Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sianel Saith

Vaughan Roderick | 17:29, Dydd Iau, 9 Ebrill 2009

Dydw i ddim yn sicr pam ond mae'n ymddangos bod y blog wedi troi'n golofn am bensaernïaeth yn ystod y dyddiau diwethaf! Adeilad sy'n denu fy sylw eto heddiw- ond un sy'n cael ei ddymchwel y tro hwn!

Mae'r Cydbwyllgor Addysg newydd symud i fewn i bencadlys newydd yn Llandaf (adeilad trawiadol iawn gyda llaw) ac mae'r hen swyddfa gerllaw yn cael ei throi'n rwbel. Adeilad digon di-nod oedd hwnnw ond roedd yn haeddu lle (fel ôl-nodyn o leiaf) yn y llyfrau hanes. Hwn oedd pencadlys Teledu Cymru yr ymgais byrhoedlog i sefydlu sianel deledu Gymreig yn y chwedegau cynnar. Methdalodd y fenter ar ôl rhyw ddeunaw mis a chafodd yr orsaf ei llyncu gan TWW. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach collodd y cwmni hwnnw ei drwydded i HTV.

Mae 'na rhywbeth eithaf symbolaidd mewn gweld yr hen stiwdios yn diflannu ar adeg pan mae'r cyfryngau traddodiadol o dan y fath bwysau. Mae gorsafoedd radio (gan gynnwys Valleys Radio mwy na thebyg) yn rhoi'r gorau i ddarlledu oherwydd diffyg hysbysebion. Mae papurau lleol hefyd yn diflannu. Darllenwch yr erthygl yn y Times am gyflwr y wasg ym Mryste ac fe gewch chi ddarlun eglur o ba mor ddifrifol y mae pethau. Rydym i gyd yn gyfarwydd a'r problemau sy'n wynebu ITV Cymru. Does dim syndod felly bod dau o bwyllgorau'r cynulliad yn cynnal ymchwiliadau i gyflwr y wasg a darlledu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Hyd yn hyn mae ymchwiliadau hynny wedi bod yn llawn o grochlefain a llaesu dwylo. Tro ar ôl tro clywir yr un hen sylwadau "beth gallwn ni wneud?"... "yn anffodus dyw darlledu ddim wedi datganoli a chwmnïau preifat sy'n perchen y papurau"... ayb ayb.

Ond mae 'na bethau y gallai'r cynulliad a'r llywodraeth wneud nawr. Beth am gylchlythyr yn gorchymyn i gynghorau hysbysebu mewn papurau lleol yn hytrach na chyhoeddi eu papurau eu hun i ddechrau? A beth am ddatgan y bydd y llywodraeth a'i hasiantaethau ond yn prynu amser hysbysebu ar orsafoedd radio a theledu sydd yn cynnig gwasanaeth newyddion Cymreig teilwng?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:56 ar 9 Ebrill 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Wy'n hoff iawn o'r syniad o arbed costiau trwy hysbysebu / cyflwyno erthyglau mewn papurau lleol yn hytrach na chyhoeddipapur cyngor.

    Mae dau beth yn erbyn y syniad:
    i) Dwyieithog yw 'Prafda' cyngor Caerffili, ac anhebyg byddai gweld erthyglau dwyieithog yn y Rhymney Valley Express er enghriafft;
    ii) Rhyw bapurau propaganda yw papurau'r cynghorau - tybed pa mor frwdfrydig byddai papurau lleol i gyhoeddi newyddion y cyngor heb ddangos yr ochr dywyll hefyd? Ac am faint byddai'r cyngor yn cynnal gwasanaeth lle bo modd i newyddiadurwyr cwestiynnu llonder y ffeithiau?

    Eto, mae'n syniad fydd yn rhaid i fi godi gyda un o'r cynghorwyr lleol. Diolch yn fawr, Vaughan! (A rhag ofn bod rhywbeth yn digwydd o'i herwydd yng Nghaerffili, ie, iw hyrd it hir ffirst!)

  • 2. Am 00:13 ar 13 Ebrill 2009, ysgrifennodd Dyfrig:

    Mae'n ymddangos fod y penderfyniad i beidio a chefnogi'r Dydd yn gywir wedi'r cwbwl.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.