Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hen Hanes

Vaughan Roderick | 12:43, Dydd Mawrth, 19 Mai 2009

Mae'n bosib bod rhai o'n gwleidyddion wedi rhoi i fyny neu efallai eu bod yn ofni mentro i'r ffyrdd a'r caeau i wynebu dicter yr etholwyr. Beth bynnag yw'r rheswm ychydig iawn o ymgyrchu sydd i'w weld ar lawr gwlad ar gyfer yr etholiadau Ewropeaidd.

Ac eithrio ambell i daflen yr unig beth i mi weld yw poster enfawr ar safle masnachol gan UKIP ac arno'r slogan "Say No to Unlimited Immigration". Fel mae'n digwydd mae'r poster yn ward Glanyrafon, ward a chanran uchel o bobol o leiafrifoedd ethnig ond rwy'n cymryd mae cyd-ddigwyddiad yw hynny yn hytrach nac unrhyw sen fwriadol.

Yr hyn sy'n fwy trawiadol yw'r llun enfawr o Churchill ar y poster. Mae'n amlwg nad yw'r blaid yn gyfarwydd iawn â hanes y wlad y mae'n ymladd mor galed drosti.

Pwy oedd y prif weinidog wnaeth ddweud hyn? "We must build a kind of united States of Europe" a phwy wnaeth gynnig ar ran lywodraeth Prydain uno'r Deyrnas Unedig a Ffrainc yn un wladwriaeth?

Atebion ar gerdyn post os gwelwch yn dda.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:59 ar 19 Mai 2009, ysgrifennodd Deio:

    "Ac eithrio ambell i daflen yr unig beth i mi weld yw poster enfawr ar safle masnachol gan UKIP ac arno'r slogan "Say No to Unlimited Immigration". Fel mae'n digwydd mae'r poster yn ward Glanyrafon, ward a chanran uchel o bobol o leiafrifoedd ethnig ond rwy'n cymryd mae cyd-ddigwyddiad yw hynny yn hytrach nac unrhyw sen fwriadol."

    Beth sy'n gwneud i ti Vaughan feddwl y byddai pobol o leiafrifoedd ethnig o blaid "unilimited immigration"?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.