Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Erchyll Law Brad

Vaughan Roderick | 13:30, Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2009

Bore'r cynadleddau newyddion yw bore Mawrth yn y cynulliad. Heddiw roedd 'na bedair, un yr un gan Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ac un gan Carwn Jones ar ran y llywodraeth. A bod yn onest roedd cynadleddau heddiw yn rhai digon di-liw gydag ambell i eithriad.

Dyna i chi Peter Black yn cyfeirio at Lafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru fel "the three major parties in Wales" Wps!

Tamaid i aros pryd oedd hynny. Cynhadledd newyddion y Ceidwadwyr oedd y prif gwrs. Mae cynadleddau wythnosol y Ceidwadwyr yn bethau digon rhyfedd. Yn lle dewis eu pwnc trafod eu hun fel mae'r pleidiau eraill yn gwneud mae Nick Bourne jyst yn eistedd wrth y bwrdd gan adael i'r newyddiadurwyr lywio'r drafodaeth i ba bynnag cyfeiriad sy'n apelio.

Dydych chi ddim yn ennill pysgodyn aur am ddyfalu mai sylwadau diweddar Jonathan Morgan oedd at ddant pac y wasg heddiw. Dywedodd Nick nad oedd eto wedi "cael cyfle i sgwrsio" a Jonathan er bod Alun Cairns (y chwip) wedi cael "gair bach". Mynnodd Nick na fyddai ymosodiad ffyrnig Jonathan arno fe a'i bolisïau yn cael unrhyw effaith ar etholiad Ewrop. Doedd e ddim am gosbi Jonathan chwaith. "Nid dyna yw fy steil" meddai.

Arwydd o steil Nick Bourne... neu arwydd o wendid ei gefnogaeth? Cewch chi benderfynu.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:28 ar 2 Mehefin 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Mae'r hen Peter Black yn rhyfeddol yn tydi? Mae'n biti nad ydi o'n gyfrifol am ymgyrchyrchoedd ei blaid.

  • 2. Am 20:55 ar 2 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Tafod yn dy foch, dwi'n cymryd! I'r rheiny sy ddim yn gwybod Peter yw cadeirydd pwyllgor ymgyrch Ewrop.

  • 3. Am 09:33 ar 3 Mehefin 2009, ysgrifennodd Peter Black:

    To be fair I used that phrase in the context of a question as to who the Welsh Liberal Democrats main competitors were for the fourth seat. I would not therefore have included my own party in that answer.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.