Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwledd y Cybydd

Vaughan Roderick | 11:52, Dydd Iau, 19 Chwefror 2009

Dw i yn ôl yn y Bae ar ôl ychydig o ddyddiau bant a, diawch, mae'n dawel 'ma. Yr unig beth sy'n digwydd 'ma heddiw yw dadorchuddio baner Sir Benfro yn y senedd fel rhan o'r paratoadau ar gyfer gorymdaith Gŵyl Ddewi. Dyw hynny ddim yn fy nghyffroi, rhywsut!

Mae hwn yn dipyn o lobscows o bost, felly, gydag un diweddariad bach ac un ddolen ddifyr.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod y rhyfeddu at y datblygiadau diweddaraf yn helynt Rhodri Morgan ac ysgolion Treganna, nid yn gymaint at graidd y ffrae ond at y diffygion wrth ddelio a chwynion yn erbyn y Prif Weinidog. Pwy sy'n plismona'r plismyn- os mynnwch chi.

Dyma'r sefyllfa. Mae Jenny Randerson wedi danfon cyfres o lythyrau yn honni bod Rhodri wedi torri cod ymddygiad gweinidogion y cynulliad. Ar yr olwg gyntaf mae 'na sylwedd i'r cwynion hynny. Rhodri ei hun sy'n gyfrifol am blismona'r cod ac mae yntau'n gwrthod yn blwmp ac yn blaen gydnabod bod cwynion Jenny yn unrhyw beth mwy na "mater gwleidyddol". Mae 'na gynseiliau o San Steffan sy'n awgrymu bod y pen bandit yn gallu gofyn i was sifil ymchwilio mewn achosion sy'n ymwneud a'r Prif Weinidog ei hun. Mater o wirfodd yw hynny ac os ydy Rhodri'n ystyfnigo does 'na fawr ddim y gall unrhyw un wneud ynghylch y peth. Rhyfedd o fyd.

Dyma'r ddolen. Mae 'na drafodaeth ddiddorol ar am newyddiaduraeth a'r dechnoleg newydd gan ddefnyddio digwyddiad yng Nghaerdydd fel enghraifft ddiddorol o stori'n lledaenu heb gymorth y cyfryngau traddodiadol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:15 ar 22 Chwefror 2009, ysgrifennodd Rhodri:

    Diolch am y ddolen!

    Roedd na achos arall heddiw ma o Twitter yn cyrraedd gyntaf gyda'r sgwp fel petai. Ac yn lledaenu'r 'newyddion' o ddigwyddiad drwy retweets a thrafod (speculation?).

    Roedd y trydar yn boeth am heddlu a forensics ar Heol y Wig* oriau cyn i'r Ö÷²¥´óÐã roi'r stori ar y we.

    Enghraifft o twitter yn dod a'r 'newyddion' cyn y newyddiadurwyr, neu enghraifft o twitter yn dod a hel clecs arferol tref fach i sylw ehangach? Beth bynnag ydi o, mae'n amlwg bod twitter yn gallu, yn achlysurol, dod a rhai mathau o 'newyddion' i bobol yn gyflymach na'r wasg draddodiadol. A yw hynny o unrhyw werth o gwbl sy'n gwestiwn arall.

    *yr enw cywir ar y stryd yn hytrach na "Stryd y Pier" fel mae'r adroddiad Cymraeg yn nodi!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.