Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y cyntaf i'r felin...

Vaughan Roderick | 17:03, Dydd Mawrth, 28 Ebrill 2009

Pa aelod cynulliad sy wedi ennill y llys enw "Windy"? Atebion ar gerdyn post. Dyma gliw bach.

Does 'na ddim cymaint â hynny o lysenwau yn y byd gwleidyddol. Fedrwch chi ddyfalu pwy yw;

1. Peaches

2. Jabba

3. Dave Spikey

4. Y Feical

5. Uncle Bryn

6. Swiss Tony

7. * wedi ei ddileu. Diolch i'r rheiny wnaeth negeseuo i dynnu fy sylw at un ystyr nad oeddwn wedi ei ddirnad. Ymddiheuriadau.

8. Woger Wabit

9. Lyrch y bytlar

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:47 ar 28 Ebrill 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Dwi'n gwybod na rhif 7 ydi Helen Mary Jones, er bod gen i ofn dweud hynny!!

  • 2. Am 09:49 ar 29 Ebrill 2009, ysgrifennodd Ceri Evans:

    Vaughan - os oedd David Taylor wedi defnyddio llysenw mor sarhaus ar gyfer aelod menywaidd o'r cynulliad ar ei flog, neu Lembit yn y Sbort, neu Alun D ynglyn a Trish L, fyddech chi yn flaenllaw yn ei cyhuddo o sexism neu o ddefnyddio gwleidyddiaeth personol.

  • 3. Am 11:40 ar 29 Ebrill 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim yn sicr at ba lys-enw yr wyt ti'n cyfeirio. Os oes na unrhyw ystyr nad wyf wedi ei ddirnad yn un neu fwy o'r llys-enwau mi wnai ei ddileu.

  • 4. Am 22:59 ar 6 Mai 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Beth am ddyfalu pwy di pwy. Da ni wedi disgwyl digon hir am gynhigion.

    Gyda llaw dwi yn meddwl y bod y rhifau cudd yn hynod o aneilwig. Byddent yn anodd i berson ag amhariad gweld. Ydi rhain yn cydymffurio a gofynion Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.