Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Anoracia

Vaughan Roderick | 20:41, Dydd Mercher, 10 Mehefin 2009

Rwyf newydd ddychwelyd o gwis blynyddol y Sefydliad Materion Cyhoeddus. Hwn, heb os, yw'r digwyddiad mwyaf anoracaidd yn y calendr Cymreig- dwy awr o gwestiynau ynghylch LCOs, pwyllgorau deddfwriaethol ac yn y blaen. Roedd gan y rhan fwyaf o'r cwmnïau lobio eu timau felly hefyd y cyfryngau a'r pleidiau gwleidyddol. Ac eithrio un blaid, hynny yw. Nid y Gymru wledig yw'r unig le lle mae Llafur yn diflannu!

Un cwestiwn wnaeth pery pryder i sawl tîm oedd hwn. "Sawl Aelod Seneddol ac Arglwydd oedd yn aelodau o'r cynulliad cyntaf?" Wyth yw'r ateb cywir ond saith oedd ateb y rhan fwyaf o'r timau. Yn rhyfedd roedd y rhan fwyaf o dimau wedi anghofio'r un person. Pwy oedd hwnnw? John Marek? Cynog Dafis? Nage'n wir. Y person anghofiedig oedd Ieuan Wyn Jones. Mae hynny'n dweud rhywbeth. Dydw i ddim yn siŵr beth!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:15 ar 10 Mehefin 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Vaughan - wnes di ddim holi Carwyn Jones ar CF99 pam fod Wigley ac aelodau Plaid Cymru yn aros am dwy flynedd i gael eu 'dyrchafu' i Dy'r Arglwyddi a fod Glenys Kinnock yn cael eu dyrchafu fel Scotty ar Star Trek ... fawr o sylwedd i honiad Brown am lanhau gwleidyddiaeth, trylowyrder a diwygio'r cyfansoddiad.

    Oes rheswm/esgus gan Lafur?

  • 2. Am 23:29 ar 10 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Paid becso fe fydd dy gwestiwn yn cael ei ofyn! Doeddwn i ddim yn teimlo mai Carwyn oedd y person i'w ateb. Mae gen i amryw o gyfleoedd yn ystod yr wythnos nesaf.

  • 3. Am 09:40 ar 11 Mehefin 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Diolch Vaughan.

  • 4. Am 14:28 ar 11 Mehefin 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Yn gwbl amherthnasol i'r sgwrs yma, ond o gymryd taw'r toriaid fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf, a DC wedi gweud y bydd yn torri ar niferoedd y seddi yn San Steffan, siwd bydd hynny'n effeithio ar nifer y seddi yn y Cynulliad? Oes unrhyw reswm cyfreithiol i ddefnyddio'r un un ffiniau? A fydd yn rhaid i ni ethol dau aelod o bob sedd, a'r 20 top yps i ewneud 80 (ish) aelod o hyn ymlaen? Ble bydd modd i ni ffindio rhywun o'r un safon a'n haelod presennol yn Islwyn?

  • 5. Am 14:58 ar 11 Mehefin 2009, ysgrifennodd Rhys:

    On i'n gallu rhifo chwech o'r saith bant yn syth, ond waries i ryw ddeg munud yn meddwl pwy on i wedi anghofio: neb llai na'r Wir Anrhydeddus Rhodri Morgan!

  • 6. Am 15:36 ar 11 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Os gofiau'n iawn fe fyddai gan Gymru ryw 32 o aelodau senddol pe bai'n hetholaethau o'r un maint a rhai Loegr. Wrth gwrs ef fyddai'n llai eto pe bai DC yn torri nifer yr aelodau yn Lloegr. Mae etholaethau senedd yr Alban eisoes yn wahanol i etholaethau Albanaidd San Steffan oherwydd y gwahaniaeth yn y niferoedd. AS neu AC Islwyn wyt ti'n cyfeirio ato/i neu'r ddau!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.