Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Owainbevan (3)

Vaughan Roderick | 14:46, Dydd Gwener, 27 Mawrth 2009

Roeddwn i'n meddwl y base'n sbort i weld sut ymateb sy 'na ar draws y we i ymdrechion Llafur Cymru. Ydy pobol yn cytuno a Peter Hain bod hon yn "foment Obama i Llafur Cymru"?

Dyw'r sylwadau ar ddim yn awgrymu hynny.

Lovely production. What a pity the St Winifred's school choir was unavailable to do the vocals; they appear to have made the film.

Well i'm certainly not going to spend time complaining about it...Its terrible! I'd love to see there wasting more time with this sort of drivel!

I can't believe it's so bad. This is the sort of thing a bunch of drunk sixth formers might have produced before the 97 election.

Beth felly am selogion

I have never seen anything so embarrassing in my life. Apart from the PRS issue - I assume that the SoS for Wales never actually saw this before giving his endorsement.
If he did, then I despair. My cat can sing better than that. Oh and the cut out images!!!

I've just seen the first excruciating 30 seconds of the video. I hope it gets better but I can't bear to find out! Inane lyrics, dire flat singing, ear-popping harmonies. Aaaarrrrggggghhhhhhh!

O diar.

Ac un sylw gan gyfaill sy'n feistr ar gyfreithiau etholiadol;

Pwynt call iawn ar y blog Vaughan. Mae elfen arall o gyfraith etholiadol yn berthnasol hefyd. Sef mae angen i rywun sy'n hyrwyddo plaid wleidyddol mewn cyfnod etholiadol dderbyn awdurdod o flaen llaw gan y Blaid i ymgyrchu ar ei rhan, ac mae'n rhaid i'r gwariant hynny gael ei ddangos fel rhan o gostau ymgyrch etholiad. Mae hyn yn berthnasol am ein bod yng nghyfnod gwariant etholiadol ymgyrch Ewropeaidd ac mae'r canllawiau gan y Comisiwn Etholiad yn glir iawn (ac yn dynn iawn!).


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:50 ar 27 Mawrth 2009, ysgrifennodd Henferchetan:

    Hm... Mae David Taylor yn was bach i Leighton Andrews, ar gyflog Llafur?

    A mae nifer o'r postiadau ar y wefan wedi ei gwneud yn ystod oriau gwaith.

    Sut felly mae posib i'r wefan ddweud
    "We receive no money from the Labour party, or any political party, and are funded by advertising, sponsorship and donations from private individuals."

    Os ydi gweithiwr cyflodedig Llafur yn gwneud y wefan yn ystod oriau gwaith gyda cefnogaeth ei fos, onid ydi hyn yn cyfri fel ariannu'r wefan?

  • 2. Am 22:02 ar 27 Mawrth 2009, ysgrifennodd Emyr:

    Pwynt arall,

    A ydw i ar fy mhen fy hun yn ei gweld hi'n ffiaidd o beth fod can sy'n son am drais yn erbyn menywod yn cael ei dathlu gyda'r fath arddeliad fel un o'n caneuon cenedlaethol modern ni?

    Sut gall unrhyw un fod yn gysurus am wneud joc yn seiliedig ar y fath beth?

  • 3. Am 12:26 ar 28 Mawrth 2009, ysgrifennodd Hen Ferchetan:

    Wedi trio cael ychydig o hwyl efo'r peth yma

  • 4. Am 22:22 ar 28 Mawrth 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Emyr.
    Wyt , onibai am ffeministiaid sych.Gret o gan.
    Newydd fod yn ei morio hi gyda fy nghyd-Gymry yn stadiwm y Mileniwm .

  • 5. Am 23:27 ar 28 Mawrth 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Dwli ar agoriad y post diweddara ar y blog:

    "A mainstream political party in Wales has never made such a fool of itself with an ill-thought out video."

    Son am y toriaid ma nhw, wrth gwrs, ond braidd yn eironig!

    Gyda llaw, Vaughan, beth sy wedi digwydd i'r blog hwn? Mae'n amhosib ei weld yn ddechau ar Mozilla heb gynyddu'r testun i faint anferth. Mae gyda blog Betsan yr un un broblem.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.