Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pacio

Vaughan Roderick | 15:15, Dydd Mercher, 11 Chwefror 2009

Dydw i erioed wedi deall yr holl ffwdan ynghylch bagiau plastig. Rwy'n derbyn eu bod nhw'n gallu anharddu ambell i le ac, am wn i, fe fyddai'r byd ychydig yn well pe bai pawb yn ail-ddefnyddio bagiau ond pam yr y ddaear y mae'r cynulliad wedi trafod y pwnc cymaint o weithiau?

Efallai mai'r aelodau sy'n iawn a fi sydd allan o gysylltiad. Pan ofynnodd Ö÷²¥´óÐã Cymru i bobol enwebu un mesur y dylai'r cynulliad fabwysiadu mesur i gyfyngu ar fagiau plastig oedd ar frig y rhestr.

Rwy'n gwrando ar y ddadl nawr. Yn ôl Jane Davidson mae'r bagiau yn "symbol of unsustainability". "An icon of our throwaway society" yw disgrifiad Darren Miller. "My husband is having a real love affair with plastic bags" medd Lorraine Barrett ac yn ôl Mick Bates "this is a red bag day..the beginning of an anti-bag crusade."

Bagiau plastig.

Heb os fe fydd y cynulliad yn cyflwyno mesur i orfodi i siopau ar archfarchnadoedd godi am fagiau cyn bo hir.

Beth fydd yr ymateb gan y busnesau, tybed? Maen nhw'n debyg o fod wrth eu boddau oherwydd natur pwerau'r cynulliad. Mae'r gwleidyddion yn gallu gorfodi cwmnïau i godi am fagiau ond y cwmnïau nid y cynulliad sy'n cael yr arian.

Meddyliwch am eiliad. Fe fyddai Tesco, Asda a'r gweddill yn gallu beio'r cynulliad a phocedu'r pres tra bod Mr Barret a'i debyg yn gorfod talu am eu pleserau!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.