Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gair olaf (gobeithio)

Vaughan Roderick | 00:21, Dydd Mawrth, 26 Mai 2009

Mae'n ymddangos bod safle Golwg360 yn gweithio o'r diwedd (i fi o leiaf).

Mae'r dudalen flaen yn cynnwys y frawddeg yma.

Safle Beta yw hwn, sy'n golygu mai safle prawf ydy e', a'n bod ni am gael eich barn chi i'w newid a'i wella. Felly, fe fydden ni'n croesawu eich ymateb i helpu ni i adeiladu gwasanaeth heb ei ail.

Pam na ddywedwyd hynny o'r cychwyn?

Yn ddiffuant, rwy'n dymuno pob lwc i'r safle ac yn gobeithio am y gorau.

Dau beth bach. Mae angen RSS ar fyrder ac fe ddylai'r wefan weithio fel porth i gynnyrch gwefannau Cymraeg eraill nid ar ffurf y "maes" diflanedig ond trwy gysylltu yn uniongyrchol a thudalennau penodol gwefannau eraill.

Os oeddech chi (fel fi) yn teimlo'n rwystredig rhowch ail-gyfle i nhw. Mae'n gwerth gwneud.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:38 ar 26 Mai 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Dyma'r (dros dro) wnes i ddatblygu - mae tua 40 o bobl wedi tanysgrifio erbyn hyn.

  • 2. Am 15:25 ar 26 Mai 2009, ysgrifennodd Y Boi Mawr:

    Hynny yw, doedd Y Maes, na Lle Pawb rili, yn ddim mwy na rhestr o ddolenni mewn gwirionedd...

  • 3. Am 17:08 ar 26 Mai 2009, ysgrifennodd Rhysun:

    Gobeithio y bydd G360 yn tynnu eu bys allan cyn bo hir. Yn y cyfamser mae yna borthiant RSS answyddogol ar gael yn diolch i Dafydd Tomos!

  • 4. Am 20:50 ar 26 Mai 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    neis fod e'n gweithio i ti Vaughan. Dwi'n mynd i'r hafan ac yn gael y fideo hyrwyddo, gorfod clicio ar 'mynd i'r wefan' ac yna'n cael tudalen wag (heblawn am y bar penawdau top 'newyddion, celf etc) ar y URL yma

    'Beta' myn uffarn i ... ydi rhywun yn gallu cyhoeddu papur newydd/llyfr a dweud mai 'beta' yw e hefyd. 'Beta' = fersiwn ddraft. Dylai fersiynnau drafft ddim fod lan ar y we!

    faint yn hirach sy'n rhaid aros am rhywbeth syml fel y cynllun syml, hawdd ei ddeall yma: a miloedd o rai eraill.

    A oes pwrpas disgwyl am golofnwyr difyr a phryfoclyd hefyd ...?

  • 5. Am 22:13 ar 26 Mai 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Paid gofyn i fi! Mae'r diffyg colofnwyr/blogwyr yn rhyfedd ond ar ddiwedd y dydd dyw £200,000 y flwyddyn ddim yn llawer o arian ar gyfer gwefan 24/7. Byswn yn tybio mae'r dewis oedd rhwng cyflogi digon o bobol i geisio cynnig gwasanaeth newyddion Prydeinig a thramor a chyflogi cyfranwyr nodwedd a sylwebyddion. Yn bersonol fe fyswn i'n ffafrio'r ail ddewis ond mae'n bosib dadlau'r naill ffordd neu'r llall.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.