Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dysgu Gwers

Vaughan Roderick | 11:17, Dydd Iau, 5 Mawrth 2009

Dydw i ddim yn gwybod am eich ardal chi ond yma yng Nghaerdydd mae platiau "D" bron mor gyffredin â phlatiau "L" ar gefn ceir. Maen nhw mor gyffredin erbyn hyn mai'n anaml iawn y mae dyn yn sylwi arnyn nhw. Mae'n rhyfedd i feddwl pa mor hir a chwerw oedd y frwydr yn eu cylch.

Am flynyddoedd roedd platiau "D" yn cael eu gwerthu mewn garejis a siopau llyfrau ond roedd eu defnyddio yn dechnegol anghyfreithlon. O bryd i gilydd fe fyddai crwt chweched dosbarth o Fotwnnog neu Ystalyfera yn cael ei arestio gan blismon ifanc brwdfrydig am arddangos plat "D" ac roedd Y Swyddfa Gymreig a'r adran drafnidiaeth yn fyddar i bob ple am newid yn y rheolau.

Roedd esgusodion y Swyddfa Gymreig yn bathetig. Maen nhw'n werth eu hail-adrodd er mwyn cofio pa mor dila oedd gweledigaeth gweision sifil Parc Cathays a pha mor ddilornus oedd eu hagwedd tuag at y Gymraeg.

Am unwaith doedd hi ddim yn bosib defnyddio'r ddadl gyntaf ar y rhestr esgusodion y Swyddfa Gymreig - y gost. Y modurwr wedi'r cyfan oedd yn talu am y platiau.

Doedd hynny ddim yn broblem i adran esgusodion y Swyddfa Gymreig - yr adran fwyaf effeithlon yn y swyddfa o bell ffordd. Wedi'r cyfan roedd rhif dau ar y rhestr esgusodion yn gymwys. Fe fyddai platiau "D", wrth reswm yn "anniogel". Oedd y selotiaid ieithyddol yn fodlon gweld plant yn cael eu lladd er mwyn y Gymraeg?

Pan fethodd y ddadl honna argyhoeddi defnyddiwyd rhif tri ar y rhestr- y broblem drawsffiniol- y peryg y gallai rhywun torri'r gyfraith yn ddiarwybod trwy yrru dros y ffin rhwng Powys a Swydd Henffordd.

Nid dim ond arddel yr un hen esgusodion wnaeth y Swyddfa Gymreig. Roedd gallu ymenyddol gweithwyr yr Adran Esgusodion yn ddiharebol a thrwy "feddwl y tu fas i'r bocs" cynhyrchwyd esgusodion cwbwl newydd a gwreiddiol. Awgrymmwyd, er engrhraiift, nad y llythyren "L" oedd ar y platiau "L" ond symbol haniaethol. Dim ond ffŵl fyddai'n meddwl mai llythyren gyntaf y gair "learner" oedd y symbol hwnnw.

Dwi'n meddwl mai William Hague wnaeth benderfynu bod digon yn ddigon a gesiwch beth, dyw'r adrannau damweiniau a chelloedd heddlu Henffordd ddim yn orlawn oherwydd cyfreithloni platiau "D"!

Mae hynny'n dod a ni yn ôl at siop tsips Cas-gwent. Roeddwn i'n meddwl bod yr Adran Esgusodion wedi hen gau ond mae'n ymddangos ei bod wedi mudo o Barc Cathays i Tŷ Gwydr. Mae Swyddfa Cymru yn mynnu nad oes 'na unrhyw ddadl yn erbyn yr egwyddor o drosglwyddo'r cyfrifoldeb am ddeddfu ynghylch yr iaith i Fae Caerdydd. Poeni am y "gost i fusnes" mae'r Ysgrifennydd Gwladol. Fe wnâi broffwydo y bydd cwestiynau ynghylch diogelwch a 'r broblem draws-ffiniol hefyd yn codi eu pennau yn ystod trafodaethau'r pwyllgor dethol. "Mae'r egwyddor yn iawn ond...."

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi agor y drws i'r dadleuon hyn trwy gytuno i osod trothwy yn yr LCO ynghylch maint y busnesau y gall y Cynulliad ddeddfu yn eu cylch. Trwy gytuno i un amod rhoddwyd rhwydd hynt i aelodau seneddol osod amodau eraill. Fe fydd yr Adran esgusodion yn gweithio oriau ychwanegol!

Roedd Rhodri ac Ieuan yn mynnu nad oedd ei ildiad ar yr LCO tai fforddiadwy yn gosod cynsail. Nonsens Roedd cynsail wedi ei gosod a'r gynsail honno sy'n mynd i alluogi i'r pwyllgor dethol frathu eu tinau dros yr LCO iaith.

Anghofiwch am syniad y gallai talpiau sylweddol o bŵer gael eu trosglwyddo trwy orchmynion. Y farn yn San Steffan yw bod LCOs yn ddeddfau ac fe fydd Aelodau Seneddol yn eu trin gyda'r un manylder ac unrhyw ddeddf arall. "Setlo'r cwestiwn cyfansoddiadol am genhedlaeth"? Mae deddf Llywodraeth Cymru'n cwympo'n ddarnau'n barod.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.