwch yr egwyddorion:

    Diolch am eich sylwadau Mr Roderick. O dan arweiyddiaeth ysbrydoledig Kirsty a'i gweledigaeth gadarn gallaf ddweud gyda fy llaw ar fy nghalon 'the future is orange'

    Os daw etholiad eleni dwi'n rhagweld y byddwn yn cadw'n sedd yn Nhrefaldwyn ac o bosib yn dyblu ein mwyafrif yng Ngheredigion

    2009 fydd blwyddyn y Democratiaid Rhyddfrydol heb os nac onibai. Bydd balwn y cenedlaetholwyr yn byrstio (dynion llawn gwynt fuon nhw erioed)) a ni fydd yn elwa o hynny. Cadwch yr egwyddorion . . daw, fe ddaw ein hawr . . yn 2009. Paratown i lywodraethu.

  • 2. Am 19:06 ar 2 Ionawr 2009, ysgrifennodd Negrin:

    Pa egwyddorion...pa bolisiau??
    Cloud cuckoo land!!

  • 3. Am 21:43 ar 2 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Roeddwn yn ceisio bod yn ddymunol ar ddechrau'r flwyddyn. Mae croeso i chi fod yn gas!

  • 4. Am 14:22 ar 3 Ionawr 2009, ysgrifennodd cadwch yr egwyddorion:

    ‘Mae croeso i chi fod yn gas’

    Gan bwyll, Mr Roderick. Peidiwch annog eich sylwebyddion i fod yn gas i’w gilydd neu caiff eich blog ei feddiannu gan haid o fabwns yn ddangos eu penolau - fel sy’n digwydd ar flog Ms B Powys.

    Ac mewn ymateb i Negrin . . . tyna’r blydi blincers oddi ar dy lygaid. Mae gan y Rhyddfrydwyr egwyddorion a pholisiau - fel pob un plaid arall - jest fod dy lygaid di a dy feddwl yn gyfan gwbl ar gau. Yn ffodus mae na filoedd ar filoeddd allan fan na sy’n barod i ddilyn Kirsty a’i chriw.

    Dwi’n sylwi fod Negrin wedi cynnwys ei gyfeiriad ar ddiwedd ei sylw. A yw’n ofynnol i bawb wneud hyn yn 2009, Mr Roderick?

    Mae'n ddrwg gen i greu trafferth ond cyhoeddwyd y sylw uchod yn o dan y pennawd 'Adroddiad Blynyddol' yn lle 'Plesio Peter (eto)' lle dylai fod. A oes modd cywiro hyn?

  • 5. Am 16:00 ar 3 Ionawr 2009, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Di sgandal gwir! Pwy oedd y cynghorydd sir gyntaf i'w orfodi i ymddiswyddo ar ôl etholiadau Mai llynedd? Eric Griffiths - aelod y Rhyddfrydwyr Democrataidd ar gyngor Ceredigion a chafodd ei rybuddio gan yr heddlu am drosedd rhywiol, dyna pwy!

  • 6. Am 16:55 ar 3 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Does dim angen rhoi cyfeiriad, Dydw i ddim yn sicr sut mae symud ymateb- ond paid becso mae'r rhan fwyaf o bobol sy'n darllen yr ymatebion o gwbwl yn eu darllen nhw i gyd.

  • 7. Am 18:19 ar 3 Ionawr 2009, ysgrifennodd cadwch yr egwyddorion:

    Crafad go lew i waelod y bwced fan na gan Mr Alwyn ap Huw.

    Dwi ddim yn gyfarwydd a’r manylion ynglyn a helynt y cyn gynghorydd o Geredigion ond mae scandalau (os dyna ydynt mewn gwirionedd) yn smotio pob un plaid y dyddiau hyn ysywaeth – i-pods, morgeisi ail gartrefi, sigars ac yn y blaen. Yr hyn fydd yn ddylanwadol yng Ngheredigion adeg yr etholiad nesa fydd perfformiad yr aelod seneddol Mark Williams (y cynrychiolydd gorau gafodd y sir ers dyddiau yr Arglwydd Geraint yn ol y gwybodusion) a’r criw gweithgar o Gynghorwyr Sir a Thref sy’n gefn iddo wrth iddynt oll fod yn driw i egwyddorion a pholisiau y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion.

    Rhwydd hynt iddynt yn 2009. Un peth bach i orffen - gobeithiaf fod Mark Williams wedi derbyn i-pod yn ei hosan Nadolig er mwyn iddo ddysgu Cymraeg.

  • 8. Am 14:38 ar 4 Ionawr 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Os nad yw Marc Williams wedi dysgu Cymraeg erbyn hyn, ni wnaiff fyth. Bydd brwydr Ceredigion yn un ddiddorol. Mae yna gynghorwyr gwych (o bob plaid) yng Ngheredigion, ond ofnaf i'r sir ddirywio o dan y drefn 'cabinet' ac ers ymadawiad Dai Lloyd Evans.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.