Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mater o hyder

Vaughan Roderick | 13:06, Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2009

Dyn consensws yw David Melding- Tori o'r hen deip sy'n ceisio bod yn gwrtais ac yn gymwynasgar hyd yn oed i wrthwynebwyr gwleidyddol.

Yn y cyd-destun hwnnw mewn cynhadledd newyddion heddiw dywedodd David fod 'na beryg bod gwleidyddion a'r cyfryngau yn gwneud y dirwasgiad yn waith trwy or-ddweud yn ei gylch a chodi bwganod. Ychwanegodd bod yr hyn wnaeth eu disgrifio fel "gloomy predictions" gan wleidyddion fel Rhodri Morgan a Huw Lewis yn niweidio hyder economaidd ac yn tanseilio ymdrechion cwmnïau i oroesi'r stormydd ariannol.

Digon teg. Ond sut mae sgwario hynny a'r rhybudd gan David Cameron y gallai Prydain fethdalu oherwydd eu dyledion rhyngwladol?

Fe wnaeth David ei orau i ateb ond fe ddaeth y gwir ar ôl y gynhadledd gan Geidwadwr amlwg. "I do wish you'd stop asking ridiculously pertinant questions".

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:40 ar 3 Chwefror 2009, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Rwy'n hoffi yn fawr iawn beth ddywedodd [rwy'n credu ] Jakob Bronowski 'You have to ask an impertinent question to get a pertinent answer..' neu i fod yn fwy manwl gywir..

    'That is the essence of science : ask an impertinent question and you are on your way to a pertinent answer..'

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.