Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Jingo

Vaughan Roderick | 15:05, Dydd Mercher, 22 Ebrill 2009

Mae gen i ben tost ar ôl ceisio deall effaith y gyllideb ar lywodraeth Cymru. Beth am gael hoe yng nghwmni Lembit a'i golofn yn y Daily Sport "Tackle these daft frogs"?

"I HOPE you didn't try getting the ferry to France this week because the English Channel was shut. A fleet of French fisherman got themselves all wound up about their fishing quotas. British fishermen would have signed a petition and marched round Westminster waving their tackle in the air... let's hope the situation gets sorted before the French run out of cider, we run out of onions and Daily Sport babe Gemma Massey has to dress up like Vera Lynn and fly across to sing about Bluebirds over the White Cliffs of Dover."

Fedrai ddim goddef mwy ond cyn troi yn ôl at lyfr mawr coch y trysorlys beth am oedi am eiliad i ddarllen y Daily Star a'r diweddaraf ynghylch ymgyrch y papur dros ddathlu diwrnod Sant Siôr. Och, gwae ni.

"There is a widespread feeling that mass immigration has confused our sense of identity. Many of our values and tradition are under attack from PC loonies, Ilsamic extremists and Eurocrats"

Gwaeth na hynny

"Saint George's Day is in serious danger of being forgotten.. half of English people have no idea what our national hero did."

Efallai nad ydynt yn gwybod chwaith bod Siôr yn nawddsant Catalonia, Portiwgal, Lithwania, Ethiopia, Rwsia a Phalestina a llond dwrn o wledydd eraill yn ogystal â Lloegr. Efallai y byddai'n syniad i un o'r "mass immigrants" o un o'r gwledydd hynny gynnig gwersi addysg grefyddol!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:08 ar 23 Ebrill 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Ydy "Daft Frogs" yn fwy derbyniol na "Greasy Wops" felly? Neu ai dim ond gwleidyddion safonol sy'n gorfod ymddiswyddo dros bethau o'r fath...

  • 2. Am 15:16 ar 23 Ebrill 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    I fod yn deg rwy'n amau mai is-olygydd sy'n gyfrifol am y pennawd!

  • 3. Am 21:55 ar 23 Ebrill 2009, ysgrifennodd hanner.broga_dwp:

    Ydyw hi'n fwy drebyniol i is-olygydd gyhoeddu "daft frogs" na gwleidyddion te Vaughan?...

  • 4. Am 22:34 ar 23 Ebrill 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Nac ydy ond beiwch yr is-olygydd!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.