Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Owainbevan

Vaughan Roderick | 10:08, Dydd Gwener, 27 Mawrth 2009

Ydw, dwi'n gallu cadw fy ngheg ynghau weithiau! Fedrai ddim dweud wrthoch chi pa mor anodd mae wedi bod i beidio blogio ynghylch fideo firaol y Blaid Lafur dros y dyddiau diwethaf. Roeddwn yn ofni y byddai rhywun yn cael traed oer bawn i'n crybwyll y peth cyn i safle fynd yn fyw. Fe fyddwn wedi bod mor siomedig pe na bai'r genedl wedi cael y cyfle i weld y campwaith rhyfeddol yma!

Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod 'na bobol fawr yn y Blaid Lafur yn meddwl bod y fideo yn un doniol ac effeithiol. Wel mae pobol yn chwerthin- ond am y rhesymau anghywir! Ffrwyth dychymyg Eluned Morgan a Peter Hain yw'r fideo. Yn ôl Llafur mae'n cynrychioli "Obama moment for Welsh Labour". Gadewch i ni ryfeddu am eiliad. Mae Llafur Cymru yn credu bod ei fideo nhw yn cyfateb i rain.

Gyda llaw ydych chi wedi sylwi ar y "DT" yng nghyfeiriad y wefan. Ie, David Taylor, eto!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:23 ar 27 Mawrth 2009, ysgrifennodd Gwyneb Coch:

    Os y busawn i yn aelod o'r Blaid Lafur yng Nghymru, faswn ddim yn mynd allan o'r ty ar ol gweld hwn. Os y bu yna embaras gwleidyddol erioed wel dyma fo!

    Mae arnai ofn bod yr aelodau yma o'r Blaid Lafur wedi saethu eu hunain yn eu traed.

    Be nesa?

  • 2. Am 11:24 ar 27 Mawrth 2009, ysgrifennodd henferchetan:

    Bach o gloddio pellach a mae llaw ein hannwyl Mr Taylor yn fwy clir:

    Domain name:
    aneuringlyndwr.co.uk
    Registrant:
    David Taylor
    Registered on:
    26-Jan-2009

  • 3. Am 12:11 ar 27 Mawrth 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Mae hyn yn ddoniol (fel y nodaist am y rhesymau anghywir!). Does dwyffordd am hynny. Ond y peth doniolaf ydi bod pobl fel Mr Hain ac Eluned ac Alun yn meddwl bod hwn yn ddull cyfathrebu gwych!

    Ond mae ochr arall i hyn, sef a yw'r gwleidyddion hyn mor bell o'r cyhoedd fel eu bod yn meddwl bod pobl gyffredin yn ffendio rhywbeth fel hyn yn ddoniol neu'n ddifyr (eto, am y rhesymau cywir!)?

    Cawn weld am faint y bydd y wefan i fyny - ddim yn rhy hir dybiwn i!!

  • 4. Am 12:11 ar 27 Mawrth 2009, ysgrifennodd ELYSTAN EIN LLYW OLAF:

    Trist iawn, very sad!

    Mae'n amlwg nad oes gan y Blaid Lafur ddim i'w gynnig ond gwatwar.

    Petawn i'n nabod aelod o'r Blaid Lafur buaswn i'n cwyno ond dwi ddim yn nabod un aelod o'r Blaid Lafur sy'n byw yn ardal Aberystwyth.

    Mae'r Blaid Lafur ond yn bodoli yn ei chadarnleoedd - ardaloedd sydd wedi profi eu teyrngarwch i Lafur ers cenedlaethau ond sydd yn dal i gael eu ystyried yn ardaloedd difreintiedig.
    Pam hynny?

  • 5. Am 12:19 ar 27 Mawrth 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Pam nad yw pobl yn galw ar Rhodri Morgan i ymddiswydd/dieithro ei hun o'r fideo etc a'r holl stwff mae Llafur wedi galw ar i'r Ceidwadwyr neu Blaid wneud pan fydd rhywbeth 'annerbyniol' yn cael ei wneud?

    .... er, dyma'r propaganda orau allai Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr ei gael.

    Cymharer www.GallCymru.com gyda hwn.

    Llafur Cymru - RIP. Ac roedd pobl yn gweld Eluned Morgan fel dyfodol y Blaid Lafur. Duw a'i helpo!


  • 6. Am 12:21 ar 27 Mawrth 2009, ysgrifennodd dewi:

    "O Luned tyrd yn ôl..." D'eiriau di Vaughan !!!

  • 7. Am 23:29 ar 27 Mawrth 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Clywais i sain y Fideo ar Radio CYmru'r bore ma, ond lwyddodd y Radio ddim i gyfleu naws amaturaidd, plentynaidd, chwerthynllyd y fideo llawn. Mae isie i bob Tori a phob Plaidi (y?) hyrwyddo'r wefan hon ar bob achlysur, er mwyn dangos safon y bobl sydd yn gobeithio ein harwain.

    Dwli ar y llun o Blair yn gwneud saliwt naziaidd wrth lusgo ryw gyfreithwraig salw o'i ol. Hoffi'r ffordd nad yw'r cantorion i'w gweld yn gwbod na'r geiriau na'r don ar adegau.

    A beth yw'r nonsens na ynglyn a chardota yn Ewrop?

    Llythyr Pennal, Buddugoliaeth Hyddgen, Senedd a Phrifysgol i Gymru, Gwefan ddiweddaraf y Blaid Lafur. Beth sydd yn eu cysylltu?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.