Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mam Fach

Vaughan Roderick | 15:21, Dydd Gwener, 15 Mai 2009

Dydw i ddim yn deall gwleidyddiaeth Ynys Môn. Ta beth dyma ganlyniad is etholiad yn ward Llanbadrig.

William Thomas Hughes 255

Tecwyn Vaughan Hughes 201

Doedd y naill ymgeisydd na'r llall yn cynrychioli plaid. Mae cynghorwyr Môn yn dewis eu teyrngarwch ar ôl gael ei hethol! Mae'n siŵr y bydd 'na groeso i'r Hughes buddugol.

Mae etholwyr Môn wedi hen arfer a dewis rhwng ymgeiswyr a'r un cyfenw. Yn ôl yn 1964 fe enillodd Hughes arall, Cledwyn, yn erbyn tri o'r Jonesiaid. Ta beth mae'n rhaid bod Hughes v. Hughes yn frwydr ddifyr gyda bron i hanner yr etholwyr yn bwrw eu pleidlais.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:30 ar 15 Mai 2009, ysgrifennodd Negrin:

    Mae aelodau annibynnol wastad yn broblem, does ganddy nhw ddim yn gyffredin gydai gilydd mae nhw'n brwydro ymysg ei gilydd am y 'porc' a does ganddy nhw ddim disgyblaeth. Mae'n llawer haws gweithio mewn clymblaid o Doris a Lib Dems na ryw gymysgedd o ejiits Annibynnol... ti'n sylwi my fod i ddim yn son am Lafur, dyna faint mor amherthnasol ydyn nhw mewn Llywodraeth Leol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.