Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Popio'r ploryn

Vaughan Roderick | 10:17, Dydd Gwener, 6 Mawrth 2009

Dydw i ddim yn gwybod beth fyddai cost codi pencadlys newydd sbon i lywodraeth y cynulliad. Dim llawer mwy na'r £42 miliwn y mae'r llywodraeth yn bwriadu eu gwario ac adfer ac ail-ddodrefni'n "CP2", y pendcadlys presenol ym Mharc Cathays, mae'n siwr.

Yn fy marn fach i, fe fyddai pencadlys newydd gwerth pob ceiniog pe bai'n golygu diflaniad CP2 y ploryn penseirniol ar wyneb ein priffddinas!

Does gen i ddim o'r geiriau i gyfleu fy nghasineb tuag at CP2, adeilad hyll a haerllug sy'n anharddu ardal sy'n un o drysorau penseirniol Cymru. Yr haerllugrwydd nid yr hylltra sy'n fy ngwylltio fwyaf. Fel un o adeiladau'r Raj gynt prin yw'r ffenestri sy'n edrych allan ar y bobol sy'n cael eu llywodraethu. Edrych i mewn ar ei gilydd mae'r gweision sifil.

Mae'r holl bensaernïaeth yn cyfleu delwedd o sefydliad sy'n gaeedig, yn gyfrinachol ac yn ddigroeso. Disgrifiwyd yr adeilad unwaith fel "enghraifft berffaith o bensaernïaeth drefedigaethol". Os am brawf o hynny cymharwch y ffos pymtheg troedfedd o ddyfnder sy'n amgylchyni CP2 a'r ffosydd o gwmpas cestyll y Normainaid.

Cyn i neb ddweud , dwi'n gwybod mai peryglon terfysgaeth oedd yr esgus am godi'r fath gaer. Os felly pam nad oes 'na adeiladau tebyg yn Westminster? Oes 'na fwy o beryg o derfysgaeth yng Nghymru nac yn Llundain? Ydy Parc Cathays yn llai pwysig yn bensaernïol na Whitehall?

Ond pechod mwyaf CP2 yw ei lleoliad. Dydyn nhw ddim ar gael ar y we ond mae cynlluniau gwreiddiol Parc Cathays yn werth eu gweld. Mae rhai o'r adeiladau i'w gweld heddiw, Neuadd y Ddinas, yr Amgueddfa a'r Brifysgol, er enghraifft. Ond yn coroni'r cyfan roedd adeilad na chafodd ei godi. Clamp o adeilad, dwywaith yn uwch na Neuadd y Ddinas yn ymestyn lled y parc wedi ei gynllunio yn yr un arddull "neo-baroque". Hwn oedd Senedd Cymru i fod yn cynnwys y "Welsh House of Commons" a'r "Welsh House of Lords".

Ffantasi bensaernïol yn hytrach na realiti gwleidyddol oedd y Senedd wrth gwrs ond fe osodwyd carreg ar y safle yn nodi ei fod wedi ei "ddiogelu am byth" ar gyfer Senedd Cymru. Yn y pumdegau lluniodd y diweddar Athro Dewi Prys Thomas gynlluniau newydd am senedd ar y safle yn arddull bensaernïol y " Festival of Britain"

Ar y safle hwn y codwyd CP2. Byncer i ysgrifenyddion gwladol o Wokingham a'r Wirral lle'r oedd Senedd Cymru i fod. Fe ofynnais rhai blynyddoedd yn ôl beth ddigwyddodd i'r garreg. Doedd neb yn gwybod. Wedi ei thaflu i ryw sgip, mae'n siŵr. Yn sgip hanes y mae CP2 yn haeddu bod hefyd!
.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:59 ar 6 Mawrth 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Ti'n iawn Vaughan. Er, mae adeliad y Swyddfa Gymreig (CP2 bellach) yn syndod o debyg i senedd-dy Lithwania, y Seimas,

    ... dwi'n cofio gweld y digwyddiadau yn 1989/90 pan oedd milwyr Rwsia'n ymsosod ar y Seimas a'r Lithwaniaid yn ei amddiffyn ac roedd yn atgoffa rhywun o fersiwn mwy peryglus o brotest Cymdeithas yr Iaith.

    Piti mawr na adeiladwyr cynllun Dewi Prys ... siwr y byddai'n fwy urddasol na Ty Hywel sy'n le diddorol o ran ecoleg, ond yn ddigon di-urddas ac yn ddigon bychan a di-uchelgais i beidio herio San Steffan ... yn bwrpasol felly dwi'n meddwl. Doedd y panel ddewis ddim am i ni gael adeilad rhy impressive nac oedden!

  • 2. Am 12:04 ar 6 Mawrth 2009, ysgrifennodd Richard Wyn Jones:

    Difyr iawn Vaughan! Ond os ydi CP2 yn adeilad ciami beth felly yw dy farn am y swyddfa heddlu na, nid nepell ohono?! Neu falle nad yw rheolau blogio Ö÷²¥´óÐã Cymry yn caniatau i ti ddefnyddio iaith briodol?

    Gyda llaw...ydi cynlluniau Dewi Prys ar gael yn rhywle? Byddwn wrth fy modd eu gweld.

  • 3. Am 12:49 ar 6 Mawrth 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Cred neu beidio fe ennillodd Swyddfa'r Heddlu wobor! Fe fydd yr heddlu'n gadael y lle cyn bo hir. Efallai mae'r Brifysgol fydd yn etifeddu'r lle...oes chwant da ti gael swyddfa yna?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.