Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Croeso Chwedeg Nain

Vaughan Roderick | 11:49, Dydd Mercher, 8 Ebrill 2009

Ymhen ychydig wythnosau fe fydd y cynulliad yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oedd ac fe fydd 'na dipyn o sbloits yn y senedd.

Mae'n ddiddorol nodi mai ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf ac nid ar ddyddiad yr agoriad brenhinol y bydd y dathliadau'n cael eu cynnal. Mae 'na "ben-blwydd" brenhinol arall eleni hefyd. Ar Orffennaf y cyntaf fe fydd hi'n ddeugain mlynedd ers arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon.

Mae'n debyg y bydd yr achlysur yn cael ei nodi ond o'r hyn dwi'n clywed bydd 'na ddim byd mawr yn digwydd a dim byd swyddogol yng Nghaernarfon. Yn ôl gwefan Cadw fe fydd 'na berfformiad o "Twelfth Night" yn y castell ar Fehefin 25ain ac ar Orffenaf 4ydd fe fydd Marchogion Ardudwy yn perfformio ond ar Orffenaf 1af- dim byd.

Dyw'r pethau yma ddim yn cael eu dathlu neu eu hanwybyddu ar hap a damwain. Mae rhyw un yn rhyw le wedi penderfynu peidio codi crachen. Nid adlewyrchiad ar y Tywysog na'i waith yw hynny ond cydnabyddiaeth bod yr Arwisgiad wedi rhannu Cymru ac wedi esgor ar brotestiadau a thrais. Pe bai'r Arwisgiad wedi cymryd lle yng Nghastell Caerdydd, dyweder, efallai y byddai digwyddiad yn cael ei gynnal eleni- ond yng Nghaernarfon? Dim ffiars o beryg.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:39 ar 10 Ebrill 2009, ysgrifennodd Siôn Aled:

    Felly a welwn ni Arwisgiad yng Nghaernarfon, neu unrhyw le arall, fyth eto?

  • 2. Am 20:27 ar 10 Ebrill 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Anhebyg yng Ngymru, Sion. Cyn 1911 roedd y pethau 'ma'n digwydd yn y tu ôl i ddrysau caeedig yn Llundain a Windsor... "consenting Royals in private"!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.