Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ifor Hael

Vaughan Roderick | 12:02, Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2009

Nid fy lle i yw rhoi cyngor i'r llywodraeth nac i bleidiau gwleidyddol ynghylch eu cysylltiadau cyhoeddus. Ond pe bawn i'n rhoi cyngor i blaid lywodraethol oedd yn cael ei beirniadu am fethu a chadw ei gair ynghylch papur dyddiol Cymraeg mae'n bosib y byswn yn awgrymu ei bod wedi colli cyfle euraidd i dawelu meddyliau ei chefnogwyr mwyaf pybyr heddiw.

Cafwyd cyfres o fan gyhoeddiadau gan y llywodraeth heddiw. Doedd dim byd o bwys tragwyddol ond roedd 'na ambell i beth diddorol.

Efallai eich bod chi'n cofio'r £100,000 yna a roddwyd i Eisteddfod y Bala ychydig wythnosau yn ôl oherwydd "problemau arbennig wrth godi arian mewn ardaloedd gwledig". O goffrau'r adran dreftadaeth y daeth yr arian yna. Heddiw cafwyd cyhoeddiad gan yr adran economaidd yn gwarantu hyd at £300,000 i Eisteddfod Blaenau Gwent. Mae'n ymddangos nad yw hi'n hawdd codi arian mewn ardal drefol chwaith!

Cafwyd cyhoeddiadau gan yr adran addysg hefyd heddiw ynghylch cynlluniau gwariant cyfalaf yn eu plith mae cynllun gwerth tair miliwn o bunnau i ymestyn Ysgol Gyfun Gymraeg Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl ac un arall gwerth £3.6m i godi ysgol gynradd Gymraeg newydd sbon ym Mlaenau Gwent.

At ei gilydd felly cyhoeddwyd cynlluniau gwerth £7 miliwn i hybu'r Gymraeg yng Ngwent. Siawns bod hynny'n haeddu datganiad i'r wasg. Oscar? Jocelyn?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:20 ar 24 Mawrth 2009, ysgrifennodd MH:

    Ydy'r ysgol newydd ym Mlaenau Gwent yr un ym Mlaina (Ysgoln Nant y Glo), neu un arall?

    Mae'r gwaith ar Ysgol Nant y Glo wedi dechrau'n barod (mis Rhagfyr). Y pris yw £5.3m.

    Does dim son am unrhyw ysgol newydd (ar hyn o bryd, o leiaf) ar wefan Llywodraeth y Cynulliad. Ond, os cywir, byddai'n newyddion da iawn.

  • 2. Am 14:02 ar 24 Mawrth 2009, ysgrifennodd Doris:

    Mwy o bres i'r 'steddfod? Blydi hel! C'mon bois. Onid yw e'n bryd gofyn a yw'r Eiseddfod werth e?

  • 3. Am 21:00 ar 24 Mawrth 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dwi'n cymryd mai Nantyglo yw'r ysgol. Mae'r cyhoeddiad ysgolion braidd yn rhyfedd gan ei fod yn cynnwys rhai cynlluniau sydd eisoes ar y gweill. Yr hyn mae'n cynnwys yw'r arian sydd i'w wario yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dyw'r rhestr ddim wedi ei chyhoeddi o'r blaen ond mae rhai o'r cynlluniau eisoes yn hysbys,

  • 4. Am 23:06 ar 25 Mawrth 2009, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    Ie, cawl ail dwymo yw'r cyhoeddiad am ysgol newydd sef adeilad newydd i Ysgol Gynradd Gymraeg Brynmawr sydd wedi ei ail leoli yn Nant y Glo.

    O ran Ysgol Gwynllyw mae'r adeiladau presenol mor ddifrifol wael ( yn cynnwys llawer o adeiladau dros dro a adeiladwyd yn y chwechdeau) nid yw £3m yn fawr o ddim. Mae'r cynghorau lleol wedi cytuno rhoi £9m arall tuag at y cynllun adnewyddu ond mewn gwirionedd bydd rhaid gwario dros £20m i gael ysgol sydd o unrhyw safon. Dyma adeilad sydd wedi cael eu anghofio yn llwyr ers i Wynllyw symud yma o Abercarn gyda 200 o blant. Gyda 1200 o blant yma erbyn 2011 rhaid gwneud rhywbeth ar fyrder.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.