Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 09:18, Dydd Sul, 4 Ionawr 2009

Diawch, fe wnes i bron anghofio postio'r ffilmiau wythnosol. Dyma nhw. Fe wnaethon ni yn Ö÷²¥´óÐã Cymru ddathlu genedigaeth ein brawd bach, Ö÷²¥´óÐã Alba, yn 2008. Dyma agoriad y sianel Aeleg. Trefniant o "Alba" gan Runrig yw'r gân.


Roeddwn i'n meddwl bod gyrfa Jerry Springer yn destun od ar gyfer opera! Mae hwn yn fwy rhyfedd!

A'r gair olaf am etholiadau America.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:35 ar 4 Ionawr 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Ydych chi'n gwybod beth yw cysylltiadau gwleidyddol y grwp 'Runrig ' , Vaughan ? . Grwp gwych na chafodd eu gwerthfawrogi ddigon yng Nghymru.

  • 2. Am 16:24 ar 4 Ionawr 2009, ysgrifennodd Bostoniwr:

    Oes 'na rywun sy'n digwydd gwybod sawl awr o Aeleg sy'n cael eu darlledu'n wythnosol gan Ö÷²¥´óÐã Alba?

    Rwy'n cymryd nad sianel hollol Aeleg mohoni, ond rhywbeth sy'n cyfateb i'r hyn oedd Ö÷²¥´óÐã Cymru/Wales cyn i S4C gymryd y Gymraeg oddi yno. Eto, dydw i ddim yn gwybod!

    Beth bynnag yw'r atebion, mae'n beth da ofnadwy i weld yr iaith yn cael y sylw, hyd yn oed os yw'r gân dipyn bach yn "cheesy"!

  • 3. Am 11:11 ar 5 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'r sianel yn gyfan gwbwl Aeleg- er bod popeth wedi is-deitlo. Mae 'na fwy o ail-ddarlledu nac ar S4C er mwyn llenwi'r oriau. Mae'r rhan fwyaf o'r rhaglenni ar gael ar i-Player

  • 4. Am 11:13 ar 5 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n cymryd mai cenedlaetholwyr oedd aelodau Runrig o ystyried geiriau gwreiddiol "Alba". Mae fersiwn y Ö÷²¥´óÐã yn llai wleidyddol!

  • 5. Am 12:44 ar 5 Ionawr 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Hanner iawn. Yr oedd y gwr a fu'n canu i Runrig am flynyddoedd maith, sef Donnie Munro, yn ymgeisydd Llafur aflwyddianus rai blynyddoedd yn ol. Nid oedd wedi cuddio ei deyrngarwch pleidiol erioed. Credaf i'r chwaraewr allweddellau - Pete Wishart, ar y llaw arall, gael ei ethol yn enw yr SNP yn ddiweddarach ( ond nid yr un etholaeth ) . Pete Wishart oedd yr AS cyntaf i ymddangos ar 'Top of the pops' . Yr oedd rhyw chwedl beth amser yn ol fod y blaid Lafur yn ynysoedd y Gorllewin yn fwy pleidiol i'r Gaeleg na'r SNP . Mae'r aelod seneddol (Calum McDonald , Llafur) ar gyfer yr ardal yn rhannu'r un enw ac un o aelodau Runrig .
    Mae stori am Charles Kennedy ( AS Skye ) yn holi Donnie Munro ar raglen radio os oedd ganddo uchelgais gwleidyddol . Yr ateb gonest oedd
    " Oes - ond dim ond dy etholaeth di !"

  • 6. Am 02:45 ar 6 Ionawr 2009, ysgrifennodd dewi:

    Un o aelodau Runrig wedi sefyll dros Lafur i Senedd yr Alban.....

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.