Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Tacluso

Vaughan Roderick | 11:09, Dydd Mawrth, 14 Ebrill 2009

Dwi'n cyfuno ambell i bost a sylwad yn fan hyn cyn i bethau fynd yn rhemp! Mae Dylan Jones Evans wedi tynnu fy sylw at y ffaith nad yw blog "Welsh Ramblings" ar gael ar hyn o bryd. Fe ddiflannodd yn sgil cyhuddiadau ar ddyddiadur Iain Dale mai rhai o staff Plaid Cymru oedd yn gyfrifol am y safle. Dydw i ddim yn gwybod pu'n ai ydy hynny'n wir ai peidio ond dyna yw'r gred gyffredinol yn y Bae. Hyd y gwelai i, doedd y safle ddim wedi croesi llinell ond mae pawb yn sensitif am y pethau 'ma'r dyddiau hyn! Gwaith cynnal a chadw neu "ordyrs" oddi uchod? Pwy a ŵyr?

Yn y cyfamser mae David Taylor mewn eto- y tro hwn am sylwadau ar Twitter. Ac eithrio fideo Delilah (efallai) dyw cynnwys "" ddim yn llai derbyniol na chynwys "Welsh Ramblings" yn fy marn i ond yn yr hinsawdd bresennol mae 'na beryg bod y safleoedd ymosod yma yn fwy o drafferth nac o werth i'r pleidiau. A fydd David yn derbyn "ordyrs"?. Fe gawn weld.
.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:40 ar 14 Ebrill 2009, ysgrifennodd Mae 'na fyd tu hwnt i'r Bae:

    "Fe ddiflannodd yn sgil cyhuddiadau ar ddyddiadur Iain Dale mai rhai o staff Plaid Cymru oedd yn gyfrifol am y safle . . . dyna yw'r gred gyffredinol yn y Bae."

    O diar, Y GRED GYFFREDINOL YN Y BAE!!! A faint o bwys dylem roi i'r gred honno tybed? Fawr ddim mae'n ymddangos. Viva Ramblings!

  • 2. Am 22:36 ar 14 Ebrill 2009, ysgrifennodd Hedd:

    Hwn sydd wedi diflannu?!?

    Mae'n gweithio'n iawn yma!

  • 3. Am 07:39 ar 16 Ebrill 2009, ysgrifennodd Negrin:

    Mae Welsh Ramblings yn ei ol...a diolch am hyny!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.