Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Da yw swllt

Vaughan Roderick | 15:27, Dydd Sadwrn, 4 Ebrill 2009

Cyflogau blynyddol;

Prif Weithredwr Cyngor Merthyr (Cyllideb 2009-10 £104 miliwn); £131,500

Prif Weithredwr Ofcom (Cyllideb 2009-10 £136.8 miliwn); £417,500

Prif Weithredwr NASA (cyllideb 2009-10 $19.7 biliwn/£13.3 biliwn); $177,000/ £119,000

Jyst dweud.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:49 ar 4 Ebrill 2009, ysgrifennodd FiDafydd:


    A beth am gyflogau rai o bobl y cyfryngau Vaughan?!

  • 2. Am 18:25 ar 4 Ebrill 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pwynt teg. Fe wnes i gynnwys Prif Weithredwr Ofcom yn union er mwyn ceisio osgoi'r cyhuddiad hwnnw! Gallwn wedi cyfeirio at gyflogau rheolwyr y Ö÷²¥´óÐã. Mae rheiny'n hysbys. Ond cymharu cyflogau rheolwyr o gymharu a'r cyllidebau y maent yn eu rheoli oeddwn i. Doeddwn i ddim yn gweld pwynt cynnwys peldroedwyr, actorion, Jonathan Ross ayb. Mae honna'n ddadl wahanol.

  • 3. Am 19:43 ar 4 Ebrill 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Mae'n anodd cymharu cyflogau yr UDA a Phrydain oherwydd fod trethau incwm a chostau byw mor wahanol. Hefyd mae cwmniau Americanaidd yn dueddol o gynnig llawer o mwy fuddiannau ychwanegol i weithwyr cyflogedig (fel yswiriant meddygol).

    Ond yn y cyd-destun Prydeinig, mae cyflog CEO Ofcom yn warthus.

  • 4. Am 19:57 ar 4 Ebrill 2009, ysgrifennodd dewi:

    Mae yna job sy'n talu'n ddeche ym Merthyr???

  • 5. Am 12:36 ar 6 Ebrill 2009, ysgrifennodd plaidman:

    Pasiodd Prif Weithredwr Sir Benfro y 100k blynydde nôl!

    Cadwch lan bois bach... Penfro sy'n arwain tra bo'r lleill yn dilyn...

  • 6. Am 16:01 ar 6 Ebrill 2009, ysgrifennodd Simon Dyda:

    Ar bwnc arall: oes siawns cael barn y Bwci ar ras arweinyddiaeth Llafur Cymru?

  • 7. Am 22:16 ar 6 Ebrill 2009, ysgrifennodd B G:

    Mae hyn yn cymryd y bisged! Warth fod rwyn gwneud job mewn llywodraeth lleol yn cael hynny! Cyflog 8 nyrs.

  • 8. Am 17:55 ar 7 Ebrill 2009, ysgrifennodd Negrin:

    Mae cyflog Isobel Garner prifweithredwraig Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dipyn llai na un Merthyr (tua £108,000) gyda cyllideb o £200 miliwn!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.