Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Glyg...

Vaughan Roderick | 15:03, Dydd Mercher, 20 Mai 2009

Ac eithrio sgwennu rhagolwg bach dwi wedi osgoi trafod helyntion . Fel un sy'n gweithio i wasanaeth ar-lein y Ö÷²¥´óÐã gallai unrhyw eiriau o'n eiddo i ymddangos yn nawddoglyd neu yn drahaus. Mae fy nghydweithwyr yn teimlo'r un peth. Mae hynny'n golygu bod stori o bwys i'r Cymry Cymraeg efallai ddim yn cael y sylw haeddiannol gan wasanaethau newyddion Cymraeg y Ö÷²¥´óÐã. Dydw i ddim yn credu y gall y sefyllfa hynny bara am fwy nag ychydig ddyddiau arall. Wedi'r cyfan mae gweinidogion y bae yn osgoi gorfod trafod sefyllfa sy'n embaras llwyr i'r llwyodraeth ar hyn o bryd. Fe fyswn yn codi'r mater yn lansiad Golwg360 yn y senedd heno pe na bai hwnnw wedi ei ohirio!

Mae S4C wedi bod yn fwy ffodus na Golwg wrth osgoi embaras dros siambols ar y we. Yn ôl yn Steddfod y llynedd lansiodd y sianel brosiect ar y cyd gyda ITV oedd yn cynnig dewis cyfoethog o ddeunydd Cymraeg. Ar fympwy ITV yn Llundain caewyd y safle yn ddisymwth deufis yn ôl. Ar y pryd cyhoeddodd S4C ddatganiad moel yn mynnu ei bod yn cydweithio ac ITV i sicrhai dyfodol y gwasnaeth hwnnw. Ers hynny beth sydd wedi digwydd? Dim byd hyd y gwelai i. Cerwch draw i'r i gael gweld.

Mae'n haws gwneud addewidion mawr na delifro yn y busnes newyddion 'ma!
.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:28 ar 20 Mai 2009, ysgrifennodd Rhys Llwyd:

    Dwi'n falch fod hwn yn destun embarass i wleidyddion y Bae Vaughan oherwydd mae yna lot o gwestiynnau annodd i'w hateb.

    Yn gyntaf, rhaid holi a’i Cyngor Llyfrau Cymru oedd y corff gorau i ddyfarnu’r grant yma yn y lle cyntaf? Pa arbenigaeth sydd gyda nhw ym maes cyfryngau digidol? Tybed pwy oedd ar y panel dyfarnu? A gafwyd unrhyw arbenigwyr o’r tu allan i mewn oedd a profiad ym maes cyfryngau newydd? Yn sicr nid oes arbenigaeth mewnol gan y Cyngor Llyfrau, nid beirniadaeth mo hyn dim ond nodi ffeithiau. Buaswn ni ddim yn gymwys, er enghraifft, i gynghori fy nghariad i pa stiletos i’w wisgo - dwi’n ddi-brofiad a di-glem yn y maes.

    Rydw i’n parhau i fod yn flin gyda’r Llywodraeth am droi cefn ar y BYD. Fel ail-ddewis da mi fuaswn ni wedi bodloni ar gael gwefan fel gwefan, dyweder, y Guardian yn Gymraeg. Ond sori, i mi nid yw gwefan Golwg 360 fel y mae ar hyn o bryd yn gwneud iawn am frad y BYD.

    A gan fod y wefan yma i fod yn gwireddu addewid Llywodraeth mae yn issue gwleidyddol ac nid Golwg fel cwmni sy'n atebol am y llanast ond yn hytrach y Llywodraeth sydd wedi trio torri corneli wrth wireddu'r addewid o bapur dyddiol Cymraeg. Dy ni wedi gweld wythnos yma beth sy'n digwydd pan fo llywodraeth yn torri corneli.

    "Arloesi" wir.

  • 2. Am 19:14 ar 20 Mai 2009, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Dwi ddim yn siwr pam eich bod chi mor swil. Mae'r Ö÷²¥´óÐã a Golwg yn ddau gorff sy'n hollol ddibynnol ar arian cyhoeddus a fe ddylai fod elfen gref o 'atebolrwydd' am yr hyn y mae'r naill neu'r llall yn wneud.

    Mae Golwg wedi bod yn ddigon parod i bigo blewyn o drwyn y Ö÷²¥´óÐã dros y blynyddoedd. Dyw eu hesgus o "wel wrth gwrs mae'r Ö÷²¥´óÐã yn cael £££" ddim yn dal dŵr chwaith o edrych ar safon y gwefannau mae cyrff cyhoeddus eraill yn gallu creu gyda ffracsiwn o £200,000 y flwyddyn.

  • 3. Am 00:36 ar 21 Mai 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Oherwydd fy mod yn ymwybodol o'r fantais sydd gan y Ö÷²¥´óÐã trwy gyfuno gwasanaethau Cymraeg ar radio, teledu ac arlein. Mae cystadleuaeth yn bwysig ac mae hynny' ond yn bosib ar y gwasanaethau arlein. Mae'n hynod bwysig bod y gwasanaeth arlein gan Golwg yn llwyddo er mwyn rhwystro newydduriaeth yn y Gymraeg rhag cael ei aberthu ar allor diogelu gwasanaethau teledu Saesneg

  • 4. Am 00:41 ar 21 Mai 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n ei chael hi'n anodd anghytuno.

  • 5. Am 11:21 ar 21 Mai 2009, ysgrifennodd Rhodri ap Dyfrig:

    Dyw'r Ö÷²¥´óÐã ddim yn ddi-euog o fethiannau ar y we chwaith. Roedd ffars Ö÷²¥´óÐã Jam yn haeddu sylw llawer ehangach, ond oherwydd nad oedd ganddon ni wasg anibynnol gall Gymraeg chafwyd dim sylw i'r mater o gwbl. Lle oedd y newyddiadurywr yn gofyn y cwestiynau caled yr adeg hynny?

    A nid £200k pitw a wastraffwyd yno ond llawer mwy na hynny, yn y miliynau dybiwn i. Roedd llawer o gynnyrch Cymraeg wedi cael ei gynhyrchu, a llawer mwy yn y pipeline, ond welwyd dim gronyn ohono olau dydd. O leiaf da ni yn cael newyddion gan Golwg!

    Mae crynodeb o'r stori gen i .

    Byddai unrhyw ymholiadau y galli di wneud pen yna Vaughan yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr...

  • 6. Am 15:16 ar 21 Mai 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Doeddwn i ddim yn rhan o'r ffrwgwd yna ond OS gofiai'n iawn dwi'n meddwl bod rhyw drefniant i gyhoeddi'r deunydd Cymraeg wedi ei addo. Y broblem (eto os ydy'r cof yn gywir) oedd bod y ddarpariaeth yn Saesneg yn cystadlu'n anheg a chynyrch darparwyr masnachol. Fe wnai ofyn beth ddigwyddodd i'r cynnyrch Cymraeg oherwydd mi wyt ti'n iawn- dwi'n cofio bod dipyn o waith wedi ei wneud.

  • 7. Am 17:03 ar 21 Mai 2009, ysgrifennodd rhodri:

    Falle mod i wedi colli rhywbeth Vaughan, ond i mi, fel darllenwr tudalennau NewyddionÖ÷²¥´óÐã a Golwg360, dwi ddim yn siwr am shambles rwyt ti'n siarad.

    Efallai mod i'n symleiddio pethau ychydig, ond mae golwg360 yn ymddangos i mi fel cam amlwg ymlaen i'w gymharu a Newyddion Cymru'r Byd (wnei di faddau imi ddweud hynny?) oherwydd mae'r gorchudd newyddion ar Golwg360 yn fwy cyflawn o lawer, ac yn cael ei ddiweddaru'n fwy amal. Mae e felly yn ffynhonnell newyddion gyffredinol werth ei ddarllen yn ei hunan (heb orffod troi at wefannau saesneg), yn hytrach na rhyw fath "niche" Gymraeg yn unig.

    Ai'r broblem yw fod pobol yn disgwyl gwell am yr arian sy'n cael ei roi? Neu a oes na hynt o rawnwyn sur yma?

  • 8. Am 17:24 ar 21 Mai 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Siomedig am saga golwg360.

    'Na gyd oedd angen oedd gwefan newyddion fel sydd gan cannoedd, os nad miloedd, o gwmniau papur a theledu eraill. Rhywbeth fel hyn:

    Gwasanaeth newyddion Galisieg (tebyg am wn i i golwg360)

    Ffont deche, digon o le ond dim gormod o wyn, ffotos ddim yn rhy fawr, digon o storis i'w darllen ar yr hafan heb orfod sgrolio lawr etc etc.

    Yn llawn gymaint o siom yw nad oes yr un colofnydd 'opinion' ar golwg! Y peth gorau am Newyddion arlein yw sylwadau Vaughan - mae bron a bod popeth arall i'w gael ar wefannau eraill. Felly Golwg, Alun Ffred, 6 neu 7 colofynydd bachog i golwg360 plis!

  • 9. Am 17:33 ar 21 Mai 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae'n ymddangos nad wyt ti wedi dioddef yr un problemau technegol a nifer fawr o'r rhai sydd wedi ceisio defnyddio'r safle, At y rheiny yr oeddwn yn cyfeirio yn hytrach na'r cynnwys. Mae cipolwg ar safle Metastwnsh yn esbonio'r problemau sydd wedi bod.

  • 10. Am 22:05 ar 21 Mai 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    6 neu 7 colofnydd bachog? Beth am fy monopoli? Fel mae'n digwydd rwy'n cytuno'n llwyr.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.