Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 21:58, Dydd Gwener, 9 Ionawr 2009

Mae'n fore Sadwrn. Dyma'r ffilmiau.

Fe wnaeth nifer ohonoch chi fwynhâi gweld agoriad Ö÷²¥´óÐã Alba. Mae 'na lwyth o sianeli mewn ieithoedd bach erbyn hyn. Yng Ngwlad y Basgiaid, er enghraifft, mae ETB1 yn addo rhywbeth ychydig yn wahanol!

Beth yw ieithoedd swyddogol Catalonia? Mae 'na dair ohonyn nhw. Catalaneg, wrth gwrs. Sbaeneg? Si. Iaith Aran (Araneg?) yw'r llall. TV3 sy'n esbonio. Mae angen gwaith a gwybodaeth rydlyd o un o'r ieithoedd Lladinaidd i ddeall hon- ond mae'n werth yr ymdrech.

Dydw i ddim yn mynd i esgus fy mod yn deall y ffilm nesaf! Dim ond 45,000 o bobol sy'n byw ar Ynysoedd Ffaröe. Oes mae 'na sianel Ffaröeg- sef SvF. Dychmygwch sianel wedi ei rhedeg gan Glwb Ffermwyr Ifanc! Croeso i fyd SvF!

Yn olaf y newyddion o Seland Newydd. Mae unrhyw sianel sy'n credu bod hela moch yn haeddu ail bennawd ar y newyddion yn werth ei gwylio!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:31 ar 9 Ionawr 2009, ysgrifennodd Pedant Iaith:

    Gwych! Agoriad llygaid.

  • 2. Am 04:58 ar 10 Ionawr 2009, ysgrifennodd dewi:

    Rhagorol eto Vaughan - braf i glywed Maori yn arbennig!

  • 3. Am 11:53 ar 10 Ionawr 2009, ysgrifennodd Y Prysgodyn:

    Diolch am rhain. Bendigedig!

  • 4. Am 17:45 ar 18 Ionawr 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Dwi'n gwylio dipyn ar Ö÷²¥´óÐã Alba ... er mawr syndod rhaid dweud! Mae modd i mi ei gael ar y FreeSat gan ei fod yn sianel Ö÷²¥´óÐã.

    A dweud y gwir, gwylies i fwy o deledu Ö÷²¥´óÐã Alba un wythnos nag o S4C.

    Mae nhw'n darlledu gemau prif gynghrair pel-droed yr Alban, roedd rhaglen ddifyr am hanes dref arno ac mae eu rhaglen Eorpa (ddim yn cofio'r sillafu, ond Ewrop yn yr Aeleg) am sefyllfa Cosofa ac un arall am felinau gwynt - gan drafod Denmarc a'r Almaen ac efaith ar economi Ynysoedd Heledd, yn syndod o ddifyr ... na, wir, mi roedden nhw!

    Yr unig wlad sydd ar goll o'r rhestr yma yw'r Llydawyr. Beth ddigwyddodd i TV Breizh?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.