Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ffŵl Ebrill (2)

Vaughan Roderick | 15:17, Dydd Mercher, 1 Ebrill 2009

Onid oes gan ein haelodau bethau gwell i wneud? Yn dynn ar sodlau ei derbyniad i ddathlu chwyldro Ciwba ac ethol Hugo Chaves yn Venezuela dyma aelodau'r cynulliad yn derbyn e-bost arall gan Leanne Wood yn hyrwyddo adeiladu paradwys y proletariat.

Annwyl Bawb,
Efallai eich bod yn ymwybodol ein bod yn prysur agosau at Ebrill 1af - y dyddiad sy'n dynodi 70 mlwyddiant ers diwedd Rhyfel Cartref Sbaen. Rwyf wedi gosod Datganiad Barn ynglyn â nodi gwirfoddolwyr o Gymru a fu'n ymladd yn y rhyfel. Gobeithio y byddwch yn ystyried llofnodi'r Datganiad - mae ffurflen wedi ei atodi er cyfleustra. Mae'r Datganiad yn darllen fel a ganlyn:

Mae'r Cynulliad hwn: Yn nodi ar 1af Ebrill y bydd 70 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers diwedd Rhyfel Cartref Sbaen, ac yn cydnabod aberth y gwirfoddolwyr Cymreig a aeth i frwydro yn erbyn ffasgiaeth; Yn ailddatgan ei wrthwynebiad i ffasgiaeth; Yn dymuno coffáu pobl o Gymru a wirfoddolodd i frwydro yn erbyn ffasgiaeth yn Sbaen ; yn cefnogi gosod cofeb barhaol yn y Senedd.
Leanne.

Bant a ni. Fe wnai anwybyddu'r atebion gan Lorraine Barret, Geoff Cuthbert a Huw Lewis yn tynnu sylw at y gofeb genedlaethol ym Mharc Cathays ac ail-ymuno a'r gohebiaeth gyda ymyrraeth Leighton Andrews.

Leanne,
Forgive me, but 70 years ago weren't Plaid Cymru's leaders supporting Franco?
Regards

Leighton

Cheap shot Leighton.
How long ago is it that you were a Lib Dem?

Helen Mary

Ha Ha. I defer to Gwyn Alf Williams, a fomer Plaid Vice President, in When Was Wales? (Penguin) when he argued: "During the 1930s Plaid became even more of a right wing force. Its journal refused to resist Hitler or Mussolini, ignored or tolerated anti-Semitism and, in effect, came out in support of Franco. In 1941 Saunders Lewis' pamphlet "The Church and the World" explicitly rejected the war against Nazi Germany while in 1944 Ambrose Bebb condemned the plot to assassinate Hitler."
Leighton

And your point is???Perhaps we could look at the difference in attitude to working people? Labour's present leadership compared to those of 70 years ago?Discuss.
Glyn Erasmus (swyddog y wasg Jocelyn Davies)

There were, of course other voices in Plaid at that time. Be that as it may, the very fact that Gwyn Alf joined Plaid shows how much we've changed since then, thank goodness. As, of course, as the Labour Party. From the socialist force for good it was then to what it is now. I suspect we both have better things to do than argue about history.
Helen Mary.

Gyda llaw roedd y pethau gwell oedd gan Helen i wneud yn cynnwys annerch rali yn erbyn toriadau mewn addysg bellach. Fe wnaeth Rhodri Glyn, Joyce Watson ac Alun Davies siarad hefyd. Pa lywodraeth gyflwynodd y toriadau? Nid yr un sy'n cael ei chefnogi gan Helen, Rhodri, Joyce ac Alun bid siŵr!

Yn ôl at yr ohebiaeth.

No offence but this is getting on my nerves! Can you argue amongst yourselves, I have no real interest in the history of Welsh socialism!
Jonathan Morgan

Helen, Certainly agree we both have better things to do.
Leighton.

Annwyl Bawb,
Dwi'n cytuno hefyd. Beth am ddechrau gyda bod yn ofalus ynghylch pwy sy'n derbyn eich e-byst?

Vaughan


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:46 ar 1 Ebrill 2009, ysgrifennodd Macsen:

    er gwybodaeth, fe ymrestrodd mwy o wirfoddolwyr tramor i ymladd gyda Franco nac yn ei erbyn.

    Gallwn ni yng Nghymru jyst adael yr 1930 a'r 1980au ar ol. Dwi wedi cael llond bol o Plaid a Llafur yn dadlau dros y cyfnodau yma.

    Leanne - fel cenedlaetholwr dwi'n ochri gyda'r Weriniaeth, dim ond oherwydd iddo gynnig ymreolaeth i'r Basgiaid a'r Catalanwyr. Ond, mewn difri, petai'r Weriniaeth wedi ennill y Rhyfel Cartref, wyt ti'n meddwl na fyddai miloedd o'u gwrthwynebwyr ac o bobl diniwed wedi eu lladd gan ffasgwyr asgell chwith fel a ddigwyddodd yn yr Undeb Sofietaidd yr un adeg?

  • 2. Am 17:26 ar 1 Ebrill 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Dwi'n cymeryd fod senedd Sbaen yn trafod, y funud yma, hynt a helynt gwrthryfel Glyndwr . Dros America Ladin gyfan, mae gwleidyddion yn cecru gyda'i gilydd am 1282 .
    Leanne Wood bach, dechrau wrth dy draed ! Mae 'student politics' yn gorffen i'r rhan fwyaf o bobl yn 21
    oed. Cer i'r coleg i ddysgu rhywbeth am Gymru !

  • 3. Am 19:27 ar 1 Ebrill 2009, ysgrifennodd plaidman:

    Da o beth fydde gadael llanastr yr 20fed ganrif yn y llyfrau hanes a chanolbwyntio ar y dyfodol. Gwnaed camgymeriadau ar bob ochor o bryd i'w gilydd.

    Ond mae Leighton Andrews wedi bod braidd yn blentynaidd fan hyn. Roedd pobol ar bob ochr heb weld peryg ffasgiaeth, neu wedi dewis cau eu llygaid ar droseddau Comiwnyddiaeth ayyb ayyb. Nid yw'n glyfar i dynnu darnau allan o hanes i'w defnyddio yn nadleuon y presennol. Dylai rhywun fel Leighton Andrews gwybod hynny.

  • 4. Am 19:47 ar 1 Ebrill 2009, ysgrifennodd dave rodway:

    Ond wrth cwrs mae Leighton yn anghofio oedd Gwyn Alf Williams aelod Plaid, nid Llafur!
    Oedd Leighton Lib Dem hefyd, anti-Llafur iawn in 80s a 90s. A rwan mae'n eisau rhoi dosbarth hanes i ni? Pobol yn tai gwydr Leighton...

  • 5. Am 19:48 ar 1 Ebrill 2009, ysgrifennodd Negrin:

    Cydweld a Macsen fe laddodd y Gweriniaethwyr ei siar o wrthwynebwyr ac hefyd roedd y Comiwnyddion, Sosialwyr ar Anarchwyr yn ymladd a lladd ei gilydd o fewn y chwith weriniaethol. Darllen hanes y Gweriniaethwyr yn Rhyfel Carterf Spaen yn rhoi gwers go iawn i ni ar sut i BEIDIO ymladd rhyfel doedd ganddynt ddim syniad.

  • 6. Am 19:49 ar 1 Ebrill 2009, ysgrifennodd Emyr:

    Rhaid peidio ag anghofio chwaith fod Oswald Mosley wedi bod yn aelod o lywodraeth Lafur Ramsay MacDonald...

    Sori, plentyniadd mi wn.

  • 7. Am 08:52 ar 2 Ebrill 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Er bod hwn yn syniad ddigon teilwng gan Leanne Wood, dwi wedi hen flino arni'n swnian am bopeth heblaw am Gymru - blaenoriatha, Leanne bach!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.