Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pythia

Vaughan Roderick | 11:05, Dydd Sul, 31 Mai 2009

Pe bai gan fy nghyfaill Karl y bwci ddigon o wallt fe fyddai wedi eu rhwygo o'i ben ymhell cyn hyn wrth geisio llunio prisiau etholiad Ewrop. Mewn chwarter canrif o ddarogan hwn yw'r canlyniad anoddaf erioed i mi hefyd geisio ei broffwydo.

Mae na ddau arolwg barn Prydeinig wedi eu cyhoeddi yn ystod y dyddiau diwethaf. Y broblem yw eu bod yn gwrthddweud ei gilydd. Yn ôl Populus yn y mae 30% yn cefnogi'r Ceidwadwyr gyda UKIP (19%) yn yr ail safle a Llafur (16%) yn drydydd. Roedd 12% yn cefnogi'r Democratiaid Rhyddfrydol, 10% yn bwriadu pleidleisio i'r Blaid Werdd a 5% i'r BNP.

Mae darlun ICM yn y yn wahanol. Unwaith yn rhagor y Ceidwadwyr (29%) sydd ar y blaen ond y tro hwn y Democratiaid Rhyddfrydol (20%) sy'n ail. Mae Llafur (16%) eto yn drydydd gyda'r Blaid Werdd (11%) yn bedwerydd ac UKIP (10 %) yn bumed. Fel yn arolwg Populus 5% sy'n cefnogi'r BNP.

Yr hyn sy'n ddiddorol yn fan hyn yw bod y ddau arolwg yn gyson iawn ynghylch y gefnogaeth i'r rhan fwyaf o'r pleidiau. Yr eithriadau yw UKIP a'r Democratiaid Rhyddfrydol. I ddefnyddio'r gair ffasiynol mae'r gefnogaeth i'r ddwy blaid wedi "fflipio" rhwng y ddau arolwg.

Mae 'na esboniad. Wrth holi etholwyr mae Populus yn dangos cerdyn sy'n rhestri'r pleidiau sy'n sefyll yn yr etholiad. Hyd y gwn i, dyw ICM ddim yn defnyddio cerdyn o'r fath. Mae'n bosib felly bod y rhan hynny o'r boblogaeth sy'n dymuno gweld "pla ar bawb" wedi crybwyll enw'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth ICM ond o gael eu hatgoffa o fodolaeth UKIP gan Populus wedi dewis y blaid honno.

Mae'r arolygon hyn o fawr o gymorth i ni yng Nghymru ac eithrio'r ffaith eu bod yn cofnodi pleidlais drychinebus i Lafur a chefnogaeth ddigon llugoer i'r Ceidwadwyr. Ymhlith yr ychydig gwleidyddion a newyddiadurwyr oedd o gwmpas y Cynulliad dros y Sulgwyn y consensws oedd y bydd y Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru o fewn dau neu dri y cant i'w gilydd yn yr etholiad ac mai Plaid Cymru sy'n debygaf o fod a'i thrwyn ar y blaen. Oni cheir cynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol neu UKIP fe fyddai hynny'n golygu dwy sedd i Blaid Cymru ac un yr un i Lafur a'r Ceidwadwyr.

Rwy'n gosod pob rhybudd iechyd sy i gen ar y broffwydoliaeth honno. Mae'n seiliedig ar y ffaith bod gan Blaid Cymru isafswm o rhyw 120,000 o gefnogwyr hynod ffyddlon sy'n troi mas ymhob etholiad. Plaid Cymru hefyd yw cartref traddodiadol y bleidlais brotest yn cymoedd ac mae arolygon diweddar Beaufort (i Blaid Cymru) wedi awgrymu cynnydd sylweddol yn ei chefnogaeth yn rhanbarth canol De Cymru ar lefel etholiad cynulliad. Pe bai'r nifer sy'n pleidleisio yn isel (ac mae'r nifer o bleidleisiau post sydd wedi eu dychwelyd yn awgrymu hynny) fe allai'r bleidlais graidd ynghyd a'r bleidlais brotest fod yn ddigon. Ond, fel dywedais i, does neb yn gwybod.

Fe wnes i un ymdrech olaf i ddarogan yn gywir. Fe wnes i ffonio oracl Delffi i weld os oedd hi'n gallu helpu. Dyma'r ateb "Yn anffodus nid yw Pythia ar gael ar hyn o bryd. Gadewch neges ar ôl y sain." Byswn wedi lladd mochyn daear i ddarllen ei berfeddion ond yn anffodus doedd Elin Jones ddim o gwmpas!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:53 ar 31 Mai 2009, ysgrifennodd MH:

    Wi'n cytuno 'da chi am agosrwydd canlyniadau y dair blaid fawr - sef y Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru - Vaughan.

    Ond, fel ddwedais i , bydd rhaid help cefnogwyr y Blaid Werdd i wneud yn hollol siwr fod Plaid Cymru yn ennill y bedwerydd sedd yng Nghymru ddydd Iau.

  • 2. Am 09:52 ar 1 Mehefin 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Nid ti ydi'r unig un i feddwl mai Plaid allai ddod i'r brig wythnos nesaf - mae 'na ambell un ohonom yn darogan hynny, ond wrth gwrs heb unrhyw sicrwydd. Tybed pa mor arwyddocaol fyddai hynny?

  • 3. Am 13:45 ar 1 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Does gen i dddim syniad pwy sy'n mynd i ennill y sedd olaf. Ond rwy'n fodlon daragon y bydd y BNP yn nesau at 10%

    Canlyniad rhywbeth fel:

    PC 24%
    Tori 22%
    Llafur 20%
    UKIP 10%
    Rhydd 10%
    BNP 9%
    Gwyrdd 5%
    Eraill 0%

    Efallai !!!!

  • 4. Am 15:40 ar 1 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Roeddwn i wedi sylwi dy fod tithau a Blog Menai wedi awgrymu'r un peth ond, fel wyt ti'n dweud, mae'n amhosib proffwydo ac unrhyw sicrwydd

  • 5. Am 15:46 ar 1 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mi wyt ti'n fwy dewr na fi! Fe wnes o ochel rhag proffwydo canrannau ond rwy'n meddwl dy fod yn iawn i dybio y bydd PC, Llafur a'r Ceidwadwyr i gyd yn ennill rhwng 20% a 25%.

  • 6. Am 00:51 ar 3 Mehefin 2009, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Mae gyda 'political betting' llawer mwy o ddetail am y cerdiau sydd yn cael ei dangos i'r pobol y maent yn 'canfaso'..

    Fel esiampl, nid yw 'YouGov' yn 'promptio' UKIP ar ei sgrin cyntaf [mae ei arolwg barn yn 'ar lein' rwy'n credu..]

    Ac mae 'Other' weithiau yn cynnwys 'Other' ARALL cyn dangos partiau fel 'No2EU' ac ati, gyda rhai cwmniau.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.