Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dinas

Vaughan Roderick | 09:29, Dydd Mercher, 10 Mehefin 2009

Fe gododd Monwynsyn pwynt diddorol iawn mewn sylwad rhai dyddiau yn ôl sef bod yr etholiad Ewropeaidd wedi cydymffurfio a'r model tair rhanbarth (y Gymru Gymraeg, y Gymru Gymreig a'r Gymru Brydeinig) o wleidyddiaeth Cymru. Mae'n ddadansoddiad craff ond mae 'na un eithriad amlwg ac mae hynny'n digwydd yn y "Gymru Brydeinig". Gadewch i ni ystyried cyfanswm y pleidleisiau yn yr hen Dde Morgannwg.

Ceidwadwyr; 27,126
Llafur; 19,476
Plaid Cymru; 12,547
Dem. Rhydd. 12,462
UKIP; 12,311

Dyw hwnna ddim yn ganlyniad Prydeinig! Yr hyn sy'n sefyll allan, wrth gwrs, yw'r ffaith mai Plaid Cymru oedd yn drydydd- neu'n gydradd drydydd o ystyried pa mor agos oedd cyfanswm pleidleisiau PC, y Democratiaid Rhyddfrydol ac UKIP. Fe fyddai'r canlyniad hwnnw wedi ymddangos yn amhosib hyd yn oed degawd yn ôl ac fe ddigwyddodd mewn etholiad di-ddrwg, di-dda i'r blaid. Mae'n werth nodi bod Plaid Cymru wedi ennill mwy o bleidleisiau ym Mro Morgannwg a Gorllewin Caerdydd nac yn Islwyn, Cwm Cynon a Merthyr yn y "Gymru Gymreig"

Oes gen i esboniad? Mae gen i fwy nac un! Yn gyntaf mae awgrym Monwynsyn ei hun sef y nifer o bobol sydd wedi symud i Gaerdydd o rannau eraill o Gymru. Yn sicr mae hynny'n rhan o'r esboniad ond mae 'na elfennau eraill. Mae rhai o fewn Plaid Cymru yn tynnu sylw at gefnogaeth lleiafrifoedd ethnig mewn wardiau fel Glanyrafon. Mae 'na wirionedd yn hynny hefyd ond mae 'na ffactor arall eto un sy'n deillio o hanes gwleidyddol hyll y brifddinas.

Tan canol y ganrif ddiwethaf roedd pleidleiswyr dosbarth gwaith Caerdydd a'r Barri (fel rhai Lerpwl a Glasgow) yn pleidleisio yn ar sail crefydd. Plaid "plant Mari" oedd y blaid Lafur. Roedd capelwyr ac eglwyswyr ar y cyfan yn cefnogi'r Torïaid neu'r Rhyddfrydwyr. Un o'r rhesymau yr oedd George Thomas yn gwisgo ei Fethodistiaeth ar ei lewys oedd er mwyn tanlinellu'r pwynt nad plaid Gatholig oedd y Blaid Lafur.

Os edrychwch chi ar y wardiau lle enillodd Plaid Cymru dir yn yr etholiadau cyngor diwethaf dydyn nhw ddim yn wardiau lle mae 'na nifer fawr o fewnfudwyr o weddill Cymru nac o bleidleiswyr ethnig. Mae'n nhw'n wardiau dosbarth gwaith gwyn, llefydd fel Tyllgoed, Trelái a Llanrhymni. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael llwyddiant tebyg mewn wardiau megis Caerau a Gabalfa.

Cyn i neb fy nghamddeall nid awgrymu ydw i bod y patrwm crefyddol yn ailymddangos. Y pwynt yw hyn. Dyw pleidleiswyr dosbarth gwaith Caerdydd ddim yn perthyn i'r "llwyth Llafur" yn yr un modd a phleidleiswyr y cymoedd. Mae'r gefnogaeth wastad wedi bod yn amodol yn hytrach nac yn awtomatig.

Mae hyn oll yn hynod bwysig pan ddaw'r etholiad cynulliad nesaf. Yn y Gogledd a'r Gorllewin mae 'na obaith i Lafur gael ei digolledi o'r rhestr ar ol colli sedd etholaeth. Dyw hynny ddim yn wir yng Nghanol De Cymru. Mae'n bosib felly mai De Morgannwg fydd yn penderfynu lliw llywodraeth nesaf Cymru.

Mae sgwennu'r post yma wedi achosi pwl o hiraeth am hon! "Gwydred arall o win, Leslie?"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:50 ar 10 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Mae yna ffenomenon sy'n ystadegol eglur o'r canlyniadau. Roedd perfformiad y Blaid Lafur yng Nhastell Nedd ac Aberafan yn gymharol ardderchog. Clod i Derek Vaughan,

  • 2. Am 12:00 ar 10 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Diddorol er yn fy hnyb i mai symud poblogaeth o'r cymoeed a'r Gymru Gymraeg yn ffactor pwysig.

    Mae yna ffaith sy'n ystadegol eglur o'r canlyniadau. Perfformiodd y Blaid Lafur yn llawer gwell na'r disgwyl ystadegol yn Nedd Afan. Clod i Derek Vaughan am ddwy fil neu fwy o bleidleisiau personol.

  • 3. Am 13:27 ar 10 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diawl, rwy'n dwp weithiau. Roeddwn yn pendronnu ynghylch canlyniad CN gan fethu'r esboniad amlwg!

  • 4. Am 15:59 ar 10 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi:

    ...ac yr "outlier" rhyfedd arall yw'r bleidlais Lafur ar Ynys Mon - 2,148 - Rhaid bo Llafur yn cael mwy o bleidleisiau na hynny yn etholiadau cyngor yng Nhaergybi...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.