Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Barnu Sylw

Vaughan Roderick | 15:31, Dydd Llun, 20 Gorffennaf 2009

cylchgronau.jpgMae 'na broblemau sy'n boen tin ac eraill sy'n bleserus. Ar ôl problemau poenus lansiad Golwg360 mae'r Cyngor Llyfrau yn awr yn wynebu y dasg bleserus ond anodd o ddewis rhwng dau gylchgrawn safonol sy'n cystadlu am y grant i gynhyrchu misolyn materion cyfoes Cymraeg.

Rwyf wedi dweud fy nweud am Barn yn weddol ddiweddar. Mae'r cylchgrawn, yn fy marn i, wedi gwella'n aruthrol ers i'w dyfodol gael ei fygwth. Mae'r rhifyn dwbl cyfredol yn adlewyrchu hynny.

Mae gan Barn un fantais bwysig dros "Sylw" hefyd sef criw o sylwebwyr craff a chyhyrog sy'n asgwrn cefn i'r cylchgrawn. Wrth reswm, pe bai Sylw yn ennill y cytundeb mae'n ddigon posib y byddai pobol fel Richard Wyn Jones, Bethan Kilfoil a Ioan Roberts yn gyfranwyr ond doedden nhw ddim ar gael i'r rhifyn peilot ac i raddau mae hynny'n dangos.

Beth am Sylw felly? O safbwynt y ddelwedd, fel y byddai dyn yn disgwyl gan fois y Lolfa, mae'n gynhyrchiad cwbwl broffesiynol, lliw llawn ar bapur sgleiniog. Yn bersonol dydw i ddim yn hoffi'r ffurfdeip na'i maint ac mae'r tudalennau pedair colofn yn edrych braidd yn rhy brysur i'n llygad i. Mae'r tudalennau lle mae na ddwy neu dair colofn yn lanach ac yn haws eu darllen.

Y cynnwys sy'n cyfri, wrth gwrs. Mae'n amlwg mai bwriad golygyddion Sylw oedd cynhyrchu cylchgrawn fyddai'n apelio at gynulleidfa fwy eang na Barn heb fynd yn isel-ael ac heb golli y swmp a'r sylwedd angenrheidiol.

Mae 'na ddigon o bynciau difrifol yn cael eu trin yn Sylw ond mewn erthyglau sy'n fyrrach a mwy cryno na rhai Barn. Mae'n ymddangos bod y golygyddion wedi ymwrthod ac erthyglau hir mewn ymdrech i gynnwys "rhywbeth at ddant pawb". Mae'r unig erthygl hir yn ymwneud ac Angharad Mair. Hi hefyd sydd ar glawr y cylchgrawn. Mae'r erthygl ei hun yn ddigon diddorol ond oedd gwir angen cynnwys cymaint o luniau steil "Hello" ohoni?

A dyna yw'r broblem yn fy marn i. Mae erthyglau cryno a lluniau mawr o "sêr" Cymru yn nodweddion amlwg o gylchgrawn "Golwg" ac ar adegau mae darllen Sylw yn teimlo fel darllen fersiwn fwy sgleiniog o'r wythnosolyn.

Beth bynnag yw ffaeleddau Barn mae'n wahanol iawn i Golwg! Mae'n fater o chwaeth bersonol, wrth gwrs, ond i fi mae 'na fwy o ddeunydd darllen gafaelgar ar dudalennau Barn.

Ond pwy yw fi i ddweud? Wedi'r cyfan rwy'n dal i golli'r Faner!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:47 ar 20 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Dan Din:

    Tanysgrifia i'r Faner Newydd Vaughan

  • 2. Am 19:33 ar 20 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Trafodaeth ddigon difyr ar Wythnos Gwilym Owen heddiw. Ond, roedd sawl un ar y panel - digon traddodiadol! - yn honni nad oedd y broses yn deg hefo Barn, ond yn anwybyddu braidd pa mor anodd yw hi i gynhyrchu cylchgrawn cyflawn allan o ddim.

    Dewisodd sawl un o'r panel gefnogi Barn er mwyn cadw'n driw i'r cylchgrawn hwnnw. Sgwn i a fydd yna aelodau o Bwyllgor Grantiau'r Cyngor Llyfrau yn gwneud eu dewis am resymau tebyg?!

  • 3. Am 20:28 ar 20 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwy'n cytuno'n llwyr. A barnu o'r rhifynnau yma byswn i'n ffafrio Barn ond dim ond o drwch blewyn ac mae'n rhaid cofio bod criw presennol Barn wedi cael sawl rhifyn i berffeithio'r cylchgrawn. Dydw i ddim yn gwybod sut mae'r broses yn gweithio ond rwy'n cymryd y bydd criw Sylw yn cael cyfle i gyflwyno achos gan gynnwys crynodeb o'r hyn sydd wedi ei ddysgu o'r 'peilot'.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.