Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Argyfwng

Vaughan Roderick | 19:09, Dydd Gwener, 5 Mehefin 2009

Anghofiwch beth sy'n digwydd yn San Steffan am funud. Mae'n ymddangos bod argyfwng ychwanegol yn bygwth Llafur yma yng Nghymru. Dydw i ddim yn gwybod os ydy'r si yn wir ai peidio ond mae mwy nac un aelod Llafur wedi dweud wrtha i eu bod yn disgwyl i ganlyniadau'r blaid yng Nghymru fod yn waith na'r rhai yn Lloegr. Mae rhai yn darogan yn hyderus y bydd y blaid yn "drydydd gwael" ar ddiwedd y cyfri. Dywedodd Peter Hain y prynhawn yma bod y blaid Gymreig yn ei chyflwr gwannaf ers cenedlaethau.

Fel dywedais dydw i ddim yn gwybod os ydy'r darogan yn gywir ai peidio ond mae rhai o fawrion y blaid yn gynddeiriog ynghylch safon yr ymgyrch. Y swyddfa ganolog yng Nghaerdydd sy'n cael y bai ac mae'n ymddangos y gallai swyddi rhai o' staff fod dan fygythiad.

Yn y cyfamser heno mae Huw Lewis, un o'r ymgeiswyr i olynu Rhodri Morgan, wedi galw arno i ohirio ei ymddeoliad. Yn ôl Huw Rhodri yw'r un i arwain Llafur Cymru allan o'r argyfwng presennol. Beth sydd wrth wraidd yr alwad? Dydw i ddim yn meddwl bod Huw yn gwneud rhyw symudiad tactegol yn fan hyn. Yn hytrach, fel un oedd yn arfer fod yn weithiwr llawn amser yn y pencadlys, mae'n teimlo bod angen i'r blaid Gymreig newid popeth ar fyrder. Popeth, hynny yw, ac eithrio ei harweinydd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:58 ar 5 Mehefin 2009, ysgrifennodd Albert:

    Vaughan......
    Mae Llafur yn dda iawn am neud hyn - sef dweud bod yr etholiad wedi bod yn waeth nag oedd e go iawn, fel bod pawb yn ei gweld hi fel rhyw fath o fuddigoliaeth pan mae'r canlyniadau'n dod.
    Felly - o be maen nhw'n ddeud, swn i'n cymryd eu bod nhw wedi gneud yn weddol yng Nghymru.

    O ran Huw Lewis - ydi hi dal yn bosib iddo fo sefyll rwan fel arweinydd ar ol cyfadda bod y joban yma o ailadeiladu Llafur Cymru'n rhy fawr iddo fo.

  • 2. Am 22:29 ar 5 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae pob plaid wrth gwrs yn ceisio defnyddio'r tric yr wyt ti'n cyfeirio ato. Dydw i ddim yn meddwl mai dyna sy'n digwydd yn fan hyn. Rwy'n credu bod 'na sioc a dicter go-iawn. Fedrai ddim cyfleu pa mor wenwynig yw'r ymosodiadau ar bencadlys y blaid yng Nghaerdydd gan aelodau cyffredin y blaid a'r mawrion fel ei gilydd. Bwch dihangol? O bosib.
    Mae dy bwynt ynghylch Huw yn un rhagorol ond dydw i ddim yn credu ei fod yn meddwl mor bell ymlaen a hynny. Rwy'n meddwl mai rhyw fath o "triage" sydd ganddo fe mewn golwg. Mae'n werth cofio mai hwn fydd y trydydd etholiad trychinebus o'r bron i Lafur Cymru. Yn achos Huw ei hun fe gadwodd ei sedd ym Merthyr yn 2007 gyda llai na thraean o'r bleidlais. Fe fyddai'n naturiol i fe fecso am am ei sedd ei hun yn y sefyllfa bresenol.

  • 3. Am 22:42 ar 5 Mehefin 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Dylse Huw Lewis, gwrthwynebwyr Llafur i Cymru'n Un a'r gwrth-ddatgonolwyr fynd ar eu gluniau i ddiolch i 4 AC benywaidd Plaid Cymru am eu cadw mewn grym.

    Petai'r LibDems heb simsanu fydde Llafur allan o rym yn y Cynulliad a dwi'n meddwl allan o rym am genhedlaeth.

    Rhyfedd o fyd.

    Galle UKIP ennill sedd yng Nghymru - gan ennill cefnogaeth gan Lafurwyr traddodiadol yn oygstal a Cheidwadwyr. Y bygythiad mwyaf iddynt yw fod y bleidlais genedlaetholaidd Brydeinig (wrth-Gynulliad efallai?) yn cael ei rhannu mewn gwahanol ffyrdd rhwng UKIP, BNP a'r Ceidwadwyr - nid 'mod i'n ceisio dweud fod y 3 blaid yr un peth. Ond os ydi rhywun am 'Brydain gref' yna mae 3 Blaid sy'n canu gwahanol fersiynnau o'r gan hynny.

    Vaughan - beth am y rhagdybiaeth (rhagfarn?) glywes i'n ddiweddar gan un sylwebydd tafod mewn boch, fod Ceidwadwyr anhapus yn pleidleisio UKIP a Llafurwyr anhapus yn pleidleisio BNP? Unrhyw sylwedd i hyn?


  • 4. Am 10:09 ar 6 Mehefin 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Dwi'n meddwl bod cais Huw Lewis yn arwydd o wendid di-droi'n ôl i'r Blaid Lafur yng Nghymru.

    Y gwir amdani ydi, gydag eithriad posibl Carwyn Jones, 'does 'na neb i arwain y blaid yng Nghymru. Mae personoliaeth Rhodri Morgan wedi bod yn un o gryfderau'r blaid ers degawd dda, a heb Rhodri Morgan fyddai'r blaid eisoes mewn gwaeth drafferthion.

    Y gwir ydi, yr unig beth y mae'n rhaid i Lafur wneud ydi ail-adeiladu o'r gwreiddiau i fyny. Dwi ddim yn meddwl bod yr ewyllys yno i wneud hynny. Ble fyddai'r blaid yn dechrau pan fo cymaint o'i le. Peth academaidd, erbyn hyn, ydi p'un a fydd Rhodri'n aros neu a oes angen arweinydd newydd ar y blaid Gymreig.

  • 5. Am 13:47 ar 6 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi Ogwen:

    Y peth sy'n anhygoel i gwymp y Blaid Lafur bod pobl yn ceisio darogan pwy fydd yn enill y bedwerydd sedd. Mae'r mwyafrif yn credu ei fod rhwng UKIP a Phlaid Cymru, nid oess lawer bellach yn proffwydo y bydd Llafur yn enill. Nid oess llawer bellach yn credu y bydd Llafur y Blaid mwyaf Yng Nghymru chwaith gyda rhai yn son efallai na fyddent yn ail chwaith. I feddwl bod y Blaid Lafur yn gallu dibynnu ar 60% o'r bleidlais yng Nghymru mae'r cwymp yn ei chefnogaeth yn ddifrifol iawn.

  • 6. Am 13:52 ar 6 Mehefin 2009, ysgrifennodd Wyn Hobson:

    Yr unig arwydd a gafwyd o ymgyrch etholiadol gan y Blaid Lafur, yn ein pentref ni, oedd un daflen drwy'r drws yn dweud fawr ddim am Ewrop ac yn canolbwyntio ar godi ofn y byddid yn dychwelyd i ddyddiau duaf Thatcheriaeth pe bai'r Ceidwadwyr yn 'ennill'.

    Hyd yn oed ac anwybyddu'r ffaith fod gan awduron y cyhoeddiad truenus hwn feddwl isel iawn o allu etholwyr i wahaniaethu rhwng effeithiau etholiad San Steffan/Cynulliad ac etholiad Ewropeaidd, mae'n amlwg nad ydynt yn cofio (neu'n deall) dim am hanes. Codi bwganod ynglyn â dychwelyd at hen drychinebau Llafur oedd yr union dacteg bropaganda y dibynnodd y Ceidwadwyr arni cymaint yn y 1990'au, ac a fethodd yn ulw ym 1997.

    Y broblem arall ym mhencadlys Llafur Cymru, fodd bynnag, yw diffyg arian yn y coffrau i gynnal unrhyw ymgyrch o wir sylwedd. Erbyn haf 2007 roeddynt yn gorfod diswyddo staff. Erbyn gwanwyn 2008 roeddynt yn methu â thalu biliau cyflenwyr yn brydlon, ac yn gorfod symud arian yn barhaus rhwng cronfeydd llai dyledus a rhai mwy dyledus er mwyn talu o gwbl.

    Mewn gair, mae Plaid Lafur Cymru'n fethdalwr i bob pwrpas ymarferol, a hynny ers ymhell dros flwyddyn. Mae'r cwestiwn sut y byddai cadw Rhodri Morgan ymlaen yn ei swydd yn adfer y sefyllfa honno yn un nad yw Huw Lewis, fe ymddengys, wedi mynd i'r afael ag ef eto.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.